Swydd Wag -- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Ei weledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru ac, wrth gyflawni'r weledigaeth hon, mae'n chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.
Mae'r sefydliad yn gweithio'n agos gyda chymunedau, sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol, gweinidogion a swyddogion ac ystod eang o bartneriaid gan gynnwys y sector gwirfoddol, tai, addysg a'r heddlu a'r system cyfiawnder troseddol. Mae ganddo rôl gynyddol hefyd o ran cefnogi iechyd y cyhoedd yn rhyngwladol fel Canolfan Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd a thrwy ei holl gysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol gan gynnwys Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd Cyfarwyddwyr Anweithredol ymysg pethau eraill yn:
Cyflawni llywodraethiant effeithiol ar y sefydliad, yn ei holl ffurfiau integredig. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol.
Cyfrannu at ddatblygu a chynnal diwylliant iach ar draws swyddogaethau a gwasanaethau'r sefydliad.
Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd.
Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw.
Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.
Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill gan sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau.
Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;
Goruchwylio stiwardiaeth effeithiol ar adnoddau, gan sicrhau atebolrwydd ac agwedd agored wrth ddyrannu a defnyddio adnoddau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Byddwch wedi gweithio'n ddiweddar, neu'n dal i weithio ar lefel uwch mewn maes sy'n gysylltiedig ag Awdurdod Lleol yng Nghymru Bydd eich dealltwriaeth a'ch Gwerthfawrogiad o awdurdodau lleol, eu heriau yn ogystal â'u rôl bwysig wrth gyfrannu at iechyd y boblogaeth yn allweddol i'ch gallu i gyflawni'r rôl hon.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â'r:
Tîm Penodiadau Cyhoeddus PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Cyfarwyddwyr Anweithredol, cysylltwch â:
Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ffôn: 07711 819665
E-bost: helen.bushell@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru, gallwch fynd i wefan y sefydliad: http://www.publichealthwales.wales.nhs.uk/
Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus yn PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-en-GB/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/
Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen ichi gyflwyno'r ffurflen gais a dwy ddogfen ategol. Mae'r cyntaf yn ddogfen sy'n ateb y cwestiynau ar dudalen 4 o'r pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr. Datganiad personal. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn. Curriculum vitae (CV) llawn, cyfredol yw'r ail ddogfen y bydd rhaid ichi ei chyflwyno. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen i'r adran “Rhesymau dros ymgeisio” o'r ffurflen gais ar-lein. Dylech ddefnyddio ffont maint 12pt o leiaf ar y dogfennau ategol.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.