Swydd Wag -- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Penodi Is-Gadeirydd

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Tŷ Woodlands, Ffordd Maes y Coed, Caerdydd
£56,316 y flwyddyn ynghyd â chostau teithio a threuliau rhesymol eraill
13
mis

Rôl y corff

Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ym mis Hydref 2009 ac mae'n un o sefydliadau mwyaf y GIG yn y DU. Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn gyfrifol am tua 475,000 o bobl sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Ynghyd â hyrwyddo iechyd a swyddogaethau iechyd y cyhoedd, mae hefyd yn cynnwys darparu gwasanaethau gofal sylfaenol lleol (meddygfeydd teulu, deintyddion, optometryddion a fferyllwyr cymunedol) a rhedeg ysbytai, canolfannau iechyd, timau iechyd cymunedol a gwasanaethau iechyd meddwl. Ar y cyd â rhai gwasanaethau gan fyrddau iechyd a phartneriaid allweddol eraill, mae'r rhain yn darparu ystod lawn o wasanaethau iechyd i'r bobl sy'n byw'n lleol ac i bobl eraill Cymru a Lloegr sy'n defnyddio ein gwasanaethau arbenigol. Mae Ysbyty Plant Cymru Arch Noa wedi'i leoli ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Mae'n darparu gofal iechyd i blant Caerdydd ond hefyd yn darparu gwasanaethau trydyddol i blant o bob cwr i Gymru. Yn Ysbyty Athrofaol Llandochau mae Hafan y Coed, sef uned iechyd meddwl newydd i oedolion a agorwyd ym mis Ebrill 2016. Mae'r uned yn cynnig awyrgylch fodern, therapiwtig sy'n canolbwyntio ar wella i oedolion sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Mae'r uned newydd o'r radd flaenaf a bydd yn helpu defnyddwyr y gwasanaeth i wella ac i adsefydlu. 

Llunio ein Lles yn y Dyfodol yw ein Strategaeth 10 mlynedd (2015-2025) http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/our-mission-and-vision Gofalu am  Bobl; Cadw Pobl yn Dda yw pam ein bod yn bodoli fel Bwrdd Iechyd, ein gweledigaeth yw bod cyfle unigolyn i fyw bywyd iach yr un fath lle bynnag y maent yn byw a phwy bynnagydynt. Rhan annatod o'n strategaeth yw'r dyhead i sicrhau gofal cyson sy'n canolbwyntio ar ofal yn y cartref yn gyntaf, osgoi niwed, gwastraff ac amrywiadau yn y gofal, grymuso unigolion a chyflawni canlyniadau sy'n bwysig iddyn nhw.

Er mwyn cyflenwi'r gwasanaethau amrywiol a chymhleth hyn, rydym yn gwario dros £1.2 biliwn bob blwyddyn ac yn cyflogi 14,000 o staff. Pan fydd pobl yn meddwl am y Gwasanaeth Iechyd, doctoriaid a nyrsys fydd yn dod i'r meddwl, ond mae'n bwysig cofio bod amryw o swyddi gwahanol yn cyfrannu at sicrhau bod y gofal rydym yn ei ddarparu yn bosib. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwyddonwyr iechyd yn cynnwys gweithwyr mewn dros 40 o wahanol swyddi gan gynnwys dietegwyr, ffisiotherapyddion, radiograffwyr, awdiolegwyr a gwyddonwyr labordy. Mae gweithwyr cymorth gofal iechyd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi staff i ddarparu gofal clinigol uniongyrchol ac mae’r rhai sy'n darparu cefnogaeth nad yw'n glinigol yn cynnwys ein porthorion, staff glanhau ac arlwyo, trydanwyr a pheirianwyr, a llawer mwy.

Rydym hefyd yn Fwrdd Iechyd Addysgu gyda chysylltiad agos â Phrifysgol Caerdydd, sy'n ymfalchïo mewn rôl flaenllaw o ran dysgu, ymchwil a datblygu yn y DU a thramor. Mae hyn ar ben cysylltiadau academaidd eraill â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Gyda'n gilydd, rydym yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr clinigol proffesiynol fel ein bod yn datblygu ein harbenigedd ac yn gwella canlyniadau clinigol.

 

 

Disgrifiad o'r swydd

Disgrifiad o'r rôl

Mae hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.  Bydd yr Is-gadeirydd yn aelod o'r Bwrdd ac yn dirprwyo ar ran y Cadeirydd, os bydd yn absennol am unrhyw reswm. 

Bydd yr Is-gadeirydd yn:

  • Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei reoli, mewn modd clinigol a chorfforaethol, ac mae disgwyl iddynt gynnig barn annibynnol i'r Bwrdd am faterion fel perfformiad, penodiadau allweddol, rhagolygon ac atebolrwydd 
  • Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar ei annibyniaeth, ei brofiad yn y gorffennol a'i wybodaeth, a'i allu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd 
  • Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw
  • Yn dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r Bwrdd Iechyd i weithredu'n effeithiol
  • Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau. 

Yn ogystal â'i rôl gorfforaethol ar draws holl gyfrifoldebau'r Bwrdd Iechyd, bydd gan yr Is-gadeirydd gyfrifoldeb penodol i oruchwylio gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac anabledd dysgu'r Bwrdd Iechyd gan sicrhau model gofal cytbwys sy'n diwallu anghenion poblogaeth y Bwrdd Iechyd.  Bydd yr Is-gadeirydd yn:

  • Darparu arweiniad cryf, effeithiol a gweledol, ar draws gwasanaethau iechyd sylfaenol, iechyd cymunedol, iechyd meddwl ac anabledd dysgu; yn fewnol drwy'r bwrdd a'i bwyllgorau, ac yn allanol drwy gysylltiadau ag amrywiol randdeiliaid a phartneriaid o fewn y lefelau cymunedol ehangach ac yn genedlaethol
  • Cadeirio Pwyllgor Deddfwriaeth ar Iechyd Meddwl a Chapasiti y Bwrdd sy'n goruchwylio cydymffurfiaeth â deddfwriaeth iechyd meddwl a chodau ymarfer cysylltiedig
  • Cymryd cyfrifoldeb dros graffu ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer gwasanaethau iechyd sylfaenol, iechyd cymunedol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Yn gweithio o fewn fframwaith llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i roi sicrwydd i'r Bwrdd bod gwaith system gyfan yn cael ei wneud yn effeithiol ar sail llwybrau gofal integredig
  • Gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl i gytuno ar raglen waith integredig a'i chyflwyno, er mwyn adlewyrchu anghenion pobl sy'n byw yn ardal Caerdydd a'r Fro
  • Gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid yn y gymuned, yn arbennig yn ei faes cyfrifoldeb ac yn fwy eang a chefnogi'r Cadeirydd i sicrhau bod diwylliant ac arferion gwaith y sefydliad yn seiliedig ar ysbryd o bartneriaethau agored, ystyrlon a chynaliadwy. Bydd gan yr Is-gadeirydd sgiliau cyfathrebu rhagorol a, thrwy graffu effeithiol, bydd yn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd bod strwythurau'r sefydliad yn rhoi pwys cyfartal ar wasanaethau iechyd sylfaenol, iechyd cymunedol ac iechyd meddwl ac ar wasanaethau eraill y Bwrdd Iechyd, gan roi cyfle i wasanaethau contractwyr chwarae rhan lawn yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau
  • Cefnogi prosesau rheoli perfformiad y Bwrdd Iechyd, i sicrhau system rheoli a gwella perfformiad integredig
  • Helpu i feithrin a chynnal perthynas uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol sy'n gontractwyr gofal sylfaenol, gan sicrhau eu bod yn chwarae rhan lawn yng ngwaith y Bwrdd Iechyd

Ymgymryd â rôl llysgennad allanol, gan gynrychioli'r Bwrdd yn gyhoeddus ac ennyn hyder y cyhoedd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Bydd pob Is-gadeirydd yn dangos y rhinweddau canlynol: 

Gwybodaeth a Phrofiad

  • Profiad o arwain a datblygu sefydliad preifat, cyhoeddus neu drydydd sector llwyddiannus, a'r gallu i edrych i'r dyfodol a chynnig arweiniad strategol;
  • Profiad o ddeall y berthynas rhwng dyrannu adnoddau a rheoli a chyflenwi blaenoriaethau gwasanaeth o fewn fframwaith o lywodraethu corfforaethol cadarn;
  • Y gallu i ddadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn
  • Y gallu i weithio gyda'r cyfarwyddwyr er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn arwain y sefydliad yn effeithiol. Lle y bo angen, byddwch yn dangos sgiliau a fydd yn eich galluogi i ddwyn y cyfarwyddwyr gweithredol i gyfrif am berfformiad gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd
  • Y gallu i gyfrannu at brosesau 'Llywodraethu' y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau
  • Profiad o weithio mewn cymunedau a thimau amlddisgyblaethol. 

Priodoleddau Personol a Sgiliau

Bydd angen i chi allu dangos y canlynol:-

  • Y gallu i arwain ac ysbrydoli staff, edrych i'r dyfodol a nodi'r materion allweddol ar gyfer y sefydliad;
  • Sgiliau rhyngbersonol cadarn a digon o ddylanwad personol a hygrededd i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol â sgiliau dylanwadu a thrafod cadarn
  • Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau hirdymor a thymor byr;
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â'r gallu i fod yn glir a chryno, a'r gallu i feithrin cysylltiad â phobl ar bob lefel
  • Y gallu i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth, gan ddangos parch at farn pobl eraill
  • Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol
  • Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn a
  • Y gallu i gyflawni rôl yr Is-gadeirydd yng nghyd-destun cyfrifoldebau statudol a chorfforaethol ehangach y Bwrdd a rolau'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr.

Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos:

  • Dealltwriaeth eglur o faterion cydraddoldeb ac arferion gwahaniaethol heriol ac ymrwymiad iddynt
  • Dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan', ynghyd ag ymrwymiad iddynt.

 

Dyddiadau cyfweliadau

8 Chwefror 2021
12 Chwefror 2021

Dyddiad cau

08/01/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma: https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â: 

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus

E-bost: Penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a rôl, cysylltwch â Charles Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Ffôn: 02921836011

E-bost: Charles.Janczewski@wales.nhs.uk 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus


 

 

 

 

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.