Gallwch wneud cais i unrhyw un o Fanciau Talent Llywodraeth Cymru drwy glicio ar y ddolen ‘Banc Talent’ yn y bar fwydlen uchod, ac yna clicio ar y ddolen i'r Banc Talent perthnasol.
Unwaith i chi wneud cais, fe fyddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cais. O bryd i’w gilydd mae’n bosib y byddwch yn derbyn gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru i dynnu’ch sylw at gyfleoedd perthnasol.