Swydd Wag -- Penodi Cyfarwyddwyr Anweithredol (2 swydd) - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Manylion y swydd

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cymru
£9,360 y flwyddyn ynghyd â threuliau teithio a threuliau rhesymol eraill. 
4
mis

Rôl y corff

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi esblygu dros y ddau ddegawd diwethaf, i fod yn un o'r Gwasanaethau Ambiwlans mwyaf datblygedig yn glinigol yn y byd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cychwyn ar esblygiad cyffrous o'i strategaeth. Gan weithio gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid, byddwn yn newid yn sylfaenol y ffyrdd y mae'r Ymddiriedolaeth yn darparu gofal brys ac argyfwng, gan alluogi poblogaeth Cymru i gael gofal yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, ble bynnag a phryd bynnag y bo hynny.   Bydd y newid hwn yn gweld gostyngiad mewn trawsgludiadau i'r ysbyty, a chynnydd mewn gofal a ddarperir yn y cartref neu'n agosach ato gan amrywiaeth o ymarferwyr arbenigol mewn amrywiaeth o foddau.  

Mae'r Ymddiriedolaeth yn gwasanaethu dros dair miliwn o bobl yng Nghymru, ac yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ystod amrywiol o gymunedau ar draws ardal o ryw 8,000 milltir sgwâr.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn ymateb i 2000 o alwadau brys bob dydd, ac yn ychwanegol at ddefnyddio'r ambiwlans argyfwng traddodiadol neu gerbyd ymateb cyflym, mae'n gallu cynnig cyngor yn fwyfwy dros y ffôn neu driniaeth yn y lleoliad neu yn y cartref. Mae gan yr Ymddiriedolaeth hefyd dimau sy'n gallu ymateb i ddigwyddiadau mwy cymhleth neu ddigwyddiadau mawr.

Mae eu staff trin galwadau a staff y canolfannau cyswllt clinigol yn gweithio 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae'r Ymddiriedolaeth ar flaen y gad o ran darparu gwasanaethau, gan sicrhau bod cleifion yn cael y cyngor a'r cymorth iawn gan y bobl iawn.

Mae'r Ymddiriedolaeth ar flaen y gad o ran arloesi ym maes gofal clinigol heb ei gynllunio ac yn gynyddol mae'n darparu cyngor, cefnogaeth a chyfeirio at y ddarpariaeth gywir trwy ei gwasanaethau “clywed a thrin” sy'n cynnwys Galw Iechyd Cymru a'i olynydd - sef y gwasanaeth 111. Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn mynd â bron hanner miliwn o gleifion y flwyddyn i le gofal, neu o le gofal, trwy ei wasanaeth cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys (NEPTS).

Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio'n barhaus i wella'r hyn y mae'n ei wneud a sut. I helpu i wireddu'r uchelgais hwn, mae'r Ymddiriedolaeth yn bwriadu penodi tri Cyfarwyddwr Anweithredol newydd i Fwrdd yr Ymddiriedolaeth, o gefndiroedd mor amrywiol â phosibl. Mae'r Ymddiriedolaeth yn arbennig o awyddus i wella'r cydbwysedd rhwng y rhywiau ar ei Bwrdd ac i ddenu aelodau o wahanol gefndiroedd ethnig er mwyn inni allu teilwra’r hyn rydym yn ei gynnig i’n poblogaeth. Mae'r cyfraniad y gall Cyfarwyddwyr Anweithredol ei wneud at yr Ymddiriedolaeth trwy dynnu ar eu profiadau eu hunain yn arbennig o werthfawr.

Mae rôl aelod y Bwrdd yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:

Strategaeth: Datblygu’r strategaeth, y weledigaeth a diben yr Ymddiriedolaeth. Nodi blaenoriaethau, sefydlu nodau ac amcanion, dod o hyd i adnoddau, a dyrannu arian i gefnogi'r penderfyniadau y mae angen eu gwneud ynghylch cynllunio strategol.

Ymgorffori Ymddygiad Moesegol:  Mae'r Bwrdd yn llunio diwylliant yr Ymddiriedolaeth mewn sawl ffordd, gan gynnwys y ffordd y mae'n ymgysylltu â staff, y cyhoedd a rhanddeiliaid, y ffordd y mae'n rheoli ei hagenda, yn ôl natur y ddadl yn y Bwrdd a'r pwyslais cymharol a roddir i feini prawf perfformiad gwahanol, gan amlygrwydd ei aelodau yn y sefydliad, a ble mae'n dewis buddsoddi amser ac adnoddau. Rhaid i aelodau'r Bwrdd fodloni'r safonau moesegol uchaf o ran uniondeb a gonestrwydd.

Rheoli risg:  Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am reoli risg a sicrhau bod system gadarn o reolaethau mewnol ar waith a'u bod yn cael eu gweld ar y camau lliniaru sydd ar waith ar gyfer y prif risgiau i gyflawni'r strategaeth.

Cael Sicrwydd ar Gyflawni Strategaeth a Pherfformiad:  Dwyn i gyfrif, a chael ei ddwyn i gyfrif, am gyflawni'r strategaeth yn unol â'r fframweithiau strategol a pherfformiad a ddatblygwyd gan y Bwrdd

Disgrifiad o'r swydd

Fel Cyfarwyddwr Anweithredol, byddwch yn:

  • Cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn, herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol y mae’n atebol amdanynt. 
  • Rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion sy'n berthnasol i'ch sgiliau, eich arbenigedd a’ch profiad eich hun.
  • Dod â phrofiad, gwybodaeth a dylanwad y gorffennol i waith y Bwrdd i hyrwyddo arloesedd, herio'r normau a sicrhau llywodraethu da.
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau a sicrhau bod y Cyfarwyddwyr Gweithredol yn cyflawni eu hamcanion allweddol.
  • Cefnogi'r Cadeirydd, y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwyr Gweithredol i lywodraethu a stiwardiaeth yr Ymddiriedolaeth.
  • Sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn rheoli risg yn effeithiol.
  • Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth yn feirniadol a chyfrannu at wneud penderfyniadau cadarn. Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd rheolaidd Bwrdd y Cyfarwyddwyr a chyfarfodydd eraill Is-bwyllgorau’r Bwrdd fel y bo'n briodol, yn ogystal â sesiynau datblygu rheolaidd y Bwrdd.
  • Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.
  • Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau ein poblogaeth yn caniatáu inni lywio, datblygu a gwella gwasanaethau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Hanfodol

  • Y gallu i gyfrannau at y weledigaeth strategol ar gyfer dyfodol yr Ymddiriedolaeth.
  • Y gallu i ddarparu her a chraffu annibynnol tra'n cynnal perthnasoedd adeiladol.
  • Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth.
  • Dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac ymrwymiad iddynt.
  • Ymrwymiad i gadw at y safonau moesegol a nodir yn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan).

 

Dymunol

  • Deall problemau a blaenoriaethau iechyd mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r system iechyd ehangach yng Nghymru.
  • Dod i gysylltiad â newid sefydliadol trawsnewidiol ac atebion digidol yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat.
  • Profiad o ymgysylltu â'r sector cyhoeddus neu'r trydydd sector.
  • Dealltwriaeth o reoli risg, a systemau rheolaeth a sicrwydd mewnol.
  • Profiad o weithredu ar lefel uwch neu fwrdd o fewn sefydliad sector cyhoeddus neu breifat mawr a chymhleth sydd â chefndir mewn cydweithio.

Dyddiadau cyfweliadau

24 Ionawr 2022
28 Ionawr 2022

Dyddiad cau

07/12/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus

E-bost: PublicAppointments@llyw.cymru

 

Am ragor o wybodaeth am rôl Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

a rôl y Cyfarwyddwr Anweithredol, cysylltwch â

Ffôn: 07508-279533

E-bost: Trish.Mills@wales.nhs.uk

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.