Swydd Wag -- Porthol Talent - Llywodraeth Cymru

Disgrifiad

Fe fydd Llywodraeth Cymru’n fuan yn hysbysebu amrywiaeth o gyfleoedd cyfnod penodol ar amrywiol lefelau cyflog.  Os hoffech chi i ni gadw mewn cyswllt gyda chi ynghylch y cyfleoedd hyn, cofrestrwch eich manylion a llenwch ein ffurflen gais ‘Banc Talent’.  Byddwn wedyn yn eich diweddaru gyda manylion o’r cyfleoedd sydd ar gael, a phryd gallwch wneud cais amdanynt. 

Mae croeso i chi gofrestru eich manylion yn Saesneg neu’r Gymraeg, a byddwn yn cyfathrebu gyda chi yn yr iaith honno.

Mae’r ffurflen Banc Talent yn gofyn i chi ddarparu peth gwybodaeth am eich cefndir.  Mae’r cwestiynau hyn at ddibenion monitro yn unig.  Fel corff sy’n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth yn ei holl agweddau, mae hyn yn hollbwysig i ni.  Trwy ddarparu’r wybodaeth hon, fe fyddwch yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf posibl, a’n llwyddo i beidio ag eithrio unrhyw unigolion yng Nghymru.  Ni fyddwn yn rhannu’r wybodaeth hon ag unrhyw aelodau panel fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw broses recriwtio, ac os ydych chi’n teimlo’n anghyfforddus am ateb unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi ddewis yr opsiwn ‘Mae’n well gennyf beidio â dweud’.

Sut i gofrestru

I gofrestru ar y Banc Talent bydd angen i chi yn gyntaf creu cyfrif ar system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru drwy glicio’r botwm ‘Gwneud cais’ isod, ac yna clicio ‘Cofrestru’ (os ydych chi yn barod wedi cofrestru am gyfrif, cliciwch ‘Gwneud cais’ ac yna mewngofnodi i’ch cyfrif).

Os hoffech chi gofrestru yn y Gymraeg a derbyn ein negeseuon yn y Gymraeg, cliciwch y botwm ‘Gwneud cais’ ar waelod y dudalen hon, fydd yn agor y ffurflen gais yn Gymraeg.

Mae'r broses gofrestru ond yn cymryd ychydig o funudau.  Unwaith i chi gofrestru am gyfrif neu fewngofnodi, byddwch yn gallu mynd at ffurflen gais y Banc Talent.  Cwblhewch y ffurflen, a phwyswch ‘Anfon’ ar y dudalen olaf.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd ar wahân i’n cyfleoedd cyfnod penodol presennol, gallwch weld ein holl swyddi presennol, a threfnu i dderbyn rhybuddion e-bost ar gyfer swyddi newydd, ar ein Bwrdd Swyddi:  Bwrdd Swyddi Llywodraeth Cymru