Swydd Wag -- Penodi Aelod - Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Manylion y swydd

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
Caiff cyfarfodydd y bwrdd eu cynnal mewn llefydd amrywiol yng Nghymru sy'n gyfleus i'r bwrdd.
Ni fydd tâl am fod yn aelod.
1
mis

Rôl y corff

Cafodd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ei greu i fod yn llais i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ac i roi cyfeiriad, annog rhyngweithio a rhannu gwybodaeth hanfodol. Hefyd, mae'n darparu ffyrdd ffurfiol ac anffurfiol o gynnig cyngor i'r Llywodraeth.

Disgrifiad o'r swydd

Rôl a chyfrifoldebau 

Fel aelod bydd disgwyl ichi:

  • fynd i gyfarfodydd y Bwrdd pan ofynnir i chi
  • parhau i gadw'ch bys ar byls datblygiadau ac anghenion y sector bwyd
  • fod yn wybodus iawn ynghylch cyd-ddibyniaeth a chyfleoedd y diwydiant bwyd, ei is-sectorau a'r gadwyn gyflenwi yn y DU, yr Undeb Ewropeaidd  a gweddill y byd.
  • deall yn glir Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymo iddynt.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol y swydd. 

Meini Prawf Hanfodol 

  • gwybodus iawn am ddiwydiant bwyd Cymru, y DU, yr UE neu'r byd
  • profiad ariannol, masnachol neu lywodraethu ar lefel uwch
  • profiad helaeth iawn o rai is-sectorau megis llaeth, cig, pobi, organig, garddwriaeth, pysgodfeydd neu ddyframaethu
  • gweithgynhyrchu bwyd a/neu ddatblygu marchnadoedd
  • dealltwriaeth dda o'r gadwyn fwyd a'r gyd-ddibyniaeth ynddi
  • eithriadol o wybodus ym meysydd: rheoli busnes neu ymchwil neu farchnata neu arloesi neu ddatblygu sgiliau
  • ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac atebolrwydd 

Byddai'n ddymunol pe bai aelodau'r bwrdd yn meddu ar y rhinweddau canlynol: 

hunan ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r sefydliad

  • yn gallu dod i gasgliadau doeth
  • yn gwrando'n weithredol gyda meddwl agored
  • yn cymryd rhan mewn trafodaethau, gan roi sylwadau perthnasol
  • yn mynegi barn heb flewyn ar dafod ond gyda pharch
  • yn dangos mentergarwch a chraffter
  • yn meddwl yn rhesymegol, ac yn greadigol hefyd
  • yn gwneud penderfyniadau drosto'i hun
  • yn rhoi cyngor ar sail profiad
  • yn ffurfio perthynas gydweithredol ag aelodau eraill y bwrdd a lle bo gofyn, yn rhoi arweiniad a chyngor i'r tîm gweithredol
  • yn ymddwyn yn driw i gefnogi penderfyniadau'r bwrdd yn ei gyfanrwydd 

Dyddiadau cyfweliadau

9 Hydref 2020
9 Hydref 2020

Dyddiad cau

30/08/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â: 

Penodiadau Cyhoeddus
Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 I gael rhagor o wybodaeth am rôl Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru a rôl ei aelodau, cysylltwch â David Morris: 

Ffôn: 0300 025 7944

E-bost: Chair.FDWIB@gov.wales 

Os oes angen rhagor o help arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch 

penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.