Swydd Wag -- Banc Talent Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru

Disgrifiad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y menywod a phobl o grwpiau a dangynrychiolir ar fyrddau cyhoeddus. Os ydych o grŵp a dangynrychiolir yna rydych yn gymwys i gofrestru ar gyfer y Banc Talent. Rydym yn croesawu ceisiadau gan fenywod, aelodau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, neu unigolion lesbiaidd, hoyw, deurywiol, neu trawsrywiol.  Nod y banc talent yw cynyddu amrywiaeth y rhai sy'n ymgeisio am benodiadau cyhoeddus.  


Sut fydd fy nata'n cael ei ddefnyddio?

Bydd eich holl ddata ar gael i swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n rheoli ymgyrchoedd recriwtio penodiadau cyhoeddus a Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Efallai y cysylltir â chi yn uniongyrchol gan swyddogion Llywodraeth Cymru i dynnu rhai swyddi gwag i'ch sylw, i roi gwybod i chi am gyfleoedd hyfforddi neu gyfleoedd cysgodi Bwrdd wrth iddynt godi. Ni fydd eich data yn cael ei throsglwyddo i unrhyw 3ydd parti eraill y tu allan i Lywodraeth Cymru.  


Sut ydw i'n tynnu fy hun o'r Banc Talent?

Os byddwch yn penderfynu nad ydych bellach yn dymuno cael eich cofnodi ar y Banc Talent yna anfonwch e-bost at PublicAppointments @llyw.cymru

Sut i gofrestru

I gofrestru ar gyfer y Bank Talent Penodiadau Cyhoeddus, bydd angen i chi greu cyfrif ar system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru, trwy glicio ar y botwm 'Gwneud Cais' isod, yna cliciwch 'Cofrestru' (os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer cyfrif, cliciwch 'Gwneud Cais' ac yna mewngofnodi i'ch cyfrif).  Dim ond ychydig funudau bydd y broses gofrestru yn ei gymryd.  Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer cyfrif neu fewngofnodi, byddwch yn gallu cael mynediad i ffurflen gais y Banc Talent Penodiadau Cyhoeddus.  Llenwch y ffurflen yn llawn, a chliciwch 'Anfon' ar y dudalen olaf.

Os hoffech chi hefyd dderbyn hysbysiad e-bost awtomataidd bob tro y bydd Penodiad Cyhoeddus sy'n cyfateb i'ch diddordebau yn cael ei hysbysebu, ewch i'r Bwrdd Penodiadau Cyhoeddus , a chliciwch y ddolen 'Creu Rhybudd Swyddi' ar waelod y rhestr swyddi (bydd angen i chi fod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif i wneud hyn).