Swydd Wag -- Penodi Cadeirydd Annibynnol - Bwrdd Rheoleiddiol Cymru

Manylion y swydd

Bwrdd Rheoleiddiol Cymru
Cynhelir busnes y Bwrdd mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, ac yn aml yn swyddfeydd y Cymdeithasau Tai.

Telir £256 y dydd i'r Cadeirydd.

Disgwylir i'r Bwrdd gwrdd bob chwarter o leiaf, ac o bosibl gael dau gyfarfod y flwyddyn gyda'r Gweinidog. Yn ogystal, dylai'r Cadeirydd fod ar gael ar gyfer telegynadleddau interim y Bwrdd.  Bydd disgwyl i'r Cadeirydd dreulio o leiaf 6 diwrnod bob chwarter (cyfanswm o 24 o ddyddiau y flwyddyn) ar fusnes y Bwrdd.

24
blwyddyn

Rôl y corff

Statws Cyfreithiol

 

Mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru wedi'i sefydlu drwy bwerau rheoleiddio tai a roddwyd i Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Tai 1996, a hynny fel Bwrdd Cynghori i gynnig cyngor i Weinidogion Cymru.  

 

Mae adran 71 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1996 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth...yr ystyrir ei fod yn hwyluso arfer unrhyw un o'u swyddogaethau eraill, hy y swyddogaethau rheoleiddio o dan Ddeddf Tai 1996, neu unrhyw beth sy'n gydnaws â hynny neu'n atodol i hynny.

 

Cefndir y Bwrdd

 

Prif ddiben Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yw dal Tîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei waith. Mae'n gwneud hynny drwy oruchwylio'r broses o weithredu'r Fframwaith Rheoleiddiol.  Mae hefyd yn rhoi cyngor i Weinidogion ynghylch perfformiad y sector cymdeithasau tai.

 

Mae'r Bwrdd Rheoleiddiol cyfredol wedi bod yn ei le ers Ebrill 2016.  Mae'n Fwrdd cwbl annibynnol, a benodwyd drwy'r broses penodiadau cyhoeddus, ac mae'n disodli'r Bwrdd Rheoleiddiol blaenorol o ystod o randdeiliaid tai, un aelod annibynnol a Chadeirydd annibynnol.

 

     

Mae'r Bwrdd yn ystyried adroddiadau, gan gynnwys adroddiad blynyddol, a chanllawiau gan y Rheoleiddiwr, yn ogystal â chyhoeddiadau eraill ar berfformiad y sector.  Defnyddir y deunyddiau hyn i roi cyngor i Weinidogion ar berfformiad y Rheoleiddiwr, y sector ac unrhyw oblygiadau polisi cysylltiedig.

 

Mae'r Bwrdd hefyd yn dod â ffocws strategol i faterion ar draws y sector, drwy gomisiynu gwaith ymchwil i themâu allweddol. Mae'r themâu hyn yn deillio o waith bob dydd y Tîm Rheoleiddio, megis adolygiad thematig Gwerth am Arian, a ysgogwyd ar ôl i nifer sylweddol o gymdeithasau ei chael yn anodd darparu digon o dystiolaeth o werth am arian yn eu hunanasesiadau.  Yn ystod y flwyddyn gyfredol, mae'r Bwrdd wedi bod yn cynnal adolygiad/llunio adroddiad cynnydd ar lywodraethiant cymdeithasau tai.

 

Mae'r Bwrdd yn cael ei gefnogi gan Grŵp Cynghori ar Reoleiddio.

 

 

Pennwyd y Cylch Gorchwyl canlynol ar gyfer Bwrdd Rheoleiddiol Cymru. Bydd y cylch gorchwyl yn cael ei adolygu'n rheolaidd.

 

(1)  archwilio perfformiad a gweithgarwch rheoleiddiol Llywodraeth Cymru, a'r sector, drwy ystyried adroddiad blynyddol, ac adroddiadau a chanllawiau eraill gan y Rheoleiddiwr, ynghyd â chyhoeddiadau eraill ar berfformiad y sector;

 

(2)  gofyn am gyngor/persbectif ychwanegol ar berfformiad y sector gan amrywiaeth eang o gyrff, yn ôl yr angen;

 

(3)  defnyddio'r wybodaeth i:

  • roi cyngor i'r Gweinidog ar berfformiad y rheoleiddiwr a'r sector;
  • rhoi cyngor i'r Gweinidog ar oblygiadau polisi cysylltiedig;
  • rhoi cyngor i'r Gweinidog ar newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio;
  • rhoi cyngor i'r Gweinidog ar yr angen am waith ymchwil ychwanegol, yn ôl yr angen.

 

Nid yw Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru.  Nid oes gan Fwrdd Rheoleiddiol Cymru bwerau na swyddogaethau gweithredol.  Caiff y Gweinidog Tai ac Adfywio (y Gweinidog) ofyn i'r Bwrdd am unrhyw gyngor y mae'r Gweinidog yn teimlo bod ei angen er mwyn cyflawni diben y Bwrdd.  Mater i'r Gweinidog fydd penderfynu a yw am dderbyn neu wrthod argymhellion y Bwrdd.

 

Mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yn cyflawni ei rôl ar ran Llywodraeth Cymru. Nid yw hyn yn tynnu oddi wrth y ffaith bod y Bwrdd yn gweithredu mewn capasiti cynghorol, o fewn y cylch gwaith a gytunwyd ar ei gyfer gan y Gweinidog, ac y bydd ei gyngor a'i argymhellion yn annibynnol felly.

 

Gan gadw gofynion arferol Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mewn cof, mater i'r Gweinidog yw penderfynu a yw am gyhoeddi unrhyw rai o adroddiadau/papurau Bwrdd Rheoleiddiol Cymru.  Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar unrhyw ddata, adroddiadau a deunyddiau eraill a gaiff eu creu gan y Bwrdd.

 

Disgrifiad o'r swydd

Cafodd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru ei sefydlu yn 2016.  Chwe aelod annibynnol sydd i'r Bwrdd cyflawn yn ogystal â'r Cadeirydd. Mae'r Bwrdd yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ac mae'n gyfrifol am oruchwylio'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn rheoleiddio cymdeithasau tai yng Nghymru ac am roi cyngor perthnasol i'r Gweinidog.

 

Mae Llywodraeth Cymru am benodi Cadeirydd newydd i Fwrdd Rheoleiddiol Cymru.  Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain Bwrdd sydd â'r dasg o gynghori Llywodraeth Cymru ar bolisi tai a rheoleiddio'r maes.  Bydd y Cadeirydd yn arwain Bwrdd cryf sy'n cynnwys amrywiaeth o sgiliau'n ymwneud â'r sector tai.  Fel arweinydd y Bwrdd, bydd y Cadeirydd yn herio gwaith tîm rheoleiddio Llywodraeth Cymru ac yn darparu cyngor strategol i'r Gweinidog ar berfformiad cyfredol y sector cymdeithasau tai a'r opsiynau ar gyfer y sector i'r dyfodol.

 

Bydd y Cadeirydd Annibynnol:

 

  • yn rhoi arweiniad a chyfeiriad strategol i'r bwrdd;
  • yn helpu i sefydlu'r Bwrdd newydd a sicrhau ei effeithiolrwydd;
  • yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros ymddygiad cyffredinol Bwrdd Rheoleiddiol Cymru a'i swyddogaethau;
  • yn sicrhau ei fod yn bodloni safonau uchel uniondeb a llywodraethiant; 
  • yn sefydlu perthynas waith effeithiol gyda'r Ysgrifenyddiaeth a gweision sifil perthnasol eraill yn Llywodraeth Cymru;
  • yn rheoli cyfarfodydd yn effeithiol, gan annog pawb i gyfrannu a herio mewn ffordd adeiladol, ceisio sicrhau consensws, a chydbwyso'r angen i drafod materion â'r gofyniad i weithredu'r agenda;
  • yn sicrhau bod gwaith goruchwylio rheoleiddiol y Bwrdd yn gynhwysfawr, yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf ac o ansawdd uchel;
  • yn darparu cyngor clir a rhesymegol i'r Gweinidog ar effeithiolrwydd rôl reoleiddiol Llywodraeth Cymru o ran cymdeithasau tai yng Nghymru;
  • yn darparu cyngor rheolaidd i'r Gweinidog ynghylch iechyd a pherfformiad y sector cymdeithasau tai;
  • yn mynychu cyfarfodydd priodol eraill yn ôl y gofyn;
  • yn gweithredu fel llefarydd ar ran y Bwrdd.

 

Penodir y Cadeirydd annibynnol am gyfnod o hyd at dair blynedd. Gall gael ei adnewyddu yn amodol ar berfformiad boddhaol am dair blynedd arall. Bydd y Cadeirydd (a'r Aelodau) mewn sefyllfa i roi barn awdurdodol ar y drefn reoleiddiol ar sail eu harbenigedd personol, a bydd disgwyl iddynt gefnogi'r Bwrdd drwy ddarparu gwybodaeth sy'n berthnasol i'r sector. Byddant yn rhoi eu barn ar faterion yn ymwneud â rôl Bwrdd Rheoleiddiol Cymru sy'n perthyn i'w cylch gwaith nhw, ac yn cyfrannu at drafodaethau ar faterion y gofynnwyd iddynt eu trafod gan y Gweinidog, neu y cytunwyd arnynt gyda'r Gweinidog, mewn perthynas â'r Cylch Gorchwyl isod.

 

Bydd hawl gan y Cadeirydd a'r Aelodau i gyflog ar sail lefelau a gymeradwywyd gan Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, telir treuliau priodol. 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol y rôl.
 

Meini Prawf Hanfodol


Sgiliau arwain, cyfathrebu rhyngbersonol ac ymgysylltu

- y gallu i ennill parch a chynnal ymddiriedaeth cydaelodau'r Bwrdd a rhanddeiliaid allweddol profiadol iawn, gan gynnwys Gweinidogion ac
  uwch-swyddogion o fewn y Llywodraeth, drwy sgiliau cyfathrebu a dylanwadu effeithiol.


Yblygrwydd deallusol

- meddwl miniog a chlir, a'r gallu i amgyffred yn gyflym feysydd polisi allweddol y sector cymdeithasau tai, ynghyd â'r materion a'r 
  pryderon cysylltiedig,  gan gadw buddiannau polisi cenedlaethol mewn golwg ar yr   un pryd;

- dealltwriaeth gadarn o'r fframwaith gwleidyddol yng Nghymru a'r gallu i gynnig cyngor a chyfarwyddyd polisi I Weinidogion a gweision
  sifil.


Dadansoddi a dehongli

- y gallu i ddadansoddi a dod i gasgliad ar sail data a gwaith ymchwil cymhleth er mwyn gwella ansawdd y broses o reoleiddio cymdeithasau
  tai, eu  perfformiad a'r buddiannau i denantiaid, defnyddwyr gwasanaethau a'r gymuned ehangach. 



Safonau uchel o ran ymddygiad corfforaethol a phersonol

- dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt, a herio arferion gwahaniaethol;

- dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Nolan, ac ymrwymiad iddynt;

- Y gallu i weithredu'n ddiduedd ac yn annibynnol ar y buddiannau gwahanol a gynrychiolir ar y Bwrdd

- Ymrwymiad i arweinyddiaeth gynhwysol.



Dymunol

Byddai dealltwriaeth o'r sector tai cymdeithasol yn fantais, ond nid yn hanfodol.

 

-        sgiliau cadeirio gwych; y gallu i arwain y broses o sefydlu aelodau newydd o Fwrdd Rheoleiddiol Cymru a gweithio'n effeithiol gyda Bwrdd sydd â
         buddiannau amrywiol.

-        y gallu i weithredu'n annibynnol ar y buddiannau gwahanol a gynrychiolir ar y Bwrdd a dod o hyd i dir cyffredin, gan sicrhau bod y
         Bwrdd yn gallu gwella ansawdd y ffordd y caiff cymdeithasau tai eu rheoleiddio, eu Perfformiad a'r manteision I denantiaid, defnyddwyr
         gwasanaethau a'r gymuned ehangach;

-        y gallu i amgyffred yn gyflym feysydd polisi allweddol y sector cymdeithasau tai yng Nghymru, ynghyd â'r materion a'r pryderon cysylltiedig

-        dealltwriaeth gadarn o'r fframwaith gwleidyddol yng Nghymru a'r gallu i gynnig cyngor a chyfarwyddyd polisi i Weinidogion;

-        uniondeb cymeriad a hygrededd digwestiwn er nad yn hanfodol, byddai dealltwriaeth o'r sector tai cymdeithasol o fantais.

 

Y Gymraeg  

-         Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer o leiaf un o'r swyddi

Dyddiadau cyfweliadau

27 Mawrth 2020
27 Mawrth 2020

Dyddiad cau

14/02/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Manylion Cyswllt;

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

 

Penodiadau Cyhoeddus

Uned Cyrff Cyhoeddus

Llywodraeth Cymru

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael mwy o wybodaeth am rôl Bwrdd Rheoleiddiol Cymru a rôl y Cadeirydd a, cysylltwch â:

 

Huw Maguire

Rhif ffôn: 03000 256073

Ebost: Huw.Maguire@llyw.cymru

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.