Swydd Wag -- Cyfleoedd ar gyfer Benthyciadau Mewnol Llywodraeth Cymru – O Gymorth Tîm i Radd 7

Disgrifiad

Rydym yn awyddus i fanteisio ar arbenigedd staff ar draws y Gwasanaeth Sifil i wneud gwahaniaeth ymarferol a chadarnhaol yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Rydym yn chwilio am amrywiaeth eang o weision sifil i weithio mewn swyddi cyffrous amrywiol ar bob gradd, o Gymorth Tîm i Radd 7 ledled Llywodraeth Cymru.

Dyma gyfle gwych i wneud gwahaniaeth trwy ddefnyddio'ch gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad gwerthfawr mewn adran wahanol o'r llywodraeth. Hefyd, byddwch yn gallu datblygu'ch gallu a'ch sgiliau trwy gyfrannu at ystod eang o waith hanfodol, gan gynnwys blaenoriaethau fel Pontio'r UE a'r ymateb i Covid-19.

Swyddi a Thelerau ac Amodau

  • Mae'r cyfleoedd ar gyfer benthyciadau mewnol ar gael i weision sifil presennol yn unig.
  • Mae swyddi ar gael ar gyfer cyfleoedd tymor byr (6-12 mis) neu gyfleoedd mwy hirdymor (hyd at uchafswm o 2 flynedd).
  • Mae'r holl swyddi ar gael ar sail gradd barhaol a throsglwyddo ochrol yn unig.
  • Nid yw cyfleoedd ar gyfer dyrchafiad dros dro neu ddyrchafiad parhaol ar gael trwy'r ymgyrch hon, ond bydd llawer o'r swyddi yn cynnig cyfle i ennill profiad gwerthfawr, ehangu rhwydweithiau a dysgu sgiliau newydd.
  • Byddwn yn eich paru â swydd sy'n seiliedig ar eich sgiliau a'ch profiad.
  • Os ydych yn cael eich paru'n llwyddiannus â swydd, byddwch yn symud o dan drefniadau Benthyciad Mewnol ffurfiol, h.y. byddwch yn trosglwyddo i Gyflogres a Thelerau ac Amodau Llywodraeth Cymru.
  • Ni allwn warantu y byddwch yn cael cynnig swydd benodol.
  • Dylech sicrhau bod eich rheolwr llinell yn cymeradwyo/awdurdodi'ch cais i gael eich rhyddhau.
  • Rhaid i chi fod ar gael i drosglwyddo ar unwaith, oherwydd ar ôl eich paru â rôl, bydd disgwyl i chi ddechrau yn y swydd yn gyflym.
  • Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl yn benodol, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r holl staff i ffynnu mewn amgylchedd gwaith cynhwysol.
  • Rydym yn cefnogi gweithio gartref a theilwra patrymau gweithio i amgylchiadau unigol. Yn y tymor byr, bydd y rhan fwyaf o ddeiliaid swyddi yn gweithio o gartref/yn gweithio o bell.

Gwybodaeth bellach

Os hoffech dderbyn gwybodaeth gennym am y Cyfleoedd Benthyciadau Mewnol, cofrestrwch eich manylion a llenwch ein ffurflen gais 'Cronfa Dalent'. Wedyn byddwn yn rhoi gwybod i chi am y cyfnod a’r dulliau hysbysebu. 

Mae croeso i chi gofrestru'ch diddordeb yn y Gymraeg neu'r Saesneg, a byddwn yn gohebu â chi yn yr iaith honno. Mae'n bosibl y bydd y Gymraeg yn ddymunol mewn rhai swyddi ond nid oes angen i chi allu siarad Cymraeg er mwyn gweithio i Lywodraeth Cymru.

Mae ein ffurflen Cronfa Dalent yn gofyn i chi ddarparu rhywfaint o wybodaeth am eich cefndir. Mae'r cwestiynau hyn at ddibenion monitro yn unig, er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl, ac nid yn eithrio unrhyw grwpiau. Ni fydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu ag aelodau'r panel sy'n ymwneud â'r broses recriwtio, ac os ydych yn teimlo'n anghyfforddus yn ateb unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi ddewis yr opsiwn 'Dewis peidio â dweud'.

Sut i gofrestru

Sut i Gofrestru

Er mwyn cofrestru ar gyfer Cronfa Dalent Cyfleoedd Benthyciadau Mewnol, bydd angen i chi greu cyfrif ar system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru, drwy glicio'r botwm 'Gwneud cais' isod, ac yna clicio 'Cofrestru' (os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer cyfrif, dylech glicio 'Gwneud cais' ac yna mewngofnodi i'ch cyfrif).

Mae angen gwneud hyn er mwyn cofrestru diddordeb, a bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais o hyd ar ôl i'r hysbyseb fynd yn fyw.

Os hoffech gofrestru trwy gyfrwng y Gymraeg a derbyn unrhyw ohebiaeth yn y Gymraeg yn y dyfodol, cliciwch y botwm 'Newid Iaith' ar frig y dudalen, dewiswch 'Cymraeg' a chliciwch ar y botwm 'Gwneud cais' ar waelod y dudalen i agor y ffurflen gais Gymraeg.

Mae'r broses gofrestru'n para ychydig funudau yn unig. Ar ôl cofrestru ar gyfer cyfrif neu fewngofnodi, byddwch yn gallu defnyddio'r ffurflen Cronfa Dalent Cyfleoedd Benthyciadau Mewnol. Llenwch y ffurflen yn llawn, a chliciwch ar 'Cyflwyno' ar y dudalen olaf.

Os hoffech dderbyn hysbysiad e-bost awtomatig pan fydd un o'n swyddi gwag yn cael ei hysbysebu, dilynwch y ddolen 'Creu Hysbysiad Swydd' ar waelod ein bwrdd swyddi gwag (bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif i wneud hyn): Bwrdd Swyddi Gwag Llywodraeth Cymru