Swydd Wag -- Aelodau - Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru (leoliadau amrywiol)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau cleifion a'r cyhoedd yn annibynnol a diduedd er mwyn dylanwadu ar y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd cenedlaethol eu cynllunio a'u darparu yng Nghymru, a gwella hyn.
Gwirfoddolwyr lleol yw aelodau’r Cynghorau, sy’n gweithredu fel llygaid a chlustiau cleifion a’r cyhoedd, gan wrando ar farn pobl am y gwasanaeth iechyd, a chynorthwyo pobl sydd eisiau rhannu pryder ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd a gweithio gyda’r
gwasanaeth iechyd i wella ansawdd gofal i gleifion.
Cynghorau Iechyd Cymuned - strwythur sefydliadol
Mae saith Cyngor o'r fath yng Nghymru, pob un yn gyfrifol am ardal ddaearyddol benodol. Mae'r ardaloedd daearyddol hyn yn cyd-fynd â'r saith Bwrdd Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am lunio a darparu gwasanaethau'r GIG yn yr ardal honno (gweler atodiadau
D ac E).
Caiff pob Cyngor ei gefnogi gan dîm bach o staff cyflogedig, yn ogystal ag aelodau awdurdod lleol, y trydydd sector a gwirfoddolwyr. Mae Bwrdd Cynghorau Iechyd
Cymuned Cymru yn goruchwylio’r saith Cyngor.
Gyda’r Cynghorau’n cynrychioli lleisiau cleifion yn eu hardal leol, mae’r Bwrdd yn cynrychioli llais y cleifion a’r cyhoedd ar lefel genedlaethol. Y Bwrdd sy’n gosod y safonau cenedlaethol y mae'n rhaid i'r Cynghorau eu cyrraedd, ac mae’n rhaid iddo
ddarparu cyngor, canllawiau a chymorth. Mae hefyd yn gyfrifol am fonitro a rheoli eu perfformiad.
Mae Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru:
- Yn gwrando'n barhaus ar yr hyn sydd gan unigolion a'r gymuned i'w ddweud am eu GIG'
- Yn llais i'r cyhoedd drwy hysbysu arweinwyr a rheolwyr y GIG am yr hyn y mae pobl ei eisiau a sut gellir gwella pethau;
- Yn meithrin perthynas dda â gwasanaethau lleol y GIG;
- Yn ymgynghori'n uniongyrchol â'r cyhoedd ynghylch materion penodol; a throsglwyddo barn y cyhoedd i'r GIG; a
- Yn rhoi help, cyngor a chymorth i bobl sydd am leisio pryder ynghylch gwasanaethau'r GIG
Disgrifiad o'r swydd
Beth mae aelodau'r Cynghorau Iechyd Cymuned yn ei wneud?
Mae rhai o weithgareddau'r Cynghorau, megis cefnogi unigolion i leisio pryder, yn cael eu gwneud gan staff y Cynghorau. Rôl aelodau'r Cynghorau yw cynnig safbwynt y cyhoedd. Mae'r aelodau'n ymwneud â'r gweithgareddau canlynol:
- ymweld â gwasanaethau iechyd lleol a chraffu arnynt, gan gynnwys
- ymweld â meddygfeydd, clinigau ac ysbytai a gwrando ar farn a phrofiadau cleifion, gofalwyr a staff;
- bod yn rhan o bwyllgorau a gweithgorau sydd wedi'u sefydlu i fonitro ac adolygu perfformiad y GIG;
- darllen a rhoi sylwadau ar amrywiaeth eang o ddogfennau'r GIG;
- ymgysylltu'n barhaus â'r cymunedau maent yn eu cynrychioli a'r rheini sy'n darparu'r gwasanaethau iechyd yn y cymunedau hynny; a
- cynrychioli buddion cleifion a'r cyhoedd o ran cynllunio a chytuno ar newidiadau i wasanaethau'r GIG
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Nid oes angen i aelodau fod yn arbenigwyr ar waith y GIG. Rydym yn chwilio am unigolion o bob cefndir sydd â diddordeb gwirioneddol mewn helpu eu cymunedau lleol i wella'r gwasanaethau y mae'r GIG yn eu darparu.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr arddangos dealltwriaeth glir o’r canlynol, ac ymrwymiad iddynt:
- materion cydraddoldeb ac herio arferion sy’n gwahaniaethu
- ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan.
Disgwylir i aelodau’r Cyngor Iechyd Cymuned gadw at God Ymddygiad ar gyfer aelodau’r Cyngor Iechyd Cymuned. Mae’r Cod yn ymwneud â materion fel gwerthoedd y Cyngor Iechyd Cymuned, ymddygiad personol, cyfrinachedd a chyfle
cyfartal.
Meini Prawf Hanfodol
Bydd angen i aelodau ddangos:
- diddordeb gwirioneddol mewn gwrando ar eraill a meddu ar sgiliau cymdeithasol cryf iawn;
- gallu i gynrychioli eraill mewn ffordd gytbwys;
- gallu i uniaethu â phobl o wahanol gefndiroedd; a
- gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Manylion Cyswllt:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am swyddogaeth aelodau, cysylltwch â Bwrdd y CICau ar:
Ffôn: 02920 235558;
E-bost: enquiries@waleschc.org.uk; neu ewch i’r wefan (www.wales.nhs.uk/cym)
Mae fersiwn Hawdd ei Ddeall o'r Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr ar gael ar Wybodaeth i bobl sydd am ddod yn aelodau o Gynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru (nhs.wales).
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.