Swydd Wag -- Banc Talent Llywodraeth Cymru

Disgrifiad

Yma yn Llywodraeth Cymru rydym ni’n gweithio i helpu i wella bywydau ein dinasyddion. Ein nod yw helpu'r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru i adeiladu Cymru decach, mwy cyfartal a mwy gwyrdd. Cymru ffyniannus, iach, uchelgeisiol ac unedig ar gyfer ein dinasyddion a chenedlaethau yfory.

Cyfleoedd sydd ar ddod

Cyn bo hir, byddwn yn hysbysebu nifer o swydd uwch ar draws ystod o feysydd polisi i'n helpu i baratoi ar gyfer bywyd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ymateb i heriau pandemig COVID-19 a chyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth cyn etholiad nesaf Cymru ym mis Mai 2021.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru ac yn croesawu ac yn annog diddordeb gan bobl o bob cefndir, grŵp oedran sydd â phob math o alluoedd. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bartneriaethau rhannu swyddi, pobl sy'n gweithio'n rhan-amser a phobl sydd â diddordeb mewn rhannu swydd.

Os hoffech i ni gadw mewn cysylltiad â chi ynglŷn â'r cyfleoedd sydd ar ddod ar draws Llywodraeth Cymru, cofrestrwch eich manylion a llenwch ein ffurflen gais 'Banc Talent'. Yna byddwn yn eich diweddaru gyda manylion ynghylch pryd y byddwn yn hysbysebu a sut y gallwch wneud cais. Mae croeso i chi gofrestru eich diddordeb yn Gymraeg neu yn Saesneg, a byddwn yn cyfathrebu â chi yn yr iaith honno.


Sut i gofrestru

I gofrestru ar gyfer y rolau sydd ar ddod ym Manc Talent Llywodraeth Cymru bydd angen i chi greu cyfrif ar system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru drwy glicio’r botwm ‘Gwneud cais’ isod, ac yna clicio ‘Cofrestru’ (os ydych chi eisoes wedi cofrestru am gyfrif, cliciwch ‘Gwneud cais’ ac yna mewngofnodi i’ch cyfrif).

Mae ein ffurflen Banc Talent yn gofyn i chi ddarparu peth gwybodaeth am eich cefndir.  Mae’r cwestiynau hyn at ddibenion monitro yn unig, i sicrhau ein bod yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib, ac yn osgoi eithrio unrhyw grwpiau.  Ni fyddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gydag aelodau’r panel fydd yn ymwneud â’r broses recriwtio, ond os ydych chi’n anghyfforddus yn ateb unrhyw un o’r cwestiynau, mae croeso i chi ddewis yr opsiwn ‘Gwell gennyf beidio dweud’.

Pwrpas y ffurflen hon yw i gofrestru diddordeb yn unig a bydd angen i chi lenwi ffurflen gais lawn unwaith y bydd yr hysbyseb yn fyw. 

Os hoffech chi gofrestru yn Gymraeg a dderbyn ein negeseuon yn Gymraeg, cliciwch y botwm ‘Gwneud cais’ ar waelod y dudalen hon, fydd yn agor y ffurflen gais yn Gymraeg.

Mae’r broses gofrestru ond yn cymryd ychydig o funudau. Unwaith i chi gofrestru am gyfrif neu fewngofnodi, byddwch yn gallu mynd at ffurflen gais y Banc Talent. Llenwch y ffurflen, a phwyswch ‘Anfon’ ar y dudalen olaf.

Os hoffech chi dderbyn rhybudd e-bost yn awtomatig pan rydym yn hysbysebu swydd, gallwch wneud hyn drwy ddilyn y ddolen ‘Creu rhybudd swydd’ sydd ar waelod ein rhestr swyddi (bydd angen i chi fod wedi mewngofnodi i’ch cyfrif i wneud hyn): Tudalen Swyddi Llywodraeth Cymru