Swydd Wag -- Comisiynwyr - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Disgrifiad o'r swydd
Fel Comisiynydd, byddwch yn:
Adolygu Cynllun Gweithredol y Sefydliad, gan ystyried gwaith sy'n mynd rhagddo, cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru yn y Llythyr Cylch Gwaith a mentrau a sefydlir gan y Sefydliad ei hun;
Sicrhau bod y Sefydliad yn cael ei lywodraethu mewn ffordd sy’n cydymffurfio â gofynion y ddogfen Fframwaith, a bod gweithgareddau'r Sefydliad o fewn cwmpas y Warant Frenhinol;
Sicrhau bod perfformiad y Sefydliad yn cyrraedd yr hyn sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru a bod adroddiad yn cael ei gyhoeddi'n flynyddol am weithgareddau'r Sefydliad;
Cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i staff arbenigol y Sefydliad, a monitro’u gwaith, mewn pwyllgorau neu'n unigol;
Ymwneud yn uniongyrchol â'r hyn sy'n cael ei gynnwys yng nghyhoeddiadau arbenigol y Sefydliad, a chymryd cyfrifoldeb amdanynt;
Cynrychioli’r Comisiwn Brenhinol a'i fuddiannau pan fydd galw arnoch i wneud hynny.
Disgwylir i'r Comisiynwyr hefyd:
Feddu ar ddealltwriaeth o'r amgylchedd hanesyddol a'i arwyddocâd;
Bod â gweledigaeth glir am sut y gall y Comisiwn Brenhinol barhau i weithio gyda phartneriaid allweddol i ddarparu'r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol gorau posibl i Gymru;
Arwain Bwrdd Comisiynwyr sy'n perfformio ar lefel uchel ac sy'n rheoli perfformiad mewn ffordd gadarn, sy'n dangos yr ymddygiadau a'r gwerthoedd craidd y mae eu hangen mewn tîm, sy'n herio ac yn cefnogi ei gilydd mewn ffordd adeiladol, ac sy'n mynd ati'n barhaus i fesur llwyddiannau'r tîm yn unol â nodau'r Comisiwn;
Arddel a chynnal saith egwyddor bywyd cyhoeddus (“egwyddorion Nolan”).
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Manyleb y Person
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol (a rennir yn 'arbenigedd hanfodol' ac yn 'sgiliau personol hanfodol') y rôl.
Meini Prawf Hanfodol
Mae'r Comisiwn Brenhinol wedi ymrwymo i atgyfnerthu ei fwrdd ac i gyflwyno amrywiaeth o ran yr aelodau, felly rydym yn chwilio am Gomisiynwyr newydd a fydd â chryn arbenigedd mewn un neu fwy o’r meysydd a ganlyn:
Hanesydd pensaernïol: Mae cynulleidfaoedd crefyddol yng Nghymru yn ei chael yn anodd cynnal eu hadeiladau hanesyddol; dim ond rhyw 30 y cant o gapeli Anghydffurfwyr sy’n cael eu defnyddio erbyn hyn fel man addoli gweithredol a bydd llawer mwy o leoedd addoli yn peidio â chael eu defnyddio yn ystod y ddau ddegawd nesaf. Bydd cau ar y raddfa honno yn arwain at ganlyniadau difrifol i dreftadaeth Cymru. Yn arbennig, capeli y cymunedau o anghydffurfwyr sy’n fwyaf tebygol o gau, ynghyd â mannau addoli pobl o ffydd arall heb fod yn Gristion, fel synagogau; mae eu trosi ar gyfer defnydd arall fel arfer yn cynnwys colli organau, pulpudau, orielau a seddi, gwydr lliw, cofebion a dodrefn eraill, llyfrau ac archifau.
Mae’r Comisiwn Brenhinol yn ymateb i’r her hon mewn nifer o ffyrdd. Rydym eisoes wedi creu cronfa ddata o ryw 6,453 o gapeli ac wedi cofnodi’r rhai mwyaf arwyddocaol. Rydym ar fin cychwyn arolwg o leoedd addoli’r 20fed ganrif yng Nghymru. Mae’r Comisiwn Brenhinol yn aelod gweithredol o amryw o gyrff sy’n helpu cynulleidfaoedd i ddod o hyd i ddefnydd cymunedol arall ar gyfer eu lleoedd addoli ac, ynghyd â Croeso Cymru, rydym yn helpu i ddatblygu potensial twristiaeth ffydd ac ysbrydol fel modd o ennill incwm i leoedd addoli yng Nghymru. Yn anad dim, fel corff cenedlaethol cofnodion pensaernïol, rydym wrthi’n cofnodi ar frys y lleoedd addoli hynny sydd mewn perygl mwyaf o gau, gan sicrhau eu bod nhw, eu gosodiadau, ffitiadau a hanesion, ar gof a chadw.
I gefnogi’r gwaith hwn, rydym yn dymuno recriwtio hanesydd pensaernïol neu archaeolegydd i’r Comisiwn Brenhinol er mwyn ein helpu i flaenoriaethu ein gwaith a chynghori’r Comisiwn ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o gyflawni ein hamcanion yn ogystal â gweithredu fel eiriolwr ar gyfer yr elfennau allweddol hyn o dirwedd hanesyddol Cymru.
Polisi cyhoeddus: Yn gyfnewid am gymorth grant, mae’n ofynnol i’r Comisiwn Brenhinol alinio’i waith a’i brif ganlyniadau â pholisïau economaidd a chymdeithasol Llywodraeth Cymru. Caiff y rhain eu nodi mewn nifer o ddogfennau strategol lefel uchel a darpariaethau statudol, gan gynnwys Ffyniant i Bawb, cynllun Llywodraeth Cymru i ddatblygu cymunedau cydnerth, cynyddu cyfranogiad a chynhwysiant mewn gweithgareddau diwylliannol a threftadaeth, ysgogi twf cynaliadwy a mynd i’r afael a newid yn yr hinsawdd, a hyrwyddo iechyd a lles da. At ei gilydd, mae’r polisïau hyn yn cyflwyno gweledigaeth gyffrous ar gyfer cynrychioli a dathlu amrywiaeth cymunedau Cymru, a’r cyfan o fewn fframwaith sy’n gyson ag egwyddorion cynaliadwyedd a chefnogi pobl ifanc i wireddu eu potensial sydd wedi’u hymwreiddio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Er mwyn ein helpu i alinio ein gweithgareddau ag amcanion perthnasol Llywodraeth Cymru, ac i sicrhau y cawn ein hystyried yn sefydliad blaengar sydd â’r gwerthoedd hyn yn greiddiol inni, rydym yn dymuno recriwtio Comisiynydd â phrofiad o bolisi cyhoeddus a threftadaeth. Byddwch yn chwarae rhan hollbwysig mewn cynghori’r Comisiwn ar weithgareddau priodol a’r mathau o fenter y gall corff treftadaeth ymgymryd â nhw i gefnogi nodau cymdeithasol, economaidd a lles. Byddwch hefyd yn ein helpu i feithrin cysylltiadau â rhanddeiliaid gwleidyddol a phenderfynwyr ac yn gweithredu fel hyrwyddwr cyflawniadau’r Comisiwn, er mwyn i bobl ein gwerthfawrogi a’n parchu fel sefydliad sy’n arwain ym maes polisïau treftadaeth blaengar.
Sgiliau Personol Hanfodol
Bydd angen i ymgeiswyr hefyd ddangos bod ganddynt:
Sgiliau deallusol a dadansoddol cadarn;
Y gallu i gynrychioli'r Comisiwn Brenhinol yn gyhoeddus a chyfathrebu'n effeithiol â rhanddeiliaid allweddol;
Dealltwriaeth o'r cymunedau amrywiol yng Nghymru ac ymrwymiad i rannu'r manteision sy'n gysylltiedig ag ymwneud â threftadaeth Cymru;
Y gallu i gydweithio'n effeithiol, ac i weithio gydag eraill, a thrwyddynt, i gyflawni amcanion;
Y gallu i gyflwyno syniadau newydd mewn trafodaethau am faterion strategol ac ymarferol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Am ragor o wybodaeth am rôl Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a rôl y Comisiynwyr, cysylltwch â:
Christopher Catling, yr Ysgrifennydd (Prif Swyddog Gweithredol)
Ffôn: 01970 621 200
E-bost: christopher.catling@rcahmw.gov.uk
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, anfonwch
e-bost at: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.