Swydd Wag -- Aelodau Anweithredol - Awdurdod Cyllid Cymru

Manylion y swydd

Awdurdod Cyllid Cymru
Bydd cyfarfodydd y Bwrdd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd i gychwyn. Disgwylir penderfyniad Gweinidogol cyn hir ar leoliad Awdurdod Cyllid Cymru a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r ymgeiswyr am hyn.

£300 y diwrnod.

3
mis

Rôl y corff

Mae datganoli pwerau benthyca a threthi newydd yn ddatblygiad pwysig sy’n gyfle cyffrous i Gymru ddatblygu ei threfniadau cyllido mewn modd sy’n adlewyrchu amgylchiadau Cymru ac sy’n helpu i gyflawni ein blaenoriaethau.

Yn gynharach eleni, cymeradwyodd y Cynulliad Cenedlaethol ei ddeddfwriaeth gyntaf ar gyfer trethi yng Nghymru, sef Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Mae hon yn darparu pwerau ar gyfer gweinyddu trethi, gan gynnwys pwerau i sefydlu awdurdod trethi cyntaf Cymru – Awdurdod Cyllid Cymru.

O fis Ebrill 2018, mae Llywodraeth Cymru am weld trefn effeithlon, effeithiol, a hollol weithredol ar gyfer casglu a rheoli trethi yng Nghymru.

Awdurdod Cyllid Cymru

Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn adran anweinidogol newydd. Bydd ganddo fwrdd a phrif weithredwr, a thua 40 o aelodau o staff a fydd yn weision sifil. Ei brif bwrpas fydd gweinyddu a chasglu’r trethi newydd yng Nghymru. I ddechrau, y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi fydd y rhain, ond mae posibiliadau ar gyfer datblygu ac ehangu’r amrywiaeth o swyddogaethau a gyflawnir gan yr Awdurdod, dros gyfnod o amser, gan ddibynnu i raddau ar lwyddiant ei weithrediadau cynnar.

Yn ogystal â chasglu a gweinyddu trethi newydd yng Nghymru, bydd yr Awdurdod yn:

• darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ynglyˆn â threthi datganoledig i Weinidogion Cymru ac i’r trethdalwyr;

• datrys cwynion ac anghydfodau trethdalwyr;

• hyrwyddo cydymffurfedd â gofynion trethi;

• amddiffyn yn erbyn efadu trethi ac osgoi trethi;

• cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu polisi trethi Llywodraeth Cymru.

Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithredu polisi trethi Gweinidogion Cymru ac yn dilyn y cyfeiriad strategol a osodir ganddynt; ond serch hynny bydd yn gweithredu’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Bydd yn atebol i Weinidogion Cymru ac i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Fel corff trethi newydd, bydd y gwaith o ddatblygu a chynnal cysylltiadau da gyda threthdalwyr a’u hasiantau yn allweddol. Bydd yn hanfodol iddo fod yn glir ynglyˆn â’i ddisgwyliadau mewn perthynas â threthdalwyr, ac ynglyˆn â’r gwasanaethau y bydd yn eu darparu i helpu trethdalwyr i gyflawni eu rhwymedigaethau o ran talu trethi. Bydd yn hanfodol i’r Awdurdod sefydlu diwylliant talu trethi cadarnhaol, gan hyrwyddo cydymffurfedd er mwyn atal pobl rhag osgoi talu trethi.

Mae rhaglen gyflawni ar waith yn Llywodraeth Cymru i sefydlu pob agwedd ar yr Awdurdod ac i’w baratoi ar gyfer bod yn weithredol. I gael rhagor o wybodaeth am Awdurdod Cyllid Cymru a’r ddwy dreth ddatganoledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru: http://gov.wales/funding/fiscal-reform/welsh-taxes/welsh-revenue-authority/?skip=1&lang=cy

Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru

Bydd Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru yn cynnwys Cadeirydd Anweithredol, Dirprwy Gadeirydd a thri Aelod Anweithredol arall, yn ogystal â phedwar Aelod Gweithredol, gan gynnwys y Prif Weithredwr ac aelod staff etholedig.

Disgrifiad o'r swydd

Os hoffech chi ddysgu mwy am y swydd, ewch i  www.gatenbysanderson.com (gwefan allanol sydd ar gael yn Saesneg yn unig).

I gael sgwrs gyfrinachol anffurfiol am y rôl, cysylltwch â'n hymgynghorwyr yn GatenbySanderson: Michael Dobson ar 020 7426 3968 neu Helen Anderson ar 0207 426 3977.


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swyddi hyn. Annogir ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg.

Os hoffech chi ddysgu mwy am y swydd, ewch i www.gatenbysanderson.com (gwefan allanol sydd ar gael yn Saesneg yn unig).

I gael sgwrs gyfrinachol anffurfiol am y rôl, cysylltwch â'n hymgynghorwyr yn GatenbySanderson: Michael Dobson ar 020 7426 3968 neu Helen Anderson ar 0207 426 3977.


Dyddiadau cyfweliadau

1 Chwefror 2017
1 Chwefror 2017

Dyddiad cau

06/02/17 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

Os hoffech chi ddysgu mwy am y swydd, ewch i  www.gatenbysanderson.com (gwefan allanol sydd ar gael yn Saesneg yn unig).

I gael sgwrs gyfrinachol anffurfiol am y rôl, cysylltwch â'n hymgynghorwyr yn GatenbySanderson: Michael Dobson ar 020 7426 3968 neu Helen Anderson ar 0207 426 3977.

Sut i wneud cais

I ymgeisio am y rolau hyn, cliciwch ar y swydd wag ar y wefan penodiadau cyhoeddus, a chlicio ar ‘Gwneud Cais’ yn y gornel chwith isaf. Y tro cyntaf ichi wneud cais am swydd, bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system geisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith y bydd angen ichi gofrestru, a byddwch wedyn yn gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill yr ydych yn eu gwneud drwy eich cyfrif.

Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu cael gafael ar y ffurflen gais. I ymgeisio bydd angen ichi gyflwyno dwy ddogfen atodol.

Dylai’r ddogfen gyntaf amlinellu eich gwybodaeth, eich sgiliau, a’ch profiad, a sut y maent yn bodloni meini prawf y rôl fel y’u nodir ym manyleb y person. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn hwy na 2 ochr A4. Caiff eich cais ei wrthod os bydd y ddogfen yn hwy na hynny.

Bydd yr ail ddogfen yn rhoi eich CV llawn hyd at y presennol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen i’r adran ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, gofynnir ichi roi manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich helpu i ddatblygu sgiliau a fyddai’n ddefnyddiol mewn rôl penodiad cyhoeddus, gan restru’r sefydliadau y gwnaethoch chi ymgymryd â’r gweithgareddau ar eu cyfer.

Hefyd bydd angen inni gael gwybod am unrhyw weithgarwch gwleidyddol yr ydych wedi cymryd rhan ynddo dros y pum mlynedd ddiwethaf. Ni fyddgweithgarwch gwleidyddol ynddo’i hun yn eich atal rhag cael eich penodi, ond er mwyn caniatáu i’r panel edrych ar y gweithgarwch hwnnw gyda’r ymgeisydd yng nghyd-destun ei allu i berfformio yn y rôl, dylech ddatgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol sylweddol. Dim ond os byddwch yn cael eich dethol ar gyfer cyfweliad y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei roi i’r panel, ac os byddwch yn llwyddiannus ac yn cael eich penodi i’r swydd, bydd manylion eich ymateb yn cael eu cynnwys yn y datganiad i’r wasg sy’n cyhoeddi eich penodiad.

Os hoffai ymgeiswyr ar gyfer y swydd Cadeirydd gael eu hystyried ar gyfer rôl anweithredol hefyd, dylent nodi hynny yn eu datganiad personol. Os bydd eu cais am swydd y Cadeirydd yn aflwyddiannus, byddant hefyd yn cael eu hystyried am swydd anweithredol.

Dylai ymgeiswyr ar gyfer y swyddi anweithredol gadw mewn cof y gallent gael eu dewis am swydd y Dirprwy Gadeirydd oni fydd eu datganiad personol yn nodi nad ydynt am gael eu hystyried.

I gael trafodaeth anffurfiol, gyfrinachol am y rôl, cysylltwch â’n hymgynghorwyr yn GatenbySanderson; Michael Dobson ar 020 7426 3968 neu Helen Anderson ar 0207 426 3977.

I gael rhagor o wybodaeth am Awdurdod Cyllid Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru: http://llyw.cymru/funding/fiscal-reform/welsh-taxes/welsh-revenue-authority/?skip=1&lang=cy

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau technegol wrth ymgeisio, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru drwy ffonio 029 2082 5454 neu e-bostio DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i
www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.