Swydd Wag -- Banc Talent Prentisiaethau Llywodraeth Cymru

Disgrifiad

Bydd Cynllun Prentisiaeth  Llywodraeth Cymru yn cael ei lansio ym dechrau 2022 ledled Cymru i lenwi swyddi hanfodol Swyddog Cymorth.  Mae cynllun prentisiaethau Llywodraeth Cymru yn rhoi’r cyfle i astudio am gymhwyster lefel 3, wrth weithio mewn swydd weinyddol sy’n darparu cefnogaeth i un o’n timau sy’n cyflawni gwaith ar draws meysydd allweddol ym mywyd cyhoeddus megis iechyd, addysg a’r amgylchedd.  Nid oes gofynion cymhwysedd ar gyfer gwneud cais am Brentisiaeth, heblaw bod angen i chi fod yn 16 mlwydd oed neu’n hyn, a’ch bod yn gallu byw a gweithio’n gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig (gweler gofynion cenedligrwydd Gwasanaeth Sifil y DU: https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules [dolen allanol yn Saesneg yn unig]).

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru a’n croesawu ac yn annog diddordeb gan bobl o bob cefndir, grŵp oedran a gyda phob math o alluoedd. 

Os hoffech chi i ni gadw mewn cyswllt gyda chi am ein cynllun prentisiaeth eleni, yna cofrestrwch eich manylion a chwblhau ffurflen gais ar gyfer ein ‘Banc Talent’.  Byddwn wedyn yn gallu rhoi gwybod i chi pryd fyddwn yn hysbysebu, a sut.  Mae croeso i chi gofrestru’ch diddordeb yn y Gymraeg neu’r Saesneg, a byddwn yn cyfathrebu gyda chi yn yr iaith honno.

Mae ein ffurflen Banc Talent yn gofyn i chi ddarparu peth gwybodaeth am eich cefndir.  Mae’r cwestiynau hyn at ddiben monitor yn unig, i sicrhau ein bod yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosib, a’n osgoi eithrio unrhyw grwpiau.  Ni fyddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda’r aelodau panel fydd yn ymwneud a’r broses recriwtio, ond os ydych chi’n anghyfforddus yn ateb unrhyw un o’r cwestiynau, mae croeso i chi ddewis yr opsiwn ‘Gwell gennyf beidio dweud’.

Sut i gofrestru

I gofrestru ar y Banc Talent Prentisiaethau bydd angen i chi greu cyfrif ar system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru drwy glicio’r botwm ‘Gwneud cais’ isod, ac yna clicio ‘Cofrestru’ (os ydych chi yn barod wedi cofrestru am gyfrif, cliciwch ‘Gwneud cais’ ac yna mewngofnodi i’ch cyfrif).

Pwrpas y ffurflen hon yw i gofrestru diddordeb yn unig a bydd angen i chi lenwi ffurflen gais lawn unwaith y bydd yr hysbyseb yn fyw. 

Os hoffech chi gofrestru yn y Gymraeg a dderbyn ein negeseuon yn y Gymraeg, cliciwch y botwm ‘Gwneud cais’ ar waelod y dudalen hon, fydd yn agor y ffurflen gais yn Gymraeg.

Mae'r broses gofrestru ond yn cymryd ychydig o funudau.  Unwaith i chi gofrestru am gyfrif neu fewngofnodi, byddwch yn gallu cael mynediad i ffurflen gais y Banc Talent.  Cwblhewch y ffurflen, a gwasgwch ‘Anfon’ ar y dudalen olaf.

Os hoffech chi dderbyn rhybudd e-bost yn awtomatig pan ydym yn hysbysebu swydd, gallwch wneud hyn drwy ddilyn y ddolen ‘Creu rhybudd swydd’ sydd ar waelod ein rhestr swyddi (bydd angen i chi fod wedi mewngofnodi i’ch cyfrif i wneud hyn): Tudalen Swyddi Llywodraeth Cymru