Swydd Wag -- Aelod (2) - Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg
Manylion y swydd
Rôl y corff
Sefydlwyd swydd Comisiynydd y Gymraeg ("y Comisiynydd") o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ("y Mesur"). Ceir mwy o fanylion am swyddogaethau’r Comisiynydd ar y wefan: http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/cymraeg/Pages/Hafan.aspx
Mae’r Mesur hefyd yn darparu ar gyfer sefydlu Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg ("y Panel Cynghori") sydd wedi eu penodi gan Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn awyddus i benodi hyd at dau aelod newydd i’r Panel Cynghori am gyfnod o dair blynedd. Bydd yr aelod/au newydd yn ymuno â’r 3 aelod sydd eisoes ar y Panel. Mae’r 3 Aelod hynny wedi’u penodi tan 31 Mawrth 2021.
Disgrifiad o'r swydd
Mae'r Mesur yn pennu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, bod gan y Panel Cynghori o leiaf 3, ond dim mwy na 5, aelod ar unrhyw adeg.
Mae aelodau'r Panel Cynghori yn ffynhonnell o gyngor strategol i'r Comisiynydd ar faterion sy'n berthnasol i swyddogaethau'r Comisiynydd. Yn benodol, mae rôl y Panel yn cynnwys:
- Rhoi cymorth a chyngor i'r Comisiynydd mewn perthynas â swyddogaethau'r Comisiynydd yn unol â'r Mesur, a gweithredu, lle bo angen, fel 'cyfaill beirniadol'.
- Bod yn fforwm lle caiff materion sy'n berthnasol i swyddogaethau'r Comisiynydd eu trafod.
- Ar gais y Comisiynydd, ystyried dogfennau penodol a luniwyd gan y Comisiynydd a mynegi barn am y dogfennau hynny.
Ni fwriedir i'r Panel gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Comisiynydd o ddydd i ddydd, ac ni fwriedir iddo ychwaith fod â phroffil cyhoeddus amlwg. Nid yw’r Comisiynydd yn atebol i'r Panel Cynghori, ond bydd ei drafodaethau â'r Panel yn cael ei adlewyrchu yn ei gwaith.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Rhaid i Aelodau'r Panel:
- fedru gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm;
- medru cynnig cyngor i gynorthwyo prosesau creu polisi a gwneud penderfyniadau;
- bod â'r gallu i asesu amryw o safbwyntiau a buddiannau ac arddel barn annibynnol
- medru cwestiynu'n briodol agwedd y Comisiynydd at unrhyw fater a bod yn ffynhonnell allanol o her a safbwynt ffres;
- bod â dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt, ac i herio arferion gwahaniaethol lle bo hynny'n briodol; a
- bod â dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Nolan ac ymrwymiad iddynt.
Mae Rheoliadau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2012 yn gwneud darpariaethau penodol am benodi’r Panel. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wrth iddynt benodi aelodau'r Panel Cynghori i roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol i wybodaeth a phrofiad y Comisiynydd ac aelodau'r Panel Cynghori, gyda'i gilydd, gynnwys gwybodaeth a phrofiad o'r materion canlynol:
- llywodraethu corfforaethol,
- arfer swyddogaethau sydd wedi eu rhoi gan neu o dan ddeddfiad,
- hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg neu unrhyw iaith arall,
- cysylltiadau cyhoeddus,
- cyfundrefnau rheoleiddiol,
- gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol.
Wedi ystyried arbenigedd a phrofiad y Comisiynydd presennol a’r 3 aelod presennol o’r Panel, mae Gweinidogion Cymru yn dymuno bod gan o leiaf un o’r aelodau newydd brofiad o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sector gwirfoddol.
Oherwydd y cysylltiad agos rhwng rôl y Panel Cynghori a swyddogaethau'r Comisiynydd, mae'n hanfodol i aelodaeth y Panel Cynghori gynnwys personau â gwybodaeth o'r Gymraeg, ac sy'n gallu ei defnyddio.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Panel Cynghori i Gomisiynydd y Gymraeg, cysylltwch â Phennaeth Deddfwriaeth yr Iaith Gymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 03000 256333 neu e-bostiwch: Alan.Jones4@llyw.cymru.
Os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch i wneud cais am y rôl hon drwy'r broses ymgeisio, cysylltwch â Tîm Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.