Swydd Wag -- Amgueddfa Cymru - Ymddiriedolwr (x2)

Manylion y swydd

Amgueddfa Cymru
Cynhelir cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a’r Pwyllgor Rheoli Perfformiad 8 gwaith y flwyddyn. Cynhelir cyfarfod y Bwrdd, cyfarfodydd Pwyllgor a digwyddiadau ar draws Cymru.
12
blwyddyn

Rôl y corff

Amgueddfa Cymru yw sefydliad diwylliannol pwysicaf Cymru, mae’n adnabyddus ar draws y byd ac mae wrth wraidd y genedl. Mae 1.9 miliwn o bobl yn ymweld ag Amgueddfa Cymru bob blwyddyn, a dyma gartref casgliadau cenedlaethol celf, hanes a gwyddorau amgylcheddol Cymru. Yn 2020, bydd y sefydliad yn adolygu ei frand ac yn datblygu strategaeth 10 mlynedd newydd, er mwyn sicrhau y gall rhagor o bobl rannu a defnyddio’i horielau, rhaglenni a chasgliadau, a chael eu hysbrydoli ganddynt.

 

Cefndir

Ers ei sefydlu trwy Siarter Frenhinol ym 1907, mae Amgueddfa Cymru wedi cefnogi miliynau o bobl wrth iddynt ymchwilio i’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol posibl, ac rydym wedi casglu, diogelu a rhannu eu casgliadau a’u hatgofion â’r genedl. Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn datblygu model newydd ar gyfer amgueddfeydd cenedlaethol, yn seiliedig ar egwyddorion democratiaeth ddiwylliannol, yn ogystal â dod yn arweinydd ym maes addysg ac ymgysylltiad trwy gyfranogiad diwylliannol. O’r herwydd, enillodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019, yn dilyn project ailddatblygu gwerth £30 miliwn. Cymerodd miloedd o bobl ran yn y gweddnewid.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae gan Amgueddfa Cymru Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol hefyd yn Nantagrw, ger Caerdydd.

 

Noddir Amgueddfa Cymru gan Lywodraeth Cymru, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae ganddi Fwrdd Ymddiriedolwyr sydd â'r swyddogaeth o bennu cyfeiriad strategol y sefydliad, sicrhau y caiff Gweledigaeth ac amcanion y corff eu gwireddu a sicrhau’r defnydd priodol o’i hadnoddau. Cyllideb Amgueddfa Cymru ar gyfer 2019-20 yw £24 miliwn ac mae'n cyflogi dros 600 aelod staff.

Disgrifiad o'r swydd

Swyddogaeth a Chyfrifoldebau'r Bwrdd

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw corff llywodraethu Amgueddfa Cymru ac mae'n dal casgliadau'r Amgueddfa mewn ymddiriedolaeth ar ran pobl Cymru. Rôl y Bwrdd yw arwain yn effeithiol, diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol. Mae'r Bwrdd yn hyrwyddo safonau uchel o atebolrwydd cyhoeddus ac yn cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae'n monitro perfformiad yn unol â nodau, amcanion a thargedau perfformiad Amgueddfa Cymru.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen gofrestredig ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae gan Ymddiriedolwyr rwymedigaethau i Lywodraeth Cymru ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd, mae Amgueddfa Cymru yn derbyn tua 80% o'i chyllid blynyddol (tua £22 miliwn o gyllid refeniw yn 2019-20) gan Lywodraeth Cymru ar ffurf Cymorth Grant.

Swyddogaeth Ymddiriedolwr

Yr Ymddiriedolwyr yw corff llywodraethu Amgueddfa Cymru i bob pwrpas, a’u rôl yw pennu cyfeiriad strategol y sefydliad a sicrhau bod yr adnoddau yn cael eu rheoli yn briodol. Mae Ymddiriedolwyr yn cefnogi'r Cyfarwyddwr Cyffredinol i wireddu Gweledigaeth yr Amgueddfa sef 'Ysbrydoli pobl, newid bywydau'.

 

Mae'n rhaid i Ymddiriedolwyr hefyd wneud y canlynol:

  • rhoi eu profiad a'u harbenigedd i'r Amgueddfa;
  • cyfrannu at y gwaith o lunio polisïau, strategaethau a blaenoriaethau wrth reoli casgliadau’r Amgueddfa;
  • mynychu cyfarfodydd y Bwrdd a chyfarfodydd y Pwyllgor Adolygu Perfformiad a pharatoi'n drylwyr ar eu cyfer;
  • gwasanaethu ar is-bwyllgorau a grwpiau eraill;
  • cefnogi rheolwyr a staff yr Amgueddfa wrth eu gwaith;
  • cynrychioli'r Amgueddfa mewn digwyddiadau cyhoeddus;
  • hyrwyddo proffil yr Amgueddfa; a
  • hwyluso'r cysylltiadau â rhanddeiliaid yr Amgueddfa.

 

Mae gofyn i Ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol hefyd o’u rhwymedigaethau yn sgil y ffaith bod yr Amgueddfa yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Nodir y rhwymedigaethau yn y Ddogfen Fframwaith, sy'n pennu'r Amodau a Thelerau sy'n gysylltiedig â'r nawdd a roddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i'r Amgueddfa.  

 

MEINI PRAWF SYLFAENOL

I fod yn effeithiol, mae ar y Bwrdd angen Ymddiriedolwyr amrywiol iawn eu harbenigedd a'u profiad. Ar gyfer yr ymgyrch recriwtio hon rydym yn awyddus i benodi Ymddiriedolwyr a chanddynt brofiad mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

  • addysg, cyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol;
  • iechyd a lles;
  • marchnata a chyfathrebu;
  • y diwydiannau creadigol, dylunio a thechnoleg;
  • codi arian, masnach a chynhyrchu incwm.

 

(Dylai eich datganiad personol nodi pa un neu rai o’r meysydd hyn y mae gennych brofiad ohonynt)

 

Dylai ymgeiswyr hefyd allu dangos eu bod yn meddu ar wybodaeth, sgiliau a phrofiad mewn ystod o’r meysydd canlynol:

 

  • ymrwymiad a brwdfrydedd dros waith yr Amgueddfa i gefnogi newid a datblygiad yng Nghymru drwy gyfranogiad diwylliannol;
    • dealltwriaeth a diddordeb yn y sector diwylliannol yn ei gyfanrwydd a sensitifrwydd ynghylch materion diwylliannol;
    • sgiliau cynrychioli a chyfathrebu rhagorol;
    • y gallu i gydweithio â’ch cyd-Ymddiriedolwyr;
    • gwerthfawrogiad o’r gwahaniaeth rhwng swyddogaeth weithredol a swyddogaeth anweithredol;
    • ymrwymiad i faterion cydraddoldeb ac i herio arferion gwahaniaethol lle bo hynny’n briodol.

 

Dylai ymgeiswyr allu dangos bod ganddynt:

 

  • ymrwymiad i werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, gan werthfawrogi ei swyddogaeth a'i phwrpas fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru; gan gynnwys y cyd-destun diwylliannol, addysg, iechyd a llesiant, economaidd a chymdeithasol-wleidyddol y mae'n gweithredu o fewn iddo; a dealltwriaeth o'i rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
  • y gallu i wella swyddogaeth yr Amgueddfa wrth wasanaethu a chynrychioli amrywiol gymunedau a rhanbarthau Cymru; ac
  • ymrwymiad i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan (Saesneg yn unig)

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Manyleb y person

I fod yn effeithiol, mae ar y Bwrdd angen Ymddiriedolwyr amrywiol iawn eu harbenigedd a'u profiad. Ar gyfer yr ymgyrch recriwtio hon rydym yn awyddus i benodi Ymddiriedolwyr a chanddynt brofiad mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

  • addysg, cyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol;
  • iechyd a lles;
  • marchnata a chyfathrebu;
  • y diwydiannau creadigol, dylunio a thechnoleg;
  • codi arian, masnach a chynhyrchu incwm.

 

(Dylai eich datganiad personol nodi pa un neu rai o’r meysydd hyn y mae gennych brofiad ohonynt)

 

Dylai ymgeiswyr hefyd allu dangos eu bod yn meddu ar wybodaeth, sgiliau a phrofiad mewn ystod o’r meysydd canlynol:

 

  • ymrwymiad a brwdfrydedd dros waith yr Amgueddfa i gefnogi newid a datblygiad yng Nghymru drwy gyfranogiad diwylliannol;
    • dealltwriaeth a diddordeb yn y sector diwylliannol yn ei gyfanrwydd a sensitifrwydd ynghylch materion diwylliannol;
    • sgiliau cynrychioli a chyfathrebu rhagorol;
    • y gallu i gydweithio â’ch cyd-Ymddiriedolwyr;
    • gwerthfawrogiad o’r gwahaniaeth rhwng swyddogaeth weithredol a swyddogaeth anweithredol;
    • ymrwymiad i faterion cydraddoldeb ac i herio arferion gwahaniaethol lle bo hynny’n briodol.

 

Dylai ymgeiswyr allu dangos bod ganddynt:

 

  • ymrwymiad i werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, gan werthfawrogi ei swyddogaeth a'i phwrpas fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru; gan gynnwys y cyd-destun diwylliannol, addysg, iechyd a llesiant, economaidd a chymdeithasol-wleidyddol y mae'n gweithredu o fewn iddo; a dealltwriaeth o'i rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
  • y gallu i wella swyddogaeth yr Amgueddfa wrth wasanaethu a chynrychioli amrywiol gymunedau a rhanbarthau Cymru; ac
  • ymrwymiad i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan (Saesneg yn unig).

Dyddiadau cyfweliadau

1 Ebrill 2020
30 Ebrill 2020

Dyddiad cau

06/03/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Ymholiadau

Am ymholiadau ynghylch eich cais cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

 

Os nad ydych yn hollol fodlon

Nod Llywodraeth Cymru yw prosesu'r holl geisiadau mor gyflym â phosibl a thrin pob ymgeisydd yn gwrtais. Os oes gennych unrhyw gwynion am y ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.  

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.