Swydd Wag -- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan : Penodi Aelod Annibynnol (Cyllid)

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Caerleon
£15,936 y flwyddyn
4
mis

Rôl y corff

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw enw gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan. Sefydlwyd y Bwrdd Iechyd ar 1 Hydref 2009 ac mae'n cwmpasu ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a De Powys.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi dros 13,000 o staff, y mae dwy ran o dair ohonynt yn ymwneud â gofal cleifion uniongyrchol. Ceir mwy na 250 o ymgynghorwyr mewn cyfanswm o fwy na 1000 o feddygon ysbyty a meddygon teulu, a 6,000 o nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol a gweithwyr cymunedol.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cael ei arwain gan y Cadeirydd, cyfarwyddwyr anweithredol, y Prif Weithredwr a chyfarwyddwyr gweithredol eraill. Cefnogir y Bwrdd gan y Tîm Uwch-reolwyr.

 

Disgrifiad o'r swydd

Bydd Aelodau Annibynnol, ymhlith pethau eraill, yn:-

Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol.  Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol. 

Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli beunyddiol;

Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw

Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.

Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau.

Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn; 

Cyfrannu at ' Lywodraethu a chyllid ' y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu ' n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Bydd angen i chi ddangos:-

Sgiliau a gwybodaeth am systemau ariannol a Rheolaeth Ariannol mewn sefydliadau mawr

Dealltwriaeth gadarn o rôl Archwilio a Llywodraethu.

Y gallu i ddadansoddi ac adolygu Achosion Busnes yn feirniadol.

Profiad o wella perfformiad i sicrhau gwerth am arian.

Y gallu i gymhwyso eich gwybodaeth arbenigol a'ch sgiliau cyllid ar lefel bwrdd strategol.

Dyddiadau cyfweliadau

5 Tachwedd 2019
5 Tachwedd 2019

Dyddiad cau

04/10/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

E-bost y Tîm Penodiadau Cyhoeddus:  PublicAppointments@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol,  cysylltwch ag Ann Lloyd CBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Ffôn: 01633 435957, E-bost: Ann.Lloyd@wales.nhs.uk  

I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, efallai yr hoffech fynd i wefan y Bwrdd Iechyd: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/866/hafan

Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar publicappointments@llyw.cymru 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-en-GB/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/.

Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais.  I wneud cais, bydd angen ichi gyflwyno'r ffurflen gais a dwy ddogfen ategol. Dogfen sy'n ateb y cwestiynau isod yw'r gyntaf, sef 'datganiad personol'. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn. CV llawn, cyfredol yw'r ail ddogfen y bydd rhaid ichi ei chyflwyno. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen i'r adran “Rhesymau dros ymgeisio” o'r ffurflen gais ar-lein. Eich datganiad personol yw eich cyfle i ddangos sut rydych yn bodloni pob un o ' r meini prawf fel y ' u nodir ar dudalen 7 y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr.

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.