Swydd Wag -- Aelod Annibynnol - Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Manylion y swydd

Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Mae prif swyddfa AaGIC wedi'i lleoli yn Nhŷ Dysgu, Nantgarw, CF15 7QQ. Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn Nhŷ Dysgu yn bennaf. Bydd rhai cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol a hefyd mewn lleoliadau amrywiol ledled Cymru i adlewyrchu swyddogaethau cenedlaethol y sefydliad. Cydnabu AaGIC y gallai fod achosion lle mae angen gweithio o bell, a bydd yn gweithio'n rhagweithiol gydag Aelodau i ystyried ceisiadau a rhoi trefniadau ar waith fesul achos.
£9,360 y flwyddyn ynghyd â threuliau rhesymol.
4
mis

Rôl y corff

Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) fel Awdurdod Iechyd Arbennig ym mis 
Hydref 2018. AaGIC yw'r corff strategol ar gyfer gweithlu GIG Cymru ac mae ei 
swyddogaethau'n cynnwys:

Gwybodaeth am y gweithlu — AaGIC yw'r ffynhonnell ganolog, 
gydnabyddedig ar gyfer gwybodaeth am weithlu iechyd Cymru;

Cynllunio'r gweithlu — mae AaGIC yn darparu arweinyddiaeth strategol ar 
gyfer cynllunio'r gweithlu, gan weithio gyda byrddau iechyd/ymddiriedolaethau 
a Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth i drawsnewid y gweithlu er mwyn 
darparu modelau iechyd a chymdeithasol newydd o ddarparu gwasanaethau;
Comisiynu, cynllunio a darparu addysg – Mae AaGIC yn defnyddio ei gyllid 
i sicrhau gwerth am arian a darparu gweithlu sy'n adlewyrchu anghenion gofal 
iechyd y dyfodol;

Rheoli ansawdd — Mae AaGIC yn rheoli ansawdd darpariaeth addysg a 
hyfforddiant gan sicrhau ei fod yn bodloni'r safonau gofynnol, a bod 
gwelliannau'n cael eu gwneud lle bo angen;

Cefnogi rheoleiddio — mae AaGIC yn chwarae rôl allweddol yn cynrychioli 
Cymru mewn cysylltiad â rheoleiddwyr, gan weithio o fewn y fframwaith polisi 
a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae AaGIC hefyd yn ymgymryd â rolau 
cymorth rheoleiddio penodol, yn annibynnol o Lywodraeth Cymru;

Datblygu arweinyddiaeth — Mae AaGIC yn sefydlu cyfeiriad strategol a 
darpariaeth datblygu arweinyddiaeth ar gyfer staff o fewn GIG Cymru ar bob 
lefel; 

Gyrfaoedd ac ehangu mynediad - mae AaGIC yn darparu'r cyfeiriad 
strategol ar gyfer gyrfaoedd iechyd a'r agenda ehangu mynediad, gan 
gyflwyno agenda parhaus i hyrwyddo gyrfaoedd iechyd;

Gwella'r gweithlu — mae AaGIC yn darparu rôl arweinyddiaeth strategol ar 
gyfer trawsnewid a gwella'r gweithlu, ac yn cyflwyno rhaglen barhaus i 
gyflawni'r rôl honno o fewn ei swyddogaethau;

Cymorth proffesiynol ar gyfer y gweithlu a datblygu sefydliadol (DS) yn 
GIG Cymru — mae AaGIC yn cefnogi'r gweithlu proffesiynol a'r proffesiwn DS 
yng Nghymru.

Disgrifiad o'r swydd

Rôl a chyfrifoldebau

Ar y cyd â'r Cadeirydd a'r Uwch Dîm Gweithredol, mae Aelodau Annibynnol y Bwrdd 
yn gyfrifol am: 

• sefydlu a datblygu nodau ac amcanion strategol AaGIC sy'n gyson â'i ddiben 
cyffredinol ac o fewn y fframwaith polisi ac adnoddau a bennir gan y Gweinidog 
Iechyd a Gofal Cymdeithasol; 

• sicrhau bod y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael gwybod am 
unrhyw newidiadau sy'n debygol o effeithio ar gyfeiriad strategol AaGIC neu ar 
gyrhaeddiad ei dargedau, a'r camau sydd eu hangen i ddelio â newidiadau o'r 
fath; 

• sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol o ran 
defnyddio arian cyhoeddus; ei fod yn gweithredu o fewn terfynau ei awdurdod 
statudol ac unrhyw awdurdod dirprwyedig y cytunir arno gyda Llywodraeth Cymru, 
ac yn unol ag unrhyw amodau eraill sy'n ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus; 
a'i fod, wrth ddod i benderfyniadau, yn ystyried canllawiau a gyhoeddwyd gan 
Lywodraeth Cymru; 

• sicrhau ei fod yn derbyn, yn adolygu ac yn craffu'n rheolaidd, effeithiolrwydd ac 
effeithlonrwydd y wybodaeth ariannol ac ansawdd y gweithredu yn AaGIC; eu 
bod yn cael gwybod yn amserol am unrhyw bryderon am weithgareddau AaGIC; 
a'u bod, lle bo'n berthnasol, yn rhoi sicrwydd cadarnhaol i’r Gweinidog Iechyd a 
Gwasanaethau Cymdeithasol bod camau unioni priodol wedi'u cymryd i fynd i'r 
afael ag unrhyw bryderon o'r fath;

• dangos safonau uchel o ran llywodraethu corfforaethol, gan gynnwys drwy 
ddefnyddio Pwyllgorau priodol i helpu'r Bwrdd i dderbyn sicrwydd a mynd i'r afael 
â risgiau ariannol a risgiau eraill;

• sicrhau diwylliant cadarnhaol a hyrwyddo gwerthoedd a safonau ymddygiad y 
sefydliad a'r staff; 

• penodi'r Prif Swyddog Gweithredol i'r sefydliad; a penodi'r Aelodau Gweithredol i'r Bwrdd.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Meini Prawf Hanfodol

I gael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau a’r sgiliau priodol a phrofiad mewn un o'r meysydd canlynol i fodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer yr apwyntiad:

- cefndir yn y GIG, addysg, neu ofal cymdeithasol yn y sector cyhoeddus, y sector 
preifat neu'r trydydd sector 

- rhywfaint o brofiad o weithio ar lefel Bwrdd gyda pharodrwydd i ddatblygu'r 
sgiliau hyn ymhellach — bydd pecyn cymorth yn cael ei ddarparu. 

Yn ogystal, dylai fod gennych: 

• Dealltwriaeth o'r materion a'r blaenoriaethau sy'n bwysig i Addysg a Gwella 
Iechyd Cymru a'r gallu i ddeall rôl a gwaith Byrddau; 

• Y gallu i ddwyn eraill i gyfrif am eu perfformiad wrth gynnal perthynas adeiladol;

• Y gallu i feddwl yn strategol ac i arfer barn gadarn ar ystod o faterion sensitif a 
chymhleth;

• Y gallu i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth fanwl, er enghraifft cynigion polisi 
manwl neu wybodaeth ystadegol. 

• Y gallu i ddangos dealltwriaeth ac ymrwymiad cadarn i Werthoedd Un 
Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i ymgysylltu a 
gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr, cynrychiolwyr gweithwyr a rhanddeiliaid. 

• Dealltwriaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a hyrwyddo arfer 
cynhwysol.

Dyddiadau cyfweliadau

24 Chwefror 2023
28 Chwefror 2023

Dyddiad cau

03/02/23 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.