Swydd Wag -- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe : Penodi Cadeirydd
Manylion y swydd
Rôl y corff
Disgrifiad o'r swydd
Bydd y Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a’i lywodraethu effeithiol, am gynnal gwerthoedd y GIG, ac am ennyn hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled Cymru.
Bydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:-
- Yn datblygu Gweledigaeth Strategol ar gyfer gwasanaethau'r Bwrdd yn y dyfodol, gan nodi a gwireddu'r sgiliau a'r potensial cynhenid o fewn y sefydliad i ddatblygu gwasanaeth arloesol o'r radd flaenaf;
- Yn cynnig arweiniad cryf, effeithiol a gweladwy ar draws cyfrifoldebau'r Bwrdd, yn fewnol drwy'r Bwrdd, ac yn allanol drwy ei gysylltiadau ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd ac yn genedlaethol;
- Yn sicrhau bod y Bwrdd yn darparu'n effeithiol nodau strategol a gweithredol y Bwrdd Iechyd drwy gyflawni nodau strategol, polisïau a threfn lywodraethu;
- Yn gyfrifol am gynnal yr ansawdd uchaf o ran safonau ac arferion iechyd cyhoeddus, gan wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd;
- Yn atebol am berfformiad y Bwrdd ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd ac yn genedlaethol, drwy gytuno ar gynllun tymor canolig integredig tair blynedd a chynllun cyflawni blynyddol, a'r gwerthusiad blynyddol o’r cyraeddiadau yn erbyn y cynllun yn gyhoeddus gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
- Yn sicrhau bod y Prif Weithredwr yn atebol am bob un o'i gyfrifoldebau;
- Yn gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid, yn arbennig Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector a Phartneriaid Cymdeithasol, a hefyd gyda chontractwyr gofal sylfaenol, i sicrhau bod gwasanaethau diogel ac effeithiol yn cael eu cynllunio a'u darparu;
- Yn rhoi sicrwydd a threfn lywodraethu ar gyfer gofalu'n briodol am arian cyhoeddus ac adnoddau eraill y mae'r Bwrdd yn atebol amdanynt;
- Yn rhoi sicrwydd bod y Bwrdd yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, yn unol â'r fframwaith a'r safonau a osodwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru;
- Yn mabwysiadu rôl fel llysgennad allanol, gan gynrychioli'r Bwrdd yn gyhoeddus a meithrin hyder y cyhoedd.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Bydd y Cadeirydd yn dangos y priodoleddau canlynol:-
Gwybodaeth a Phrofiad
Hanfodol
Y gallu i ddatblygu gweledigaeth strategol ar gyfer y dyfodol;
Y gallu i ddarparu arweinyddiaeth ar systemau a gweithio gyda Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru, grwpiau cymunedol, cleifion a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu ac ysgogi'r weledigaeth strategol honno;
Y gallu i ddwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
Dealltwriaeth eang o faterion llywodraethu a sut y mae llywodraethu yn berthnasol i reoli corfforaethol, clinigol a rheoli gwybodaeth.
Dymunol
Deall problemau a blaenoriaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;
Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Ffôn: 03000 255454
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu trafodaeth anffurfiol am rôl y Cadeirydd, cysylltwch â:
Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru.
Ffôn: 03000 251182 (Dr Goodall)
E-bost: Andrew.Goodall@llyw.cymru.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/863/hafan
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 03000 255454 neu anfonwch e-bost i penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Sut i wneud cais
Mae'r Atodiadau sydd ynghlwm yn rhoi manylion ynghylch rôl y Cadeirydd, manyleb y person, a rôl a chyfrifoldebau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rhoddir amlinelliad o'r broses ddethol hefyd.
I wneud cais, ewch i wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/
I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar swydd wag Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yna cliciwch ar y botwm 'Gwneud cais' ar waelod y dudalen ar yr ochr chwith. Y tro cyntaf ichi wneud cais am swydd, bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru, a thrwy wneud hynny byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu cyflwyno, trwy'ch cyfrif.
Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen ichi gyflwyno'r ffurflen gais a dwy ddogfen ategol.
Mae’r ddogfen gyntaf yn ddatganiad personal sy’n ateby cwestiynau ar dudalennau 3 a 4 o’r pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn. CV llawn, cyfredol yw'r ail ddogfen ategol y bydd rhaid ichi ei chyflwyno.
Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen i'r adran “Rhesymau dros ymgeisio” o'r ffurflen gais ar-lein.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.