Swydd Wag -- Aelod - Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (Cymraeg yn Hanfodol)

Manylion y swydd

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Fel rheol, cynhelir y cyfarfodydd pwyllgor yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan gynhelir cyfarfodydd ledled Cymru. Oherwydd y cyfyngiadau COVID-19 parhaus, mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar Microsoft Teams ar hyn o bryd.
Caiff aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru eu contractio am 21 diwrnod y flwyddyn, ar honorariwm o £3,885 y flwyddyn. Caiff hwn ei dalu'n fisol mewn ôldaliadau ar un rhan o ddeuddeg o'r gyfradd flynyddol drwy gredyd banc. Nid yw'r honorariwm yn bensiynadwy, ac mae'n ddarostyngedig i ddidyniad Yswiriant Gwladol a threth. Bydd yr Asiantaeth hefyd yn pennu unrhyw amrywiad yn y tâl cydnabyddiaeth blynyddol. Mae'r hawl i'r tâl cydnabyddiaeth hwn dan y Ddeddf yn dod i ben ar ddiwedd eich cyfnod yn y swydd.
21
blwyddyn

Rôl y corff

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yn gweithredu fel bwrdd cynghorol i'r ASB. Caiff aelodau'r Pwyllgor eu penodi gan yr ASB yn unol â Deddf Safonau Bwyd 1999. Diffinir y rôl statudol fel a ganlyn:

"Bydd pwyllgor cynghorol yng Nghymru er mwyn cynnig cyngor a gwybodaeth i’r Asiantaeth am faterion sy’n ymwneud â’i swyddogaethau (gan gynnwys, yn benodol, materion sy’n effeithio ar Gymru neu sy’n ymwneud â ni)."

Dylai aelodau sydd wedi'u penodi i'r Pwyllgor gydymffurfio ar bob adeg â'r Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus, a osodwyd gan Bwyllgor Nolan ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (Atodiad C).

Disgrifiad o'r swydd

Sefydlwyd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yn 2000 er mwyn rhoi cyngor a gwybodaeth i'r ASB (atodlen 2 o’r Ddeddf Safonau Bwyd). Bydd cyngor a gwybodaeth o'r fath ar ddiogelwch bwyd, safonau bwyd a materion perthnasol, yn enwedig os ydynt yn berthnasol i Gymru. Mae'n ofynnol bod yr Asiantaeth yn ystyried cyngor neu wybodaeth sy'n rhesymol neu'n ymarferol, p'un a roddir y cyngor neu'r wybodaeth ar gais yr Asiantaeth ai peidio. Caiff aelodau'r Pwyllgor eu penodi gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles a’r Gymraeg yn unol â Deddf Safonau Bwyd 1999, er mwyn darparu ystod eang o arbenigedd, profiad a gwybodaeth ymarferol.

Mae'r Pwyllgor yn:

  • gweithredu fel cyfrwng adborth i swyddogion yr Asiantaeth a'i Bwrdd ar faterion penodol
  • gweithredu ar y cyd er lles y cyhoedd
  • cynghori ar ddatblygiadau polisi a deddfwriaeth yr Asiantaeth
  • helpu i sefydlu blaenoriaethau'r Asiantaeth, gan ystyried:

  1. pryderon defnyddwy
  2. data gwyliadwriaeth neu ymchwil
  3. materion amserol
  4. barn aelodau'r Pwyllgor


Mae'r Pwyllgor wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd agored a thryloyw drwy:

  • gynnal cyfarfodydd cyhoeddus mewn ystod o leoliadau ar draws Cymru;
  • gwrando ar safbwyntiau rhanddeiliaid yng Nghymru;
  • cefnogi'r ASB mewn digwyddiadau cyhoeddus;
  • nodi materion sy'n bwysig i Gymru;
  • cynhyrchu cyngor trylwyr ac ystyrlon.


Mewn unrhyw flwyddyn benodol mae'r Pwyllgor yn debygol o:


  • gynnal hyd at bedwar cyfarfod agored yng Nghymru wedi'u hategu gan gyfarfodydd busnes, diwrnodau hyfforddi a digwyddiadau rhanddeiliaid;
  • rhoi cyngor i'r Asiantaeth ar ystod o bynciau, gan gynnwys: Alergenau, Rheolaethau Bwyd Anifeiliaid Swyddogol, Cynllun Strategol yr ASB, Strategaeth Samplu'r ASB, Cynfod Pontio’r UE, Cyflawni Cydymffurfiaeth Busnes ac Ymwrthedd Gwrthficrobaidd.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Mae'r Pwyllgor yn chwilio am unigolion sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:

Sgiliau a gwybodaeth hanfodol

  • Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol a pharhaus o faterion diogelwch a safonau bwyd, gan gynnwys datblygu polisi a thirwedd rhanddeiliaid, fel y maent yn berthnasol i Gymru.
  • Sgiliau dadansoddi, strategol a gwneud penderfyniadau cryf, yn gallu pwyso a mesur tystiolaeth gymhleth ac egluro sail y cyngor.
  • Bod yn graff ei farn/barn, gyda lefel uchel o onestrwydd a chyfrifoldeb cyhoeddus, ynghyd â'r gallu i gyfrannu at wneud penderfyniadau anodd.
  • Y gallu i ddehongli a chyfathrebu gwybodaeth yn effeithiol ar lafar, yn ysgrifenedig a thrwy ystod o gyfryngau.
  • Y gallu i wasanaethu un ai heb wrthdaro buddiannau neu i ddangos sut y byddant yn ymdrin â gwrthdaro buddiannau posibl, boed y rheiny yn rhai go iawn neu'n rhai tybiedig.
  • Y gallu i ystyried a deall cyngor, tystiolaeth a dadleuon gwyddonol.
  • Ymrwymiad i faterion defnyddwyr neu ddod â mewnwelediadau bwyd/defnyddwyr o fewn cyd-destun Cymru.
  • Ar gyfer o leiaf un swydd – y gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg.

Dangos profiad perthnasol yn un (neu fwy) o'r canlynol:

  • Gwyddoniaeth (er enghraifft Microbioleg, Meddygol, Epidemioleg, Milfeddygol, Iechyd y Cyhoedd neu Wyddorau Cymdeithasol, newid ymddygiad yn benodol)
  • Polisi Bwyd (Llywodraethu, safonau a sicrwydd y system fwyd)
  • Cyfraith Bwyd (Gorfodi Cyfraith Bwyd)
  • Addysg/Academia (er enghraifft systemau a diogelwch bwyd)
  • Cyfathrebu (er enghraifft ymgysylltu â defnyddwyr drwy ystod o gyfryngau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasu/blogio)
  • Cynhyrchu bwyd/Lletygarwch (Cefndir cynhyrchu/diwydiant bwyd/arlwyo)
  • Cyrff cyhoeddus perthnasol (er enghraifft diogelu defnyddwyr, gorfodi cyfraith bwyd, twyll bwyd, iechyd y cyhoedd)
  • Arall (er enghraifft diwydiant bwyd neu'r sector arlwyo/bwytai/gwestai, mentrau bwyd cymunedol, ymchwil defnyddwyr, llunio polisi mewn meysydd perthnasol)
  • *Sylwch nad yw cylch gwaith yr ASB yng Nghymru yn ymwneud â Maeth.


Gwybodaeth a sgiliau dymunol

  • Ymrwymiad amlwg i roi'r defnyddiwr yn gyntaf, gydag ymwybyddiaeth o fuddiannau defnyddwyr; gan gynnwys anghenion defnyddwyr ifanc a hŷn mewn perthynas â bwyd a sut mae'r system fwyd fyd-eang yn newid.
  • Deall rôl aelod Pwyllgor sefydliad cyhoeddus mawr a'r holl gyfrifoldebau cyfunol perthnasol.
  •  Parodrwydd i gymryd rhan mewn hyfforddiant ar y Gymraeg i alluogi sgyrsiau cwrdd a chyfarch syml.

Dyddiadau cyfweliadau

20 Ionawr 2021
21 Ionawr 2021

Dyddiad cau

14/12/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.