Swydd Wag -- Aelod Annibynnol Cymuned O Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Manylion y swydd

Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cynhelir cyfarfodydd Bwrdd/Gweithdy/Datblygu yn fisol fel arfer mewn amrywiol leoliadau ar draws y Bwrdd Iechyd.
Bydd yr Aelod Annibynnol (Cymuned) yn cael tâl o £15,936 y flwyddyn, i’w dalu’n fisol neu’n chwarterol yn ôl-weithredol, yn unol â’r hyn y cytunir arno gyda’r Bwrdd Iechyd.
4
mis

Rôl y corff

Bwrdd Iechyd Prifysgol Lleol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae'n darparu ystod lawn o wasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymunedol, gofal iechyd meddwl a gwasanaethau ysbyty acíwt ar gyfer poblogaeth o ryw 678,000 o bobl ledled chwe sir y Gogledd (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam). 

Ym 2018/19 Roedd gan y Bwrdd Iechyd incwm refeniw o £1.54 biliwn ac roedd yn cyflogi tua 18,000 o bobl (15,500 cyfwerth ag amser cyflawn).

Mae gan y Bwrdd Iechyd dri phrif ysbyty (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam), yn ogystal â rhwydwaith o ysbytai cymunedol, canolfannau iechyd, clinigau, unedau iechyd meddwl a lleoliadau timau cymunedol. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn cydgysylltu gwaith 109 o bractisau meddygon teulu a gwasanaethau GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr yn y Gogledd.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd Aelodau Annibynnol, ymhlith pethau eraill, yn:-

· Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol.  Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol. 

· Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli beunyddiol;

· Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw

· Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.

· Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu hystyried yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau.

· Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn; 

· Bod â’r gallu i fynegi barn ynghylch llywodraethu ac ariannu’r Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Meini Prawf Penodol i'r Rôl: Aelod Annibynnol - Cymuned

Bydd raid ichi ddangos:

  • Gwybodaeth am faterion a blaenoriaethau'r gymuned leol ac empathi â nhw;
  • Canolbwyntio ar y dinesydd wrth hyrwyddo diben y Bwrdd o wasanaethu'r cyhoedd
  • Profiad sefydliadol a fydd o fudd i ddatblygiad y Bwrdd Iechyd.

Dyddiadau cyfweliadau

17 Mawrth 2020
17 Mawrth 2020

Dyddiad cau

14/02/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol

Rhif ffôn: 03000 255454

E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol,  cysylltwch â Mark Polin OBE QPM, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr.

E-bost mark.polin@wales.nhs.uk neu Llinos Roberts, Ysgrifennydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, rhif ffôn: 03000858844

E-bost llinos.roberts3@wales.nhs.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, efallai yr hoffech edrych ar eu gwefan: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/hafan

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.