Swydd Wag -- Penodi Cadeirydd Anweithredol

Manylion y swydd

Trafnidiaeth Cymru
Cymru gyfan
£425.00 y dydd,  5 niwrnod y mis, yn lleihau ar ôl chwe mis i 3 diwrnod y mis (48 o ddiwrnodau ar gyfer blwyddyn 1, yn lleihau i 36 o ddiwrnodau'r flwyddyn wedi hynny)
48
blwyddyn

Rôl y corff

Mae'n gyfnod cyffrous i'r sector trafnidiaeth yng Nghymru. Nid oes un amheuaeth bod y gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth, a'u rôl o ran cysylltu ein cymunedau, ein pobl a'n busnesau â swyddi, cyfleusterau, gwasanaethau a marchnadoedd, yn rhan allweddol o weithredu Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

 

Bydd newidiadau technolegol yn trawsnewid y dirwedd drafnidiaeth yn y blynyddoedd nesaf. Mae'n bosibilrwydd go iawn y bydd mwy a mwy o bobl yn defnyddio cerbydau trydan. Yn ogystal â thrydaneiddio, bydd trosglwyddo i ddefnyddio cerbydau awtomatig a thrafnidiaeth ar gais yn cyflwyno sawl her i'r Llywodraeth o ran llunio polisïau. 

 

Bydd y technolegau newydd hyn yn gyfleoedd i economi Cymru elwa ar swyddi crefftus newydd. Bydd y ffordd y mae pobl yn defnyddio trafnidiaeth yn eu bywydau bob dydd yn newid yn sylweddol dros y ddegawd nesaf ac mae'n rhaid inni fod yn barod am y newidiadau hynny ac i fynd i'r afael â'r heriau polisi y byddwn yn eu hwynebu.

 

Yn ogystal â'r datblygiadau hyn, bydd hefyd angen inni ganolbwyntio ar y presennol o ran cyflenwi trafnidiaeth yng Nghymru. Uchelgais Gweinidogion Cymru yw cyflenwi system drafnidiaeth integredig yng Nghymru, gan ddarparu trafnidiaeth ddiogel, fforddiadwy a chynaliadwy o ansawdd i bawb; system sy'n cyfrannu at dwf economaidd a llesiant y wlad. 

 

Bydd y setliad datganoledig gwell a gynigir drwy Ddeddf Cymru 2017 yn galluogi Llywodraeth Cymru i sefydlu fframwaith ar gyfer cyflenwi gwasanaethau trafnidiaeth a all wella ansawdd, amlder, dibynadwyedd a phrydlondeb y rhwydwaith. Ynghyd â'r Rhaglen Lywodraethu, bydd hyn yn rhoi cyfle inni fynd ati i symbylu newidiadau sylweddol i'r ffordd yr ydym yn deall ac yn defnyddio trafnidiaeth yng Nghymru, ac yn buddsoddi ynddi.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwmni nid er elw sy'n berchen yn gyfan gwbl i Lywodraeth Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 2015 i roi cyngor arbenigol ar faterion sy'n ymwneud â thrafnidiaeth. Mae hefyd wedi darparu cyngor technegol i alluogi Llywodraeth Cymru i gaffael Partner Gweithredu a Datblygu ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a Metro De Cymru.

 

Gweledigaeth a Phwrpas ar gyfer y dyfodol


Dyhead Gweinidogion Cymru ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yw ei alluogi i gyflawni amrywiaeth ehangach o swyddogaethau trafnidiaeth. Mae Trafnidiaeth Cymru yn trawsnewid o'i statws fel corff cynghori i fod yn asiant cyflenwi gweithredol ar gyfer Gweinidogion Cymru. Mae'r broses o drosglwyddo i'r Partner Gweithredu a Datblygu newydd wedi dechrau ac mae Trafnidiaeth Cymru yn paratoi i gymryd cyfrifoldeb am weithredu'r rhwydwaith rheilffyrdd ym mis Hydref 2018.

 

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ddatblygu ei allu i ddarparu system drafnidiaeth integredig ac effeithiol ar gyfer Cymru, gan gyfrannu'n bositif at yr amcanion a nodau allweddol a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae'r sylfeini bellach yn adlewyrchu mai anghenion teithwyr sydd wrth wraidd proses benderfynu'r Cwmni.

 

O ran y rheilffyrdd, mae Trafnidiaeth Cymru yn hoelio sylw bellach ar leddfu pryderon am gapasiti seddi, amseroedd teithio, ac amlder gwasanaethau, ac ar sicrhau bod costau tocynnau yn deg ac yn fforddiadwy a bod y trenau'n lân ac o ansawdd.

 

Drwy gyfuno’r ffordd y caiff y gwasanaethau a’r seilwaith eu darparu, mae Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau pennod newydd ar gyfer integreiddio gwasanaethau cyhoeddus ehangach ledled Cymru. Ni oes modd cymharu cwmpas na maint y Partner Gweithredu a Datblygu a'r masnachfraint bresennol. Mae'n ffordd newydd o weithio a Trafnidiaeth Cymru fydd brand y gwasanaeth. Dyma wasanaeth rheilffyrdd newydd yng Nghymru ar gyfer pobl Cymru ac mae Trafnidiaeth Cymru yn arwain y ffordd o ran darparu trafnidiaeth sy’n torri tir newydd ledled y wlad ac yn ardal y Gororau.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau trafnidiaeth ddiogel drwy ddarparu gwasanaethau sy'n hoelio sylw ar gwsmeriaid a chyngor arbenigol, a thrwy fuddsoddi yn y seilwaith yn y dyfodol. Mae gwerthoedd ac amcanion strategol y Cwmni yn gadarn ac yn uchelgeisiol, a byddant yn llywio gwasanaethau trafnidiaeth yn y dyfodol. Wrth i Trafnidiaeth Cymru ddatblygu yng ngolwg y cyhoedd, rhaid i'w ddulliau cyflenwi barhau i fod yn drawsffurfiol ac yn arloesol, ac i hoelio sylw ar gwsmeriaid.

 

Bwrdd Trafnidiaeth Cymru


Mae Bwrdd Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys; 6 chyfarwyddwr anweithredol a 2 Gyfarwyddwr gweithredol. Caiff y cyfarwyddwyr eu penodi yn unol â Deddf Cwmnïau 2006 ac Erthyglau Cymdeithasu Trafnidiaeth Cymru.


Yn ogystal â phwerau a dyletswyddau'r cyfarwyddwyr a nodir yn Neddf Cwmnïau 2006, Erthyglau Cymdeithasu Trafnidiaeth Cymru, Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU a'r Canllawiau ar gyfer Aelodau'r Bwrdd, rôl Bwrdd Trafnidiaeth Cymru yw:

 

  • darparu arweinyddiaeth effeithiol; diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol;
  • sicrhau bod strategaethau yn cael eu datblygu i gyflawni amcanion Trafnidiaeth Cymru yn unol â'r polisïau a'r blaenoriaethau a bennir gan y Cwmni mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol eraill, er enghraifft cyflogeion, cwsmeriaid a darparwyr cyllid;
  • sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael gwybodaeth reolaidd a llawn am unrhyw newidiadau sy'n debygol o effeithio ar gyfeiriad strategol Trafnidiaeth Cymru neu ar ei allu i gyrraedd ei dargedau, ynghyd â gwybodaeth am y camau y mae angen eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â newidiadau o'r fath;
  • hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, a chynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian;
  • sicrhau bod gweithgareddau Trafnidiaeth Cymru yn cael eu cyflawni’n effeithlon ac effeithiol;
  • sicrhau bod trefniadau bancio Trafnidiaeth Cymru yn addas at ei ddibenion;
  • monitro perfformiad i sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cwrdd â'i nodau, ei amcanion a'i dargedau perfformiad;
  • penodi uwch aelodau gweithredol ac anweithredol i Fwrdd Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys y Prif Swyddog Gweithredol, ond ym mhob achos, dim ond os ceir cadarnhad ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru;
  • llunio a chyhoeddi amcanion llesiant Trafnidiaeth Cymru at y diben o sicrhau ei fod yn cyfrannu gymaint â phosibl at gyflawni nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
  • sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn ystyried cyfleoedd cyfartal wrth gymeradwyo polisïau a gwneud penderfyniadau; a
  • sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle i roi sicrwydd am reoli risg, gan gynnwys diogelwch gwybodaeth, llywodraethu, archwiliadau mewnol, archwiliadau allanol a rheolaeth fewnol yn unol â gofynion statudol a rheoliadol perthnasol a lle bo'n berthnasol, Godau Ymarfer neu ganllawiau cwmnïau.

Disgrifiad o'r swydd

Y Cadeirydd sy'n gyfrifol am arwain y Bwrdd a sicrhau ei fod yn cyflawni pob agwedd ar ei rôl yn effeithiol. Dylai hyrwyddo naws lle y gellir trafod a bod yn agored drwy helpu'r holl gyfarwyddwyr anweithredol yn benodol i gyfrannu'n effeithiol a sicrhau perthynas dda rhwng y cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol.


Bydd unrhyw drafodaethau am gyfeiriad strategol y Cwmni rhwng Bwrdd Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn cael eu cynnal, mewn sefyllfa fusnes arferol, drwy'r Cadeirydd a bydd yn rhaid iddo sicrhau bod y cyfarwyddwyr eraill yn cael gwybod am gyfathrebiadau o'r fath.  Y Cadeirydd sy'n gyfrifol am bennu agenda'r Bwrdd ac am sicrhau bod digon amser i drafod pob eitem ar yr agenda, yn enwedig materion strategol.

 

Bydd disgwyl i'r Cadeirydd gyflawni ei ddyletswyddau, boed yn statudol, yn ymddiriedol neu'n ddyletswyddau o dan y gyfraith gyffredin, yn ffyddlon, yn effeithlon ac yn ddiwyd i safon sy'n briodol i swyddogaethau ei rôl ac i'w wybodaeth, ei sgiliau a’i brofiad.

 

Bydd yn arfer ei bwerau yn ei rôl fel cyfarwyddwr cwmni gan ystyried y rhwymedigaethau perthnasol o dan y gyfraith a rheoliadau sy’n bodoli ar y pryd, gan gynnwys Deddf Cwmnïau 2006, Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU a rheoliadau a deddfwriaeth gysylltiedig.

 

Wrth ymgymryd â'i ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau fel cyfarwyddwr cwmni, bydd y Cadeirydd yn gyfrifol am arwain ar y gwaith a ganlyn:

 

  • llunio strategaethau Bwrdd Trafnidiaeth Cymru,  gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio â pholisïau a dulliau Gweinidogion Cymru, a bod nodau, amcanion a diwylliant y cwmni yn cyd-fynd â meini prawf allweddol y Llywodraeth megis Ffyniant i Bawb, Cynllun Gweithredu ar yr Economi a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol;
  • mentora aelodau’r uwch dîm gweithredol, ac yn enwedig y Prif Swyddog Gweithredol, i sicrhau eu bod yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau eu hunain yn llwyr, a sut y gallant wneud y defnydd gorau o Fwrdd Trafnidiaeth Cymru;
  • sicrhau bod Bwrdd Trafnidiaeth Cymru, wrth wneud penderfyniadau, yn ystyried y gofynion rheoli statudol ac ariannol perthnasol a'r holl ganllawiau perthnasol, gan gynnwys unrhyw ganllawiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru;
  • hyrwyddo'r defnydd economaidd, effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau eraill;
  • sicrhau safonau uchel o reoleidd-dra a phriodoldeb; a
  • chynrychioli barn Bwrdd Trafnidiaeth Cymru i'r cyhoedd.

 

Bydd y Cadeirydd hefyd yn arwain ar:

 

  • sicrhau bod holl gyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru yn llwyr ymwybodol o delerau eu penodiad a'u dyletswyddau, eu hawliau a'u cyfrifoldebau;
  • sicrhau bod y Cwmni yn parhau i gydnabod ei fod yn gwasanaethu pobl Cymru a'i Llywodraeth etholedig. Nid yw’r cwmni yn nod ynddo’i hun ond yn hytrach yn fecanwaith i Weinidogion weithredu eu polisïau. Bydd angen i'r Bwrdd ac yn enwedig y Cadeirydd gydnabod a chefnogi'r Llywodraeth a'i Gweinidogion. O bryd i'w gilydd, bydd angen i'r Cadeirydd gael cyfeiriad gan Weinidogion ynghylch materion polisi;
  • sicrhau ei fod, ynghyd â chyfarwyddwyr eraill Trafnidiaeth Cymru, yn cael yr hyfforddiant priodol, gan gynnwys ar ofynion rheoli ariannol ac adrodd cyrff cyhoeddus, ac ar y gwahaniaethau a allai fodoli rhwng arferion y sector preifat a'r sector cyhoeddus;
  • sicrhau bod gan Fwrdd Trafnidiaeth Cymru y cydbwysedd priodol o sgiliau i gyfarwyddo busnes y Cwmni, ac i gynghori Llywodraeth Cymru ar unrhyw benodiadau i'r Bwrdd;
  • rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau arfaethedig i strwythur neu aelodaeth y Bwrdd, a chael cymeradwyaeth ganddi;
  • sicrhau bod cod ymddygiad ar gyfer Cyfarwyddwyr Trafnidiaeth Cymru yn ei le a'i fod yn cyd-fynd â'r Cod Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer Aelodau Bwrdd Cyrff Cyhoeddus yng Nghymru; y Cod Arferion Da (Chwefror 2017) fel y bo'n gymwys i Gyrff Cyhoeddus Hyd Braich Llywodraeth Cymru; a chyflwyno adroddiadau i Lywodraeth Cymru drwy Dîm Nawdd Trafnidiaeth Cymru.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Bydd y Cadeirydd yn gallu cynnal safonau uchel o uniondeb a gonestrwydd. Bydd y safonau hynny'n berthnasol wrth lywodraethu'r Cwmni, gwneud penderfyniadau a rhoi sicrwydd am reolaeth ariannol ac wrth ystyried, hyrwyddo a diogelu rheoleidd-dra, priodoldeb, fforddiadwyedd, cynaliadwyedd, risg, a gwerth am arian ar draws y sector cyhoeddus; a chyfrifyddu'n gywir ac yn dryloyw o ran safbwynt ariannol a thrafodiadau'r Cwmni. Bydd yn rhaid iddo fedru sicrhau safonau uchel o uniondeb wrth reoli arian cyhoeddus.

 

Sgiliau allweddol, profiadau a chymwysterau gofynnol:


  • Profiad fel cyfarwyddwr anweithredol, Ymddiriedolwr neu Aelod o Bwyllgor yng nghyd-destun y sector masnachol, gwirfoddol neu gyhoeddus;
  • Enw da fel arweinydd a rhywun sy'n meddwl yn strategol yng nghyd-destun y sector masnachol, gwirfoddol neu gyhoeddus;
  • Profiad helaeth o weithredu ar lefel uwch mewn capasiti strategol;
  • Gwybodaeth weithredol gadarn o'r sectorau cyhoeddus a phreifat;
  • Gallu i weithio mewn partneriaeth ac i reoli perthnasau;
  • Gallu i feithrin a chynnal perthnasau cadarn a thryloyw gyda rhanddeiliaid allweddol;
  • Dealltwriaeth dda a'r gallu i ddadansoddi; meddyliwr arloesol a'r gallu i ganolbwyntio ar faterion sydd angen eu datrys; a
  • Sgiliau penderfynu cadarn i wneud penderfyniadau ar amrywiaeth o faterion.

 

Cymwyseddau ymddygiadol a rhinweddau gofynnol:


  • Perspectif a gweledigaeth strategol a'r gallu i weithio'n bositif o fewn tîm;
  • Cymhelliant ac ymrwymiad, a'r gallu i ddangos hyn oll i eraill;
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a thrafod da a'r gallu i ddatblygu partneriaethau effeithiol a chynaliadwy;
  • Anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweinyddiaeth (Egwyddorion Nolan);
  • Deinamig, brwdfrydig a llawn egni;
  • Cydnerthedd a'r gallu i sicrhau bod pethau yn digwydd;
  • Parodrwydd i ymroi'r amser a'r ymdrech angenrheidiol;
  • Parodrwydd i fod yn lysgennad i Trafnidiaeth Cymru;
  • Arbenigedd rheoli ariannol a dealltwriaeth eang o faterion ariannol y sector preifat a chyhoeddus; a
  • Dealltwriaeth dda o faterion llywodraethu cwmnïau.

 

Yr Iaith Gymraeg


Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Dyddiadau cyfweliadau

26 Tachwedd 2018
27 Tachwedd 2018

Dyddiad cau

26/10/18 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Hyd y penodiad

 

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Trafnidiaeth sy’n penderfynu hyd y penodiad. Bydd yn para hyd at uchafswm o 3 blynedd gyda'r cyfle i estyn y swydd i 5 mlynedd.

 

Atebolrwydd


Mae'r Cadeirydd yn atebol i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, drwy Gyfarwyddiaeth Seilwaith yr Economi Llywodraeth Cymru, am gyflawni ei ddyletswyddau ac am ei berfformiad.



Pwy sy'n cael gwneud cais


Dylai ymgeiswyr fod yn bobl sy'n ymddwyn bob amser mewn modd a fydd yn ennyn hyder y cyhoedd.

 

Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod Deddf Anghymwyso'r Tŷ Cyffredin 1975 neu Orchmynion a wnaed o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn berthnasol.

 

Dylai ymgeiswyr nodi hefyd fod aelodau Trafnidiaeth Cymru yn cael eu  hanghymhwyso rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015. http://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2015/1536/contents/made.  

 

Gwrthdaro Buddiannau


Dylech nodi’n benodol fod gofyn ichi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat a allai fod, neu y gellid dehongli eu bod, yn gwrthdaro â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau fel Cadeirydd Bwrdd Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys buddiannau busnes neu swyddi o awdurdod y tu allan i’w rôl yn Trafnidiaeth Cymru.

 

Bydd unrhyw wrthdaro buddiannau yn cael ei drafod yn y cyfweliad.  Os cewch eich penodi, bydd yn ofynnol ichi ddatgan y buddiannau hynny adeg eich penodi a chânt eu cofnodi mewn cofrestr a fydd yn cael ei chyhoeddi ar wefan Treftadaeth Cymru.

 

Safonau mewn bywyd cyhoeddus


Bydd disgwyl ichi arfer safonau uchel o ran ymddygiad corfforaethol a phersonol. Gofynnir i bob ymgeisydd llwyddiannus gadw at God Ymarfer Aelodau Byrddau Cyrff Cyhoeddus. I weld y ddogfen honno, ewch i:

http://www.bl.uk/aboutus/governance/blboard/Board%20Code%20of%20Practice%202011.pdf.



Cysylltiadau:


I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â: 


Uned Penodiadau Cyhoeddus

E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru  


 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Treftadaeth Cymru a rôl y Cadeirydd, cysylltwch â Jenny Lewis:


 

Ffôn: 0300 025887/ 07966 836393

E-bost: Jenny.Lewis@llyw.cymru



Os oes angen rhagor o gymorth arnoch wrth ichi wneud cais am y rôl hon, cysylltwch ag Uned Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.