Swydd Wag -- Llywydd - Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Manylion y swydd

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Bydd gweithgareddau'r Llywydd yn amrywio o wythnos i wythnos. Bydd yn ymgymryd â'r rôl o bell ac o adeiladau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn ôl y gofyn. Efallai y bydd adegau pan fydd yn ofynnol i'r Llywydd deithio i gyfarfodydd a digwyddiadau
Bydd y Llywydd yn cael ei dalu ar sail ffi o £337 y dydd.  Ceir hawlio costau teithio ac unrhyw gostau rhesymol eraill a ysgwyddir wrth ymgymryd â gwaith y Bwrdd oddi wrth y Llyfrgell.
1
wythnos

Rôl y corff

Diben Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth amrywiol yn hygyrch i bawb i ddysgu, ymchwilio a mwynhau. 

Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, bydd y Llyfrgell yn derbyn £12.8m mewn cyllid refeniw blynyddol gan Lywodraeth Cymru yn 2021-2022.  Mae'r Llyfrgell hefyd yn gorff Siarter Frenhinol ac yn elusen annibynnol gofrestredig. Goruchwylir ei reolaeth a'i weithrediadau gan Fwrdd Ymddiriedolwyr.  

Mae'r Llyfrgell yn tanysgrifio i bolisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Iaith Gymraeg 2010 ac mae'n integreiddio ei gwaith i gefnogi pob un o'r saith nod llesiant yn ogystal â phum elfen lywodraethu'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy. 

I gael rhagor o fanylion am ddiben, gweledigaeth ac amcanion y Llyfrgell, ewch i: https://www.llyfrgell.cymru/fileadmin/fileadmin/docs_gwefan/amdanom_ni/dogfennaeth_gorfforaethol/2017-2021_Cynllun_Strategol_TERFYNOL.pdf

Disgrifiad o'r swydd

Mae hon yn rôl uchel ei phroffil, strategol a dylanwadol yn y sector diwylliannol yng Nghymru.

Bydd y Llywydd newydd yn ymuno â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod cyfnod o newid wrth i ganfyddiadau adolygiad wedi'i deilwra yn 2020 gael sylw ac wrth i'r Llyfrgell symud i weithredu ei chynllun strategol pum mlynedd newydd ar gyfer 2021-2026.

Mae'r Llywydd yn atebol i'r Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon am berfformiad y Llyfrgell Genedlaethol ac am gyflawni blaenoriaethau strategol. Mae datblygu a chynnal perthynas agos gyda'r Gweinidog ac aelodau allweddol o Lywodraeth Cymru yn rhan hollbwysig o rôl y Cadeirydd.

Mae'r swydd yn gofyn am berson o statws a gweledigaeth, sy'n gallu arwain sefydliad cenedlaethol mewn rôl uwch anweithredol, ac o fod yn eiriolwr dros y Llyfrgell gyda'i rhanddeiliaid allweddol.  Mae'r Llywydd yn gweithredu fel llefarydd, cynrychiolydd ac yn arweinydd mewn enw i'r Llyfrgell, gan weithredu gyda thact, diplomyddiaeth a phwerau dwyn perswâd a arferir yn dda. 

Y Llywydd yw Cadeirydd y Bwrdd, ac mae'n sicrhau yr ymdrinnir â busnes yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae ef / hi yn sicrhau bod y Bwrdd yn addas i'r diben, gan gynnig craffu priodol a llywio strategol. Mae'r Llywydd yn gyfrifol am sicrhau bod Ymddiriedolwyr yn derbyn asesiadau sefydlu, hyfforddi a pherfformiad, ac yn cydymffurfio â gofynion llywodraethu o dan y Siarter Frenhinol, y Ddeddf Elusennau, a Chod Ymddygiad y Bwrdd. Mae'r Llywydd hefyd yn cynrychioli'r Llyfrgell mewn prosesau penodiadau cyhoeddus ar y cyd â Llywodraeth Cymru i ddewis Ymddiriedolwyr newydd. 

Yn y Llyfrgell, mae'r Llywydd yn cadeirio'r Pwyllgor Penodiadau a Thaliadau (sy'n goruchwylio penodiadau Ymddiriedolwyr ac uwch staff, gan gynnwys y Llyfrgellydd Cenedlaethol) ac mae hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Llywodraethu a Pherfformiad, y pwyllgor Cynllunio Ariannol, a'r Pwyllgor Archwilio a Risg. 

Rhan o rôl y Llywydd yw sefydlu perthynas waith gref a chefnogol gyda Phrif Weithredwr a Llyfrgellydd Cenedlaethol y Llyfrgell a chyda'r uwch weithredwr, gan ddarparu cyngor, cefnogaeth a her, ond gan gymryd cyfrifoldeb gweithredol ar yr un pryd.

O bryd i'w gilydd, bydd y Llywydd yn cynrychioli'r Llyfrgell yn y cyfryngau Cymraeg a Saesneg, yn ystod ymweliadau gan uwch ffigurau cyhoeddus, ac wrth agor arddangosfeydd a digwyddiadau.

Rhaid i'r Llywydd bob amser allu gweithio'n gyfforddus ac yn effeithiol o fewn y cyd-destun diwylliannol, gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd dwyieithog y mae'r Llyfrgell yn gweithredu ynddo.

 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Rhugl

Manyleb y person

Rydym yn chwilio am rywun sy'n: 

  • dangos dealltwriaeth, ymrwymiad, a brwdfrydedd dros waith y Llyfrgell ac ar gyfer sector diwylliannol Cymru;
  • ymwybyddiaeth o bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru a sut maent yn dylanwadu ar waith y Llyfrgell a'r sector diwylliant yn gyffredinol;
  • meddu ar sgiliau arwain helaeth a phrofiad o sbarduno newid;
  • ymrwymo i faterion cydraddoldeb ac i herio arferion gwahaniaethol;
  • yn ymrwymo i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan https://www.gov.uk/government/publications/the-7-principles-of-public-life; ac
  • yn gallu cyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfaoedd y Llyfrgell yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

Meini Prawf Hanfodol:

  • Yn dangos ymrwymiad i werthoedd a gweledigaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gwerthfawrogiad o'i rôl a'i phwrpas fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys y cyd-destunau diwylliannol, dysgu, iechyd a lles, economaidd a chymdeithasol-wleidyddol y mae'n gweithredu ynddynt; a dealltwriaeth o'i rwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
  • Yn gallu dangos sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid cryf, gan gynnwys sgiliau llysgenhadol;
  • Yn ymrwymo i gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb, gan nodi profiad perthnasol i ddatblygu Bwrdd cynhwysol ac amrywiol;
  • Yn meddu ar brofiad o ddatblygu partneriaethau strategol, a gweithgarwch allgymorth ac ymgysylltu a fydd yn llywio'r agenda o sicrhau bod y Llyfrgell yn gwasanaethu ac yn cynrychioli cymunedau a rhanbarthau amrywiol Cymru;
  • Yn dangos sgiliau arwain uwch a'r gallu i ddarparu cymorth a her effeithiol i sefydliad uchel ei broffil;
  • Yn dangos y gallu i feddwl a gweithredu'n strategol;
  • Yn dangos dealltwriaeth drylwyr o lywodraethu da;
  • Yn dangos craffter busnes a masnachol a phrofiad o weithgareddau cynhyrchu incwm (gan gynnwys codi arian);
  • Yn meddu ar brofiad o weithredu ar lefel uwch mewn sefydliad cymhleth, amlddisgyblaethol.

 

Dyddiadau cyfweliadau

15 Tachwedd 2021
7 Rhagfyr 2021

Dyddiad cau

13/10/21 18:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.