Swydd Wag -- Cadeirydd - Apeliadau Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig ( 3 x Cymraeg Dymunol, 3 x Cymraeg Hanfodol)

Manylion y swydd

Apeliadau Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
Corfforol gyda'r posibilrwydd o gyfarfodydd rhithwir ledled Cymru yn Swyddfeydd Llywodraeth Cymru

Mae Cadeiryddion paneli yn cael £250 y diwrnod a £75 os gwrandewir tair apêl neu fwy mewn un diwrnod.

Gellir hawlio costau teithio a threuliau rhesymol eraill a all godi wrth weithio i’r panel apeliadau annibynnol oddi wrth Lywodraeth Cymru o fewn terfynau cydnabyddedig.

Gall Cadeiryddion panel hefyd fod yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau gofal plant / gofalu am yr henoed / cyflogi gofalwr cynorthwyol, wrth iddynt wneud gwaith ar ran y panel.

1
blwyddyn

Rôl y corff

Rôl a chyfrifoldebau'r Apeliadau Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig

 

Cefndir

Sefydlwyd proses apelio annibynnol yn 2001 ar ôl ymgynghori â'r diwydiant ffermio. Bwriad y broses yw sicrhau bod ffermwyr neu fusnesau sy’n derbyn Grantiau a Thaliadau Gwledig sy’n teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad cywir mewn perthynas â chais neu gais yn gallu apelio drwy weithdrefn deg ac annibynnol. Mae penderfyniadau’n cael eu hadolygu i sicrhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn wrthrychol ac wedi cymhwyso’r rheolau’n gywir wrth ddod i benderfyniad.

I ddechrau, dim ond apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r System Integredig Gweinyddu a Rheoli (IACS) 2001 (a blynyddoedd dilynol) a ystyriwyd gan y broses. Ers hynny, mae'r broses wedi'i hymestyn i gynnwys y cynlluniau canlynol. Lle bo’n briodol, gellir ychwanegu cynlluniau newydd at y rhestr hon:

Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS)

Trawsgydymffurfio

Glastir Sylfaenol/Uwch

Cynllun Premiwm Coetir Ffermydd

Glastir Comin

Cynllun Coetir Ffermydd

Glastir Organig

Cynllun Premiwm Tir wedi’i Wella

Glastir – Creu Coetir (GWC)

Y Cynllun Cydweithio i Gynllunio Coedwigaeth

Glastir – Adfer Coetir (GWR)

Y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio

Glastir – Creu Coetir (Premiwm) (GWCP)

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd

Taliad Cynnal Glastir – Creu Coetir (GCM)

LEADER

Taliad Premiwm Glastir – Creu Coetir (GCP)

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig

Glastir Grantiau Bach (GSG)

Y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren (TBIS)

Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy

Y Grant Busnes i Ffermydd

Y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy

Grantiau Bach - Effeithlonrwydd

Y Grant Busnes i Ffermydd – Gorchuddio Iardiau

Grantiau Bach – Busnes Cychwynnol Garddwriaeth

Grantiau Bach – Amgylchedd

Grantiau Bach – Creu Coetiroedd

Grantiau Bach – Gorchuddion Iardiau

Tyfu ar gyfer yr Amgylchedd

Datblygiad Garddwriaethol

Cynllun Trosi Organig

Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maetholion

Cynllun Cynllunio Creu Coetiroedd

Grant Creu Coetir

Premiwm Creu Coetir

Cynnal a Chadw Creu Coetir

Cynllun Adfer Coetir

 

 

Mae dau gam i’r broses apelio:

 

Cam 1 - adolygiad gan Lywodraeth Cymru, Swyddogion Taliad Gwledig Cymru.

Cam 2 - adolygiad gan y Panel Apeliadau Annibynnol

 

Rôl y Bwrdd

Gelwir ar aelodau’r panel yn ôl yr angen i ffurfio Panel Cynghori Annibynnol o 3 Aelod (y bydd un ohonynt wedi cael hyfforddiant penodol fel cadeirydd y panel) i ystyried achosion a gwneud argymhellion i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Cynhelir gwrandawiadau ledled Cymru yn ôl yr angen a dewisir aelodau panel unigol ar sail y pellter i leoliad y gwrandawiad a'u gwybodaeth sy'n berthnasol i'r apêl. Pan fydd gwrandawiad yn cael ei drefnu, cysylltir ag aelodau panel penodol i ofyn a ydynt ar gael ar y dyddiad gofynnol ac i gadarnhau nad ydynt yn adnabod yr apelydd yn bersonol. Ni fyddai'r aelod panel yn cael gwrando ar yr apêl os yw'n adnabod yr apelydd yn dda.

Bydd papurau achos yr apêl, sy’n cynnwys yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd a detholiad perthnasol o reolau a deddfwriaeth y cynllun, yn cael eu hanfon at y tri aelod panel dethol ac at yr apelydd tua 10 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad fel y gallant ymgyfarwyddo â’r achos dan sylw.

Mae’r amser sydd ar gael ar gyfer pob gwrandawiad yn amrywio yn ôl yr achos dan sylw ac a yw’r apelydd wedi dewis cyflwyno ei apêl ei hun (apêl llafar) neu i’r panel yn unig ystyried dogfennau’r apêl (apêl ysgrifenedig). Fel arfer ar gyfer gwrandawiad llafar, bydd y panel yn ymgynnull (ar gyfer trafodaeth cyn gwrandawiad) hanner awr cyn i'r apelydd gyflwyno ei achos. Caniateir tua awr i’r apelydd gyflwyno ei achos ac i’r panel ofyn cwestiynau i’r apelydd a chynrychiolydd Llywodraeth Cymru. Ar ôl i’r apelydd a chynrychiolydd Llywodraeth Cymru adael y gwrandawiad, bydd y Panel yn cael hanner awr arall i lunio ei argymhelliad.

Yn seiliedig ar yr amser hwn mae'n arferol cynnal tri neu bedwar gwrandawiad apêl (ar lafar a / neu'n ysgrifenedig) mewn diwrnod.

Gan nad yw'n bosibl amcangyfrif pryd a faint o apeliadau cam 2 a dderbynnir mewn blwyddyn mae hefyd yn amhosibl amcangyfrif pa mor aml a ble y cynhelir gwrandawiadau apêl. Fel amcangyfrif o’r hyn i’w ddisgwyl gan aelodau’r panel, cynhaliwyd 10 panel apêl yn y 12 mis yn diweddu 31 Rhagfyr 2021.

Disgrifiad o'r swydd

Bwriad y broses yw sicrhau bod ffermwyr neu fusnesau sy’n derbyn Grantiau a Thaliadau Gwledig sy’n teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad cywir mewn perthynas â chais neu gais yn gallu apelio drwy weithdrefn deg ac annibynnol. Mae penderfyniadau’n cael eu hadolygu i sicrhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn wrthrychol ac wedi defnyddio o’r rheolau’n gywir wrth ddod i benderfyniad.

Rôl a chyfrifoldebau.

Mae aelodau'r panel yn adolygu dehongliad swyddogion o'r rheolau perthnasol a’u defnydd ohonynt ac yn gwneud argymhellion i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd. Maent yn ystyried ffeithiau’r achos ynghyd â Rheoliadau’r UE a deddfwriaeth ddomestig.

 

Mae'n ofynnol i gadeiryddion y paneli:

  • Cymryd rhan weithredol mewn gwrandawiadau apeliadau, gan ddangos eu bod yn gyfarwydd â materion allweddol - gan gynnwys gwybodaeth am bapurau apêl a deddfwriaeth berthnasol.
  • Rhoi barn annibynnol ar yr achosion a gyflwynwyd ac arwain gweithrediadau gwrandawiad.
  • Gwneud argymhellion i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, ac i'r Trefnydd.
  • Cyfarfod mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru yn ôl yr angen.
  • Mynychu cyfnod sefydlu cyn dechrau unrhyw apeliadau a hyfforddiant blynyddol pellach.

 

Mae gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd y pŵer o dan Reoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (OS 2001/2537) i gadarnhau, diwygio neu ddirymu argymhellion a wnaed gan y Panel Apeliadau Annibynnol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Manyleb y Person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.

 

(Gall apelyddion ofyn am gael eu clywed yn eu dewis iaith fel y gellir cynnal gwrandawiadau yn Gymraeg. Er mwyn hwyluso dealltwriaeth gydag apelwyr mae'n bwysig bod cyfran o'r aelodau newydd a benodir i'r Panel yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Y gallu i gynnal busnes drwy gyfrwng y Gymraeg felly yn ofyniad hanfodol ar gyfer o leiaf 4-5 o benodai (darperir cyfieithu ar y pryd ar gyfer sefyllfaoedd lle nad oes aelodau panel sy’n siarad Cymraeg ar gael).

 

Meini Prawf Hanfodol:

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, barn gytbwys a didueddrwydd.

  • Ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac ymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant.

  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm.

  • Gwybodaeth a phrofiad helaeth o faterion amaethyddol a systemau ffermio.

  • Dealltwriaeth o o leiaf un: y gadwyn gyflenwi prosesu bwyd a ffermio cynaliadwy, ffermio cynaliadwy, y diwydiant pren, y sector pysgodfeydd a datblygu gwledig.

  • Gwybodaeth am Grantiau a Thaliadau Gwledig a'r prosesau sy'n ymwneud â'u gweinyddiaeth.

  • Y gallu i ddehongli rheolau a rheoliadau'r UE a'r DU.

  • Dealltwriaeth glir ac ymrwymiad i Egwyddorion Nolan

 

Y Gymraeg

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer o leiaf 4-5 Cadeiryddion panel. Dylech nodi eich sgiliau Cymraeg yn eich cais. * NODWCH YN EICH CAIS OS YDYCH YN GWNEUD CAIS I GYMRAEG HANFODOL NEU GYMRAEG DYMUNOL AR GYFER RÔL Y CADEIRYDD

Dyddiadau cyfweliadau

7 Tachwedd 2022
11 Tachwedd 2022

Dyddiad cau

26/09/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

* NODWCH YN EICH CAIS OS YDYCH YN GWNEUD CAIS I GYMRAEG HANFODOL NEU GYMRAEG DYMUNOL AR GYFER RÔL Y CADEIRYDD

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.