Swydd Wag -- Uwch-aelodau Annibynnol o’r Panel ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru

Manylion y swydd

Llywodraeth Cymru, Uned Cyrff Cyhoeddus
Sifftiau a Chyfweliadau i'w cynnal bron nes bydd rhybudd pellach
Mae hon yn rôl â thâl ffi a byddwch yn cael ffi safonol o £ 290 y dydd ynghyd â threuliau rhesymol.
10
blwyddyn

Rôl y corff

Mae Llywodraeth Cymru yn noddi dros 50 o gyrff cyhoeddus a reoleiddir yng Nghymru a, bob blwyddyn, gwneir nifer o benodiadau cyhoeddus gan Weinidogion i'r cyrff hyn.

Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cyflawni ystod eang o swyddogaethau pwysig fel rheoleiddio annibynnol, cyngor, dyfarnu, gwasanaethau ombwdsmon, cyllid, partneriaeth, gwasanaethau masnachol ac iechyd. Gwneir pob penodiad a wneir gan Weinidogion Cymru yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus ac fe'u rheolir gan Gomisiynydd Penodiadau Cyhoeddus y DU (y Gwir Anrhydeddus Peter Riddell CBE).

Disgrifiad o'r swydd

Pryd bynnag y ceir penodiad cyhoeddus arwyddocaol i gorff cyhoeddus a reoleiddir, caiff panel penodi (a elwir fel arall yn Banel Asesu Cynghorol) ei gynnull i oruchwylio'r broses. Bydd Uwch-aelod Annibynnol o’r Panel yn aelod o'r panel hwnnw a bydd yn chwarae rôl hanfodol ar gyfer sicrhau bod y broses recriwtio'n cael ei chynnal mewn ffordd deg a thryloyw, yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus. Mae hyn yn helpu i roi sicrwydd i'r Gweinidog perthnasol a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch pwy gaiff ei benodi. Nid dewis ymgeiswyr ar gyfer y penodiad dan sylw yw rôl y panel penodi, ond rhoi rhestr i'r Gweinidogion o'r ymgeiswyr a all ymgymryd â'r penodiad – y gall y Gweinidogion wneud eu dewis ohonynt.

 

Rhaid i’r Uwch-aelod Annibynnol o’r Panel fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a'r corff cyhoeddus/bwrdd/ymddiriedolaeth iechyd y gwneir penodiad iddo ac ni ddylai fod yn wleidyddol weithgar ar hyn o bryd*.

Mae gan baneli penodi rôl allweddol hefyd wrth archwilio gwrthdaro posibl o ran buddiannau a diwydrwydd dyladwy, felly mae angen i’r Uwch-aelodau Annibynnol o’r Panel feddu ar ddealltwriaeth o’r hyn sydd o fudd i’r cyhoedd ac egwyddorion bywyd cyhoeddus Nolan.

Mae gan yr Uwch-aelodau Annibynnol o’r Panel gyfrifoldeb hefyd i roi gwybod am unrhyw bryderon am y broses benodi i'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ac, os oes angen, i'r Comisiynydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw rhestr o Uwch-aelodau Annibynnol o’r Panel y gellir galw arnynt yn ôl yr angen. Bob tro y cynigir Uwch-aelod Annibynnol o’r Panel ar gyfer ymgyrch benodol, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ynghylch y dewis hwnnw, cyn i'r broses ddechrau.

 

Gall Uwch-aelodau Annibynnol y Panel cael eu gwahodd hefyd i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd recriwtio i Uwch-wasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru.

 

Ar gyfer pob ymgyrch recriwtio, byddai angen i'r Uwch-aelod Annibynnol o’r Panel fod ar gael am oddeutu 4 diwrnod i ganiatáu amser ar gyfer cyfarfodydd sifftio, cyfweliadau a thrafodaethau ar ôl y cyfweliadau. Yn ogystal, byddai angen i’r Uwch-aelod Annibynnol o’r Panel fod yn barod i ymgymryd â rhywfaint o hyfforddiant a datblygiad yn ystod cyfnod ei benodiad. Amcangyfrifwn ymrwymiad amser o oddeutu 10 niwrnod y flwyddyn.

 

Dylai paneli cyfweld fod mor amrywiol â phosibl ac adlewyrchu'r boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu er mwyn gwneud penodiadau sydd eu hunain yn amrywiol. Felly, rydym yn awyddus i ddenu aseswyr o wahanol gefndiroedd a phob math o swyddi sydd â phrofiadau bywyd gwahanol.

Bydd Uwch-aelodau Annibynnol o’r Panel yn dymuno ymgyfarwyddo â'r Cod Llywodraethu ar benodiadau cyhoeddus. Byddant hefyd yn dymuno nodi'r rhestr o benodiadau arwyddocaol gan Lywodraeth Cymru. Yn benodol, mae'n ofynnol cael Uwch-aelod Annibynnol o’r Panel ar gyfer y penodiadau hyn pan benodir Cadeirydd.

[*Diffinnir bod yn wleidyddol weithgar fel unigolyn sy'n cael ei gyflogi gan blaid wleidyddol, sy'n dal swydd bwysig mewn plaid, sy’n sefyll fel ymgeisydd dros blaid mewn etholiad, sydd wedi siarad yn gyhoeddus ar ran plaid wleidyddol neu wedi gwneud rhoddion neu fenthyciadau sylweddol i blaid. Benthyciadau a rhoddion sylweddol yw'r rheini o faint sy'n cael eu hadrodd i'r Comisiwn Etholiadol, yn unol â throthwy adrodd y blaid ganolog.]

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Manyleb y person

Rhaid bod yr Uwch-aelodau o'r Panel:

  • Yn dangos ymrwymiad clir i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a dealltwriaeth o hynny;
  • Yn meddu ar brofiad o recriwtio uwch-swyddogion neu brofiad tebyg arall i ddod â'r persbectif hwn;
  • Yn gyfarwydd â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus, egwyddorion penodiadau cyhoeddus ac egwyddorion Nolan;
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth o waith cyrff cyhoeddus yng Nghymru;
  • Yn deall sut mae grwpiau amrywiol yn dod â'u profiadau bywyd fel sgiliau a phrofiadau trosglwyddadwy;
  • Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da ac yn barod i herio, lle bo angen, tra'n gweithio fel aelod o'r panel penodi.

Sgiliau yn y Gymraeg 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a meithrin galluoedd dwyieithog ym maes penodiadau cyhoeddus yng Nghymru, ac er nad yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, byddent yn fuddiol i waith y Paneli Asesu Cynghorol. Disgwylir i aelodau’r Panel ddangos gwerthfawrogiad o ddwyieithrwydd ac ymrwymiad i hybu a phrif-ffrydio'r Gymraeg. Rydym yn croesawu eich cais beth bynnag yw eich lefel sgiliau.

Dyddiadau cyfweliadau

12 Hydref 2020
16 Hydref 2020

Dyddiad cau

01/09/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Mae'n bolisi gennym i hyrwyddo cyfle cyfartal a'i wneud yn rhan annatod o bob agwedd ar ein gwaith, gan gynnwys penodi.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, beth bynnag y bo eu hoed, statws priodasol (gan gynnwys priodas o'r un rhyw) a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred neu beichiogrwydd a mamolaeth.

Mae Cymru wedi cymryd camau breision o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau (er enghraifft, yn 2018/19, roedd 63.5% o'r rhai a benodwyd i fyrddau yng Nghymru yn fenywod, yn ôl Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus y DU). Fodd bynnag, mae pryder ynghylch y cyfrannau isel o bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) (3.0%) a phobl sy'n datgan anabledd (5.1%) a benodir i fyrddau yng Nghymru.

Yn y blynyddoedd sydd i ddod, bydd rhaid mynd i’r afael ar fyrder â’r her o unioni’r ffaith na cheir cynrychiolaeth ddigonol o bobl BAME a phobl anabl. Felly rydym yn annog ceisiadau gan y grwpiau gwarchodedig hyn yn benodol.


 Mae amrywiaeth eang o derminoleg ar gyfer ethnigrwydd ac mae'n well gan wahanol grwpiau ac unigolion gael labeli gwahanol. Ar hyn o bryd mae BAME yn cael ei ddefnyddio'n eang yng nghyhoeddiadau'r Llywodraeth.

Er bod y maes diddordeb perthnasol yn cyfeirio at Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae’r swyddi hyn yn cwmpasu cyrff cyhoeddus ar draws pob portffolio, gan gynnwys byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd.

Sut i wneud cais

Dylid gwneud cais drwy ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru a dylid cyflwyno’r cais erbyn 16:00 ddydd Mawrth 1 Medi 2020 fan hwyraf. 

I wneud cais, gofynnir ichi gofrestru i gael cyfrif ar y system ymgeisio ar-lein gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost. Rydym yn argymell eich bod yn dewis cyfeiriad cyfrif e-bost nad oes gan neb arall fynediad ato, gan mai dyma fydd ein prif ddull o gyfathrebu â chi ynglŷn â’r broses ddethol. 

Os oes gennych nam a fyddai'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, anfonwch e-bost i penodiadau cyhoeddus i ofyn am fformat arall, neu i ofyn am addasiad rhesymol sy'n gysylltiedig â nam er mwyn cyflwyno eich cais.

Fel rhan o'r broses recriwtio, bydd yn ofynnol i chi ddarparu'r canlynol:

  • Ffurflen gais wedi’i chwblhau
  • CV cyfredol yn nodi hanes eich gyrfa sy’n nodi cyfrifoldebau allweddol a / neu sy’n amlinellu eich profiad bywyd ac unrhyw lwyddiannau allweddol
  • Datganiad personol heb fod yn fwy na dwy ochr A4 sy’n esbonio sut y mae'ch cymwysterau, sgiliau, rhinweddau a’ch profiad, a all gynnwys profiadau ‘bywyd’, yn eich gwneud yn addas i'r swydd ac, yn benodol, sut rydych yn bodloni manyleb y person.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.