Swydd Wag -- Cadeirydd - Chwaraeon Cymru

Manylion y swydd

Chwaraeon Cymru
£337.00 y dydd
2
wythnos

Rôl y corff

Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a ffyrdd egnïol o fyw. Mae Chwaraeon Cymru yn Gorff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cael ei ariannu'n bennaf gan gymorth grant Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu arian o'r Loteri Genedlaethol i chwaraeon yng Nghymru. 

Sefydlwyd Chwaraeon Cymru drwy Siarter Frenhinol ym 1972. Y pedwar amcan a bennwyd pan gafodd Cyngor Chwaraeon Cymru (sydd bellach yn masnachu fel Chwaraeon Cymru) ei sefydlu oedd: 

  • Cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a hamdden egnïol;
  • Codi safonau perfformiad a rhagoriaeth;
  • Gwella'r ddarpariaeth o gyfleusterau chwaraeon;
  • Darparu gwybodaeth a chyngor technegol am chwaraeon, hamdden a ffyrdd egnïol o fyw. 

Mae'r Siarter Frenhinol lawn i'w gweld yma Sport Wales Documents | Chwaraeon Cymru

 Mae Chwaraeon Cymru yn gweithredu dwy ganolfan genedlaethol: Sefydliad Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd, a Chanolfan Chwaraeon Dŵr Cenedlaethol Plas Menai ger Caernarfon. 

Caiff blaenoriaethau gweithredol a thargedau perfformiad Chwaraeon Cymru eu llywio gan y llythyr cylch gwaith gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, gan ymateb iddo, ac mae'n nodi blaenoriaethau strategol, unrhyw bolisïau a chynlluniau gweithredu penodol, a pholisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru. 

Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cenedl gorfforol egnïol sy’n mwynhau chwaraeon, a'i nod yw gwella lefel cyfranogiad chwaraeon ar lawr gwlad ond hefyd roi'r cymorth sydd ei angen ar ein hathletwyr uchelgeisiol i gystadlu'n llwyddiannus ar lwyfan y byd. 

Nodir polisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru yn ein Rhaglen Lywodraethu (Rhaglen lywodraethu | LLYW.CYMRU) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn gosod y fframwaith y sefydlir nodau penodol Chwaraeon Cymru yn ei erbyn, ac yn ei gwneud yn ofynnol iddo integreiddio ei holl waith i gefnogi pob un o'r saith nod llesiant yn ogystal â phum elfen lywodraethu'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Chwaraeon Cymru drwy fynd i www.chwaraeon.cymru

Disgrifiad o'r swydd

Byddwch yn atebol i’r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon ar gyfer Chwaraeon Cymru ac am gyflawni blaenoriaethau strategol.  Mae datblygu a chynnal perthynas agos â'r Dirprwy Weinidog ac aelodau allweddol o Lywodraeth Cymru yn rhan hanfodol o rôl y Cadeirydd.  

Arweinyddiaeth

  • Rhoi arweiniad effeithiol i Chwaraeon Cymru a'i Fwrdd, diffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol a chynrychioli barn y Bwrdd i'r cyhoedd.
  • Gweithio gydag aelodau eraill i gyflawni swyddogaethau'r Bwrdd a fydd yn cynnwys:

o Cyflawni cynllun corfforaethol/busnes y Bwrdd mewn ymateb i Lythyr Cylch Gwaith Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon.
o Sicrhau bod trefniadau llywodraethu'n gadarn a bod cywirdeb a phriodoldeb yng  ngwaith Chwaraeon Cymru.
o Gweithredu polisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru gan gynnwys materion cyfle cyfartal ac amrywiaeth, drwy weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau dull integredig o ddarparu chwaraeon yng Nghymru.
o Manteisio i'r eithaf ar y manteision o ddigwyddiadau chwaraeon cenedlaethol a rhyngwladol proffil uchel mawr trwy ddarparu etifeddiaeth chwaraeon gynaliadwy.
o Mynd i'r afael ag anghenion chwaraeon yn genedlaethol ac yn lleol, gan gymryd cyfrifoldeb am benderfynu sut y caiff adnoddau eu defnyddio i fodloni amcanion strategol Chwaraeon Cymru.
o Cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ledled poblogaeth Cymru.

Perthynas â'r Prif Weithredwr

  • Sefydlu ac adeiladu perthynas waith gref, effeithiol a chefnogol gyda'r Prif Weithredwr, gan ddarparu cymorth a chyngor tra'n parchu cyfrifoldeb gweithredol;
  • Cynnal arfarniad blynyddol i sicrhau bod y Prif Weithredwr yn cael ei ddal i gyfrif am gyflawni amcanion strategol y cytunwyd arnynt. Darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu perthnasol.

 Llywodraethu

  • Sicrhau bod y trefniadau llywodraethu yn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol.
  • Adeiladu Bwrdd effeithiol, creu newid a chynllunio olyniaeth ar gyfer penodiadau'r Bwrdd drwy broses a reoleiddir gan OCPA;
  • Ymgynghori'n flynyddol ag aelodau'r Bwrdd a'u gwerthuso ar eu rolau ac asesu eu perfformiad;
  • Cynllunio, llywyddu a hwyluso cyfarfodydd y Bwrdd a phwyllgorau;
  • Sicrhau ymrwymiad Chwaraeon Cymru i gydraddoldeb ac amrywiaeth.

 Cyfathrebu a Chysylltiadau Allanol

  • Gweithredu fel llysgennad i Chwaraeon Cymru
  • Hyrwyddo perthynas effeithiol rhwng aelodau anweithredol, y tîm gweithredol a staff Chwaraeon Cymru;
  • Datblygu, rheoli a chynnal perthynas dda â phartïon â diddordeb yn genedlaethol ac yn lleol. Mae partïon â diddordeb yn cynnwys: 

o Llywodraeth Cymru

o Cyrff Llywodraethu Chwaraeon

o Cymdeithasau Chwaraeon

o awdurdodau lleol

o cymunedau lleol

o y sector busnes

o y sector gwirfoddol

o cynrychiolwyr cymunedol etholedig

o y cyfryngau

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Hanfodol 

  • Profiad o arwain sefydliad proffil uchel ac yn gallu darparu dilyniant a sefydlogrwydd i sefydliad.
  • Dealltwriaeth o fanteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol ar bob lefel a gwybodaeth dda am y dirwedd chwaraeon yng Nghymru.
  • Sgiliau cyfathrebu cryf gyda'r gallu i feithrin perthynas briodol â'r holl randdeiliaid, gan gynnwys Gweinidogion a'r Llywodraeth, Aelodau'r Bwrdd, y wasg a'r cyfryngau, gan ddefnyddio amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiad byw fel y bo'n briodol.
  • Dealltwriaeth dda o fywyd cyhoeddus Cymru a pholisïau a gwerthoedd Llywodraeth Cymru, er mwyn arwain sefydliad sy'n cyflawni'n effeithiol i Weinidogion Cymru
  • Meddu ar sgiliau craffu a dadansoddi rhagorol i gefnogi a herio'r Bwrdd Gweithredol yn effeithiol, er mwyn sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn cyflawni ei nodau, ei amcanion a'i dargedau perfformiad;
  • Y gallu i gyflawni strategaeth sefydledig, gan gefnogi gwerthoedd ac ymddygiad Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru, gan gynnwys ymrwymiad cryf i egwyddorion Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol;
  • Gweithredu mewn ffordd sy'n hyrwyddo safonau uchel o ran priodoldeb a chyllid cyhoeddus, gan sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn sicrhau gwerth am arian o fewn fframwaith o arfer gorau;
  • Arwain y broses gynllunio gorfforaethol, gan gynnwys cytuno ar gynlluniau cyllidebol blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgareddau corfforaethol;
  • Meddu ar ddealltwriaeth ac ymrwymiad clir i "Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus" Nolan;
  • Wedi ymrwymo i arweinyddiaeth gynhwysol ac arwain drwy esiampl mewn ffordd sy'n parchu ac yn hyrwyddo amrywiaeth a chyfle cyfartal. Y gallu i arwain a meithrin Bwrdd cynhwysol ac amrywiol. 

Dymunol 

Byddem yn croesawu ymgeiswyr sydd â phrofiad mewn maes cysylltiedig, megis iechyd, datblygu cymunedol neu addysg. 

 


Dyddiadau cyfweliadau

14 Ionawr 2022
21 Ionawr 2022

Dyddiad cau

13/10/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.