Swydd Wag -- Penodi Aelod - Bwrdd Cynghori Gweinidogol (BCG)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Disgrifiad o'r swydd
Bydd aelodau'r Bwrdd yn cyflawni’r dyletswyddau canlynol:
- Darparu cyngor rheolaidd, creadigol ac o ansawdd uchel i Weinidog yr Economi i helpu i wella llesiant economaidd yng Nghymru.
- Sganio’r gorwel i dynnu sylw at feysydd lle bydd heriau a chyfleoedd yn y dyfodol, gan ddefnyddio arbenigedd unigol a chyfunol i godi ymwybyddiaeth o faterion a fydd yn helpu i lunio rhaglen waith y Bwrdd.
- Ymateb i geisiadau gan y Gweinidog ac uwch swyddogion am gyngor ar bolisïau a phrofi cynigion fel y bo'n briodol.
- Bod yn rhagweithiol wrth nodi’r arferion gorau a dysgu oddi wrth wledydd a rhanbarthau eraill y DU ac yn rhyngwladol; a dangos sut y gellid defnyddio enghreifftiau o'r fath i lywio’r meddwl yng Nghymru.
- Nodi materion penodol a fyddai ar eu hennill o gael adolygiadau byr a sydyn gan grwpiau gorchwyl a gorffen pwrpasol, neu arbenigwyr ychwanegol efallai y bydd angen i’r Bwrdd eu cyfethol o bryd i'w gilydd, yn dibynnu ar ei raglen waith.
Rôl a chyfrifoldebau’r Cadeirydd/Dirprwy Gadeirydd
Yn ogystal â bod yn Gadeirydd y bwrdd, bydd disgwyl iddynt weithredu fel y cynrychiolydd blaenllaw a chadeirio cyfarfodydd y Bwrdd. Mewn perthynas â’r olaf bydd hyn yn cynnwys: penderfynu ar drefn yr agenda; sicrhau bod y Bwrdd yn derbyn gwybodaeth gywir, amserol a chlir; cadw golwg ar gyfraniad aelodau unigol a sicrhau eu bod i gyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau a’r broses o wneud penderfyniadau. Ym mhob cyfarfod, dylai'r Cadeirydd arwain y trafodaethau er mwyn cyrraedd consensws, a chrynhoi trafodaethau fel bod pawb yn deall yr hyn y cytunwyd arno. Dim ond os nad yw'r Cadeirydd ar gael y bydd y dirprwy yn cymryd ei le. Gofynnir hefyd i'r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd fynychu'r Grŵp Partneriaeth Gymdeithasol i roi adborth ar y penderfyniadau a'r cyngor a roddir gan aelodau’r Bwrdd Cynghori Gweinidogol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Aelodau'r bwrdd :
- Fod yn gynhwysol, gwrando ar farn aelodau eraill a chadw at unrhyw addasiadau hygyrchedd sydd wedi cael eu rhoi ar waith.
- Parchu aelodau eraill a sicrhau bod eich cyfraniadau at drafodaethau’n parchu eraill.
- Herio eraill a’u hannog i gyfrannu at drafodaethau.
- Cyfrannu eich sgiliau a'ch profiad eich hun fel unigolyn (ynghyd â’ch profiad bywyd personol).
- Ymgynghori ag eraill i lywio eich cyfraniadau at drafodaethau, gan barchu sensitifrwydd a natur gyfrinachol y materion sy'n cael eu hystyried.
Cadeirydd/Dirprwy Gadeirydd :
- Bod yn arweinydd cynhwysol, gan osod naws cyfarfodydd a sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u gradd, yn cael eu trin fel aelodau cyfartal.
- Sicrhau bod aelodau’n trin ei gilydd â pharch.
- Sicrhau bod pob aelod yn cael cyfle i gymryd rhan ac i fynegi ei farn, a chael y cyfle i ystyried barn pobl eraill.
- Deall y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn hoffi cyfrannu mewn cyfarfodydd, a sicrhau bod addasiadau rhesymol y cytunwyd arnynt ar waith ac yn cael eu cynnal fel y gallant gyfrannu yn y ffordd fwyaf effeithiol.
- Sicrhau bod trafodaethau’r Bwrdd ar bapurau yn dod i gasgliad, hyd yn oed os yw hyn yn golygu nodi amrywiaeth o safbwyntiau os nad oes modd cyrraedd consensws.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Am ragor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus / Uned Cyrff Cyhoeddus
E-bost: publicappointments@llyw.cymru
Am ragor o wybodaeth am rôl y Bwrdd Cynghori Gweinidogol ar gyfer Polisi Economaidd cysylltwch ag economicpolisi@llyw.cymru
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â publicappointments@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.