Swydd Wag -- Cyfarwyddwr Anweithredol (Prifysgol) - Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion y swydd

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ledled Cymru
£9360 y flwyddyn
4
mis

Rôl y corff

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Ei weledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru ac, wrth gyflawni'r weledigaeth hon, mae'n chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

 

Mae'r sefydliad yn gweithio'n agos gyda chymunedau, sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol, gweinidogion a swyddogion ac ystod eang o bartneriaid gan gynnwys y sector gwirfoddol, tai, addysg a'r heddlu a'r system cyfiawnder troseddol. Mae ganddo rôl gynyddol hefyd o ran cefnogi iechyd y cyhoedd yn rhyngwladol fel Canolfan Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd a thrwy ei holl gysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol gan gynnwys Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.

 

Mae'n gyfnod cyffrous i iechyd y cyhoedd yng Nghymru gyda chyd-destun polisi a deddfwriaeth arloesol a blaengar sy'n sicrhau bod iechyd, llesiant a chynaliadwyedd yn flaenllaw yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Y tri sbardun o bwys ar gyfer hyn yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), y Rhaglen Lywodraethu -  Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol a Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Mae ein ffocws yn glir iawn. Er mwyn gwneud gwelliannau i iechyd a llesiant ar raddfa fawr ac yn gyflym a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, bydd angen i ni ganolbwyntio ar yr hyn sy'n gweithio, cefnogi ein pobl yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn genedlaethol ac yn lleol, i feddwl, ymgysylltu a gweithio gyda phartneriaid yn wahanol a rheoli a chyflwyno newid yn dda. Mae angen i ni hefyd gefnogi ein partneriaid gan gynnwys cymunedau, gweithleoedd, y GIG, awdurdodau lleol, y trydydd sector, yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub ac asiantaethau tai i ddod yn eiriolwyr ac yn hyrwyddwyr iechyd cyhoeddus o fewn ac ar draws cymunedau. Yn ogystal, mae angen moderneiddio sut rydym ni, a'r system iechyd cyhoeddus ehangach, yn ymgysylltu, yn rhyngweithio ac yn cyfathrebu â'r cyhoedd a chymunedau yn gyffredinol.

 

Rydym wedi sefydlu nifer o bartneriaethau strategol allweddol a chydweithrediadau i ysgogi gwelliannau mewn iechyd, llesiant a chynaliadwyedd ledled Cymru - gyda ffocws penodol ar adeiladu gwytnwch a'r penderfynyddion ehangach. Mae'r rhain yn cynnwys CymruWellWales, sef partneriaeth strategol draws-sector sy'n arwain Cymru o ran yr ymgyrch 1000 Diwrnod Cyntaf a Chanolfan Gymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs), y rhaglen genedlaethol Camau Cynnar Gyda'n Gilydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r heddlu a'r system cyfiawnder troseddol er mwyn ymgorffori dull iechyd cyhoeddus o blismona yng Nghymru a Phartneriaeth Iechyd a Thai strategol i Gymru.



 

Y prif rolau y mae'r Bwrdd yn eu cyflawni yn y sefydliad yw:

 

Ø  llunio strategaeth a phennu cyfeiriad y sefydliad

Ø  sicrhau atebolrwydd trwy ddwyn y Tîm Gweithredol i gyfrif am gyflawni'r strategaeth a thrwy geisio sicrwydd bod y systemau rheoli yn gadarn ac yn ddibynadwy

Ø  pennu archwaeth risg y sefydliad, pennu'r risgiau strategol allweddol a goruchwylio'r gwaith o reoli a lliniaru'r risgiau hynny

Ø  llywio diwylliant a naws gadarnhaol ar gyfer y Bwrdd a'r sefydliad.

 

 

Mae rôl aelod o’r Bwrdd yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:

 

Ø   Strategaeth: cyfrannu at ddatblygu strategol a gwneud penderfyniadau

Ø   Perfformiad: sicrhau bod trefniadau arwain a rheoli effeithiol yn cael eu cyflawni trwy Dîm Gweithredol effeithiol. Dwyn y tîm gweithredol i gyfrif am ei berfformiad o ran bodloni nodau ac amcanion y cytunwyd arnynt drwy herio a chraffu'n bwrpasol, a monitro'r gwaith o adrodd am berfformiad

Ø   Rheolaeth ariannol a risg: sicrhau bod gwybodaeth ariannol yn gywir, a bod rheolaethau ariannol a systemau rheoli risg a sicrwydd yn gadarn a bod modd eu hamddiffyn.  Sicrhau bod yr holl risgiau strategol yn cael eu nodi, eu rheoli a'u lliniaru'n briodol. 

Ø   Ymddygiadau: Arddel gwerthoedd y sefydliad, cydymffurfio â'r safonau moesegol uchaf o ran uniondeb a chywirdeb a chydymffurfio'n llawn â'r Cod Ymddygiad. Dylai aelodau'r bwrdd ddangos drwy eu hymddygiad eu bod yn canolbwyntio ar eu cyfrifoldebau tuag at ddinasyddion, ein staff a'n rhanddeiliaid.


Disgrifiad o'r swydd

Mae hwn yn amser cyffrous i Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth inni gychwyn ar strategaeth hirdymor newydd ac mae'n gyfle gwych i ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i gyfrannu at ein gweledigaeth sef ‘Gweithio i Gyflawni Dyfodol Iachach i Gymru’.  

 

 

Bydd Cyfarwyddwyr Anweithredol ymysg pethau eraill yn:

 

Ø  Cyflawni llywodraethiant effeithiol ar y sefydliad, yn ei holl ffurfiau integredig. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol.

Ø  Cyfrannu at ddatblygu a chynnal diwylliant iach ar draws swyddogaethau a gwasanaethau'r sefydliad.

Ø  Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd. 

Ø  Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw.

Ø  Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.

Ø  Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill gan sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau.

Ø  Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn; 

Ø  Goruchwylio stiwardiaeth effeithiol ar adnoddau, gan sicrhau atebolrwydd ac agwedd agored wrth ddyrannu a defnyddio adnoddau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Mae’n fwy na thebyg fod gennych, ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, brofiad helaeth o weithio fel academydd profiadol o fewn maes sy'n gysylltiedig ag iechyd y boblogaeth mewn Prifysgol. Mae'n hanfodol eich bod yn deall ac yn gwerthfawrogi'r materion sy'n ymwneud ag iechyd y boblogaeth yng Nghymru ac os nad oes gennych bortffolio iechyd sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r boblogaeth, bydd eich dealltwriaeth a'ch ymrwymiad i egwyddorion iechyd y boblogaeth yn allweddol eich gallu i gyflawni'r rôl hon.

 

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer penodi.

 

Meini Prawf Penodol i'r Rôl:

 

  • Profiad a dealltwriaeth sylweddol o faterion yn ymwneud ag iechyd y boblogaeth yng Nghymru o safbwynt Prifysgol/addysg uwch. Bydd gennych brofiad / cefndir ymchwil ym maes iechyd yn gyffredinol neu ym maes iechyd y boblogaeth yn benodol.
  • Profiad sylweddol o gynnal ymchwil, neu waith perthnasol arall, ar lefel genedlaethol i wella canlyniadau i bobl Cymru.
  • Y gallu i ddefnyddio eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o faterion iechyd y boblobgaeth mewn cyd-destun bwrdd cenedlaethol strategol

 

Y Meini Prawf sy'n Ddymunol

Byddwch wedi gwasanaethu'n ddelfrydol mewn rôl anweithredol neu ymddiriedolwr

Dyddiadau cyfweliadau

2 Ebrill 2020
3 Ebrill 2020

Dyddiad cau

13/02/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

TBC

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.