Swydd Wag -- Aelod o Gymru - Awdurdod MeinWeoedd Dynol

Manylion y swydd

Awdurdod Meinweoedd Dynol
Llundain
Mae gan yr Aelod o Gymru hawl i gael tâl trethadwy o £7,883 y flwyddyn.
2
mis

Rôl y corff

Mae'r HTA yn un o ddau awdurdod cymwys sydd â chyfrifoldeb ledled y DU dros reoleiddio meinweoedd a chelloedd ar gyfer triniaeth cleifion yn unol â Chyfarwyddebau Ewropeaidd. Yr awdurdod hefyd yw awdurdod cymwys y DU at ddibenion y Gyfarwyddeb Rhoi Organau sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer ansawdd a diogelwch rhoi organau a thrawsblaniadau ledled yr UE.

Mae'r HTA yn trwyddedu mwy nag 800 o sefydliadau sy'n storio ac yn defnyddio meinweoedd dynol mewn cysylltiad â'r gweithgareddau a gwmpesir gan Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004, Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 a Chyfarwyddebau Ewropeaidd.

Mae gan yr HTA rôl gyffredinol o oruchwylio cydymffurfiaeth â Deddf Meinweoedd Dynol 2004 a Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, gan gynnwys rhoi cyngor ac arweiniad i bobl sy'n cyflawni gweithgareddau a gwmpesir gan y Deddfau hyn, aelodau o'r cyhoedd a Gweinidogion. Er enghraifft, mae'r HTA yn rhoi cyngor i aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno rhoi eu cyrff i ysgolion meddygol i'w harchwilio'n anatomegol ar ôl eu marwolaeth (yr hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei alw'n "gadael eich corff ar gyfer gwyddorau meddygol”). Mae'r HTA hefyd yn cyhoeddi codau ymarfer sy'n rhoi canllawiau ymarferol i weithwyr proffesiynol sy'n cyflawni gweithgareddau sydd o fewn ei gylch gwaith, gan gynnwys rhoi organau.

Mae rheoliadau a wneir o dan Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 a Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhodd o organau gan bobl sy’n fyw, a rhoddion mêr esgyrn a bôn-gelloedd gwaed ymylol (PBSCs) gan blant ac oedolion sydd heb alluedd gael eu cymeradwyo gan yr HTA. Diben hyn yw sicrhau na roddwyd tâl; nad ydynt dan orfodaeth a bod caniatâd dilys wedi’i sicrhau. Mae aelodau'r Awdurdod yn chwarae rhan allweddol yn y broses gymeradwyo. Mae'r HTA hefyd yn asesu achosion o roi organau byw yn yr Alban o dan gytundeb â Llywodraeth yr Alban.

Disgrifiad o'r swydd

Mae'r Aelod o Gymru i'r HTA yn un o nifer o aelodau annibynnol sy'n gyfrifol am ddwyn yr HTA i gyfrif am ei weithgareddau a sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion strategol. Bydd yr Aelod Cymreig hefyd yn sicrhau atebolrwydd yr HTA i Weinidogion Cymru a bod polisïau Llywodraeth Cymru yn cael eu hystyried yng ngwaith yr HTA.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Bydd yr Aelod o Grymu yn gallu arddangos y rhinweddau canlynol:

Gwybodaeth a Phrofiad – trafodwch y rhain yn eich datganiad personol

  • Profiad o fod yn ymrwymedig i amcanion Bwrdd neu Bwyllgor a'r diddordeb a'r ymdrech i wneud cyfraniad gwirioneddol i Fwrdd neu Bwyllgor;
  • Profiad o graffu a herio Bwrdd neu Bwyllgor yn effeithiol, a'u dwyn i gyfrif am eu perfformiad neu gyflawni eu strategaeth;
  • Profiad o feddwl yn strategol ac arfer barn gadarn ar faterion cymhleth a sensitif; a
  • Profiad o ddangos y safonau uchaf o briodoldeb personol mewn perthynas â llywodraethu, atebolrwydd, risg a rheolaeth ariannol.

 

Profiad neu sgiliau mewn un neu fwy o'r canlynol:

  • Profiad proffesiynol yn unrhyw un o'r sectorau a reoleiddir gan yr HTA;
  • Profiad o roi a thrawsblannu organau naill ai o safbwynt claf neu ymarferydd;
  • Moeseg feddygol, clinigol neu ymchwil; a
  • Data a dadansoddi fel sbardunau ar gyfer trawsnewid digidol.

 

Priodoleddau a Sgiliau Personol – trafodwch y rhain yn eich datganiad personol

  • Sgiliau rhyngbersonol cadarn a digon o ddylanwad personol a hygrededd i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol â sgiliau dylanwadu a thrafod cadarn;
  • Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau tymor hir a thymor byr;
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i fod yn glir ac yn gryno ac i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth tra'n dangos parch at farn pobl eraill;
  • Y gallu i amsugno llawer iawn o wybodaeth a gwerthuso tystiolaeth gymhleth o fewn amserlen fer;
  • Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol; a
  • Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn 


Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos:

  • Dealltwriaeth eglur o faterion cydraddoldeb ac arferion gwahaniaethol heriol ac ymrwymiad iddynt; a
  • Dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan', ynghyd ag ymrwymiad iddynt.


Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol. Disgwylir i bob ymgeisydd ddangos empathi at yr iaith a dangos arweiniad i gryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog yn y GIG yng Nghymru.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ymhelaethu ar sut maent yn bodloni'r meini prawf uchod gan ddefnyddio enghreifftiau a thystiolaeth.

Dyddiadau cyfweliadau

4 Ionawr 2021
8 Ionawr 2021

Dyddiad cau

16/11/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r:

Tîm Penodiadau Cyhoeddus
penodiadaucyhoedduss@llyw.cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu trafodaeth anffurfiol am rôl yr Aelod Cymraeg i'r HTA, cysylltwch â:

Yr Athro Chris Jones – Dirprwy Brif Swyddog Meddygol.

Rhif ffôn: 03000 257143

E-bost: Chris.Jones@llyw.cymru.

 

Mae rhagor o wybodaeth am yr HTA ar gael yn:

https://www.hta.gov.uk/about-us

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.