Swydd Wag -- Banc Talent Cyfleoedd Profiad Gwaith, Lleoliadau a Phrentisiaethau
Disgrifiad
Weithiau gall Llywodraeth Cymru ddarparu nifer o gyfleoedd yn amrywio o raglenni datblygu talent fel profiad gwaith, lleoliadau gwaith, ac interniaethau i gynlluniau recriwtio cyfyngedig fel ein cynllun prentisiaeth blynyddol.
Fe fydd ein holl gyfleoedd yn ddibynnol ar angen busnes, felly fe fydd yr amseru a’r nifer o gyfleoedd sydd ar gael yn amrywio yn ystod y flwyddyn. Rydym yn awyddus i’ch hysbysu o’n holl gyfleoedd datblygu talent a recriwtio cyffrous drwy ein Banc Talent Cyfleoedd.
Os hoffech chi i ni gadw mewn cyswllt gyda chi ynghylch ein cyfleoedd, cofrestrwch eich manylion a llenwch ein ffurflen gais ‘Banc Talent’. Nodwch pa fath o gyfleoedd sydd gennych chi ddiddordeb mewn clywed amdanynt. Byddwn wedyn yn eich diweddaru gyda manylion o’r cyfleoedd sydd ar gael, pryd y byddwn yn hysbysebu, a sut.
Mae croeso i chi gofrestru eich manylion yn Saesneg neu’r Gymraeg, a byddwn yn cyfathrebu gyda chi yn yr iaith honno.
Mae’r ffurflen gais Banc Talent yn gofyn i chi ddarparu peth gwybodaeth am eich cefndir. Mae’r cwestiynau hyn at ddibenion monitro yn unig. Fel corff sy’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth yn ei holl agweddau, mae hyn yn hollbwysig i ni. Trwy ddarparu’r wybodaeth hon, fe fyddwch yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf posibl, a’n llwyddo i beidio ag eithrio unrhyw unigolion yng Nghymru. Ni fyddwn yn rhannu’r wybodaeth hon ag unrhyw aelodau panel fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw broses recriwtio, ac os ydych chi’n teimlo’n anghyfforddus am ateb unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi ddewis yr opsiwn ‘Mae’n well gennyf beidio â dweud’.
Y mathau o gyfleoedd fydd ar gael:
- Lleoliadau i Israddedigion - amrywiaeth o leoliadau ar gyfer israddedigion mewn ystod o bynciau, fel eu bod yn codi
- Lleoliadau i Raddedigion - amrywiaeth o leoliadau ar gyfer Graddedigion mewn ystod o bynciau, fel eu bod yn codi
- Lleoliadau Amrywiaeth - Blas ar Waith - cyfle am leoliad amrywiaeth penodol am hyd at 4 wythnos dros yr haf
- Prentisiaethau mewn amrywiaeth o bynciau, megis Digidol, Gwasanaethau Cwsmer a Gweinyddiaeth Busnes.
Sut i gofrestru
I gofrestru ar y Banc Talent Cyfleoedd bydd angen i chi greu cyfrif ar system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru drwy glicio’r botwm ‘Gwneud cais’ isod, ac yna clicio ‘Cofrestru’ (os ydych chi yn barod wedi cofrestru am gyfrif, cliciwch ‘Gwneud cais’ ac yna mewngofnodi i’ch cyfrif).
Os hoffech chi gofrestru yn y Gymraeg a derbyn ein negeseuon yn y Gymraeg, cliciwch y botwm ‘Gwneud cais’ ar waelod y dudalen hon, fydd yn agor y ffurflen gais yn Gymraeg.
Mae'r broses gofrestru ond yn cymryd ychydig o funudau. Unwaith i chi gofrestru am gyfrif neu fewngofnodi, byddwch yn gallu mynd at ffurflen gais y Banc Talent. Cwblhewch y ffurflen, a phwyswch ‘Anfon’ ar y dudalen olaf.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd ar wahân i’n lleoliadau a’n Prentisiaethau, gallwch weld ein holl swyddi presennol, a threfnu i dderbyn rhybuddion e-bost ar gyfer swyddi newydd, ar ein Bwrdd Swyddi: Bwrdd Swyddi Llywodraeth Cymru