Swydd Wag -- Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Penodi Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd a Chwe Aelod Anweithredol

Manylion y swydd

Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ni chytunwyd ar leoliad CLlD hyd yma. Mae’n bosibl y bydd gofyn i ddeiliaid y swyddi deithio i leoliadau ledled Cymru er mwyn mynd i gyfarfodydd a chyflawni dyletswyddau eraill sy'n gysylltiedig â'r rolau. Os bydd hynny’n effeithiol, cynhelir rhai cyfarfodydd drwy lwyfannau digidol.


 Cadeirydd – £256 y dydd/£15,400 y flwyddyn, wedi'i dalu'n fisol neu'n 
chwarterol mewn ôl-daliadau yn unol â’r hyn y cytunir arno. 

 Dirprwy Gadeirydd – £226 y dydd/£13,600 y flwyddyn, wedi'i dalu'n fisol 
neu'n chwarterol mewn ôl-daliadau yn unol â’r hyn y cytunir arno.

 Aelod Anweithredol – £198 y dydd/£9,504 y flwyddyn, wedi’i dalu’n fisol 
neu'n chwarterol mewn ôl-daliadau yn unol â’r hyn y cytunir arno.

Os caniateir i'r Cadeirydd, y Dirprwy Gadeirydd neu Aelod Anweithredol gael amser i 
ffwrdd o'i swydd bresennol gyda thâl i gyflawni ei ddyletswyddau, ni chaiff unrhyw dâl 
ychwanegol am ymgymryd â’r rôl. Bydd yn cael ei drin yn yr un ffordd â gweithwyr eraill 
sy'n cael amser i ffwrdd gyda thâl er mwyn ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus. 

Treuliau

Os bydd hynny'n briodol, bydd gennych yr hawl i gael eich ad-dalu am dderbynebau 
ar gyfer costau teithio a chynhaliaeth a fydd yn codi wrth ichi ymgymryd â gwaith ar 
ran CLlD. Rhaid hawlio treuliau ymhen tri mis i’r dyddiad yr eir i’r costau hynny, oni bai 
bod amgylchiadau eithriadol.

Gellir talu costau gofal plant ac unigolion dibynnol eraill hefyd, os cyflwynir 
derbynebau, am gostau ychwanegol a fydd yn codi wrth ichi ymgymryd â gwaith ar ran 
CLlD.

Ymrwymiad amser

Mae'r ymrwymiad amser ar gyfer y rolau hyn yn seiliedig ar ymrwymiad amser 
tybiannol:

 Cadeirydd – Pum (5) diwrnod y mis.

 Dirprwy Gadeirydd – Pum (5) diwrnod y mis.

 Aelod Anweithredol – Pedwar (4) diwrnod y mis.

Fodd bynnag, bydd hynny’n amodol ar ofynion y sefydliad a gall fod yn fwy na'r 
gofyniad sylfaenol.

Y Gymraeg


Bydd Sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer dau ymgeisydd llwyddiannus ac yn 
ddymunol, ond nid yn rhagofyniad, ar gyfer y penodiadau eraill. Fodd bynnag, bydd 
disgwyl i bob ymgeisydd ddangos ymrwymiad at yr iaith a’r diwylliant, a dangos 
arweiniad er mwyn cryfhau a hyrwyddo gwasanaethau dwyieithog yn y GIG ac ym 
maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dyma lefel y sgiliau sydd eu hangen:

Hanfodol
Deall  – yn gallu deall sgyrsiau arferol sy'n ymwneud â’r gwaith.
Darllen  – yn gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol sy'n ymwneud â’r gwaith 
gyda chymorth e.e. geiriadur. 
Siarad – yn gallu cyfrannu at y rhan fwyaf o sgyrsiau sy'n ymwneud â'r gwaith.
Ysgrifennu  – yn gallu paratoi deunydd arferol sy'n ymwneud â'r gwaith o gael 
rhywun i'w wirio.

Dymunol
Deall  – yn gallu deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau bob dydd. 
Darllen  – yn gallu darllen deunydd syml am bynciau bob dydd a'u deall. 
Siarad  – yn gallu cyfrannu at rai sgyrsiau sy'n ymwneud â'r gwaith. 
Ysgrifennu – yn gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau bob dydd. 


5
mis

Rôl y corff

Bydd CLlD yn arfer y swyddogaethau a ganlyn yn unol â Deddf Iechyd a Gofal 
Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020:

a. cynrychioli buddiannau'r cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a 
gwasanaethau cymdeithasol drwy geisio barn y cyhoedd am y gwasanaethau 
hynny. Caiff gwasanaethau iechyd eu diffinio'n fras fel gwasanaethau a 
ddarperir o dan neu yn rhinwedd Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 
(Cymru) 2006 ar gyfer neu mewn cysylltiad ag (i) atal, rhoi diagnosis neu drin 
salwch neu (ii) hyrwyddo a diogelu iechyd y cyhoedd. Yn yr un modd, caiff 
gwasanaethau cymdeithasol eu diffinio'n fras drwy gyfeirio at swyddogaethau 
gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol fel y'u nodir yn adran 143 o 
Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Wrth iddo 
wneud hynny, rhaid i CLlD roi sylw, pan fo hynny’n briodol, i bwysigrwydd 
ymgysylltu wyneb yn wyneb â'i staff, neu ag eraill sy'n gweithredu ar ei ran, a 
chydag unigolion wrth geisio eu barn (adran 13).

b. hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o'i swyddogaethau, cyhoeddi 
datganiad o bolisi yn nodi sut y mae'n bwriadu gwneud hynny a sut y mae'n 
bwriadu ceisio barn y cyhoedd. Rhaid i'r datganiad hefyd, yn benodol, bennu 
sut y mae CLlD yn bwriadu cynrychioli buddiannau ei staff a’i wirfoddolwyr, sut 
y mae’n bwriadu bod ar gael iddynt, a sicrhau eu bod yn gallu ymgysylltu'n 
effeithiol â phobl ar draws Cymru. Bydd hynny’n hwyluso rhagor o ymgysylltiad 
rhwng y cyhoedd a CLlD. Er mwyn cynrychioli buddiannau'r cyhoedd, bydd yn 
hanfodol bod gan CLlD strategaeth i sicrhau'r ymgysylltiad mwyaf posibl gyda'r 
cyhoedd ledled Cymru, gan ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael iddo. Ein 
gobaith yw y bydd hynny’n galluogi CLlD i gyrraedd niferoedd mawr o'r 
cyhoedd drwy bolau piniwn ar-lein, grwpiau trafod ac ymgyngoriadau. Ystyrir 
bod hynny’n allweddol o ran galluogi'r Corff i gyrraedd rhagor o bobl a’r
rheini'n grwpiau mwy amrywiol, gan roi sylw hefyd i bwysigrwydd ymgysylltu 
wyneb yn wyneb, pan fo hynny'n briodol. Bydd angen i CLlD ymgysylltu nid yn 
unig â’r rheini sy’n defnyddio’r gwasanaethau ar hyn o btryd, ond hefyd â 
defnyddwyr yn y gorffennol, darpar ddefnyddwyr, aelodau o deuluoedd 
defnyddwyr y gwasanaethau etc, er mwyn sicrhau bod y safbwyntiau a gesglir 
mor gynrychioladol â phosibl. (adran 14) 

c. ar ôl ceisio barn y cyhoedd, cyflwyno sylwadau i Fyrddau Iechyd Lleol, 
Ymddiriedolaethau’r GIG, Awdurdodau Iechyd Arbennig ac Awdurdodau Lleol 
am unrhyw fater y mae'n ei ystyried yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau 
iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, Mae hyn yn caniatáu i CLlD, er 
enghraifft, gyflwyno sylwadau i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau am 
faterion sy'n ymwneud â newidiadau i wasanaethau'r GIG, a gallai hefyd 
gyflwyno sylwadau i’r awdurdodau lleol mewn perthynas â newid arfaethedig 
ym maes gwasanaethau cymdeithasol. Gallai hefyd gyflwyno sylwadau sy’n 
ymwneud â phrofiad y cyhoedd o wasanaethau iechyd neu wasanaethau 
cymdeithasol (adran 15). Ni fydd yn cyflwynop sylwadau am achosion unigol, 
gan mai dyna yw diben y swyddogaeth cyngor a chymorth ar gwynion (gweer 
isod).

d. y pŵer i roi cyngor a chymorth gyda chwynion sy’n gysylltiedig ag iechyd a 
gwasanaethau cymdeithasol. Bydd CLlD yn gallu rhoi cymorth, i'r graddau y 
bydd yn eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn bodloni gofynion rhesymol, i 
unigolion sy'n gwneud cwynion neu sy'n bwriadu gwneud cwynion, tebyg i'r 
rhai a ganlyn: 

i. cwynion am y GIG – bydd CLlD yn rhoi cyngor a chymorth mewn perthynas 
â chwynion a wneir o dan weithdrefn gwyno’r GIG.

ii. cwynion am wasanaethau cymdeithasol – bydd CLlD yn rhoi cymorth mewn 
perthynas â chŵyn i awdurdod lleol am wasanaethau cymdeithasol a 
ddarperir neu a drefnir gan yr awdurdod lleol (ac eithrio grŵp o gwynion a 
wneir gan blant a phobl ifanc, lle mae dyletswydd ar awdurdodau lleol eisoes 
i drefnu cymorth; 
 
iii. cwynion i ddarparwr gofal cymdeithasol a reoleiddir; mae hyn yn caniatáu i 
CLlD gynorthwyo pobl sy'n dymuno gwneud cwyn yn uniongyrchol i 
ddarparwr gwasanaeth a reoleiddir fel y'i diffinnir yn adran 2 o Ddeddf 
Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Ar hyn o bryd, 
mae hynny’n golygu y gallai CLlD helpu gyda chŵyn a wneir yn uniongyrchol 
i gartref gofal, i ddarparwr llety diogel, canolfan breswyl sy’n cynnig 
gwasanaeth i deuluoedd, gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, 
gwasanaeth lleoli oedolion, gwasanaeth eirioli neu wasanaeth cymorth 
cartref (fel y'i diffinnir yn Atodlen 1 ac mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 
2 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. 
 
iv. cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am wasanaethau 
iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, darparwyr cartrefi gofal neu ddarparwyr 
gofal cartref.

Disgrifiad o'r swydd

Mae hwn yn gyfle unigryw a chyffrous i fod yn rhan o sefydliad a fydd yn gwneud 
gwahaniaeth i bobl Cymru. Bydd sefydlu CLlD yn fodd i gryfhau llywodraethiant ac 
atebolrwydd, bydd yn cynrychioli buddiannau'r cyhoedd ac yn gweithredu ar draws 
maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Rôl a chyfrifoldebau

Rôl y Cadeirydd, y Dirprwy Gadeirydd a'r Aelodau Anweithredol fel aelodau o'r Bwrdd 
yw:

 rhoi arweiniad effeithiol, gan ddiffinio a datblygu cyfeiriad strategol a 
phennu amcanion heriol;
 hyrwyddo'r safonau uchaf o ran cyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion 
rheoleidd-dra, uniondeb a gwerth am arian;
 arwain a hyrwyddo diwylliant yn y sefydliad sy'n seiliedig ar werthoedd ac 
ymddygiad cadarnhaol;
 sicrhau bod gweithgareddau CLlD yn cael eu cynnal mewn ffordd effeithlon 
ac effeithiol o fewn fframwaith llywodraethu ac atebolrwydd cryf ac mewn 
modd sy'n cyd-fynd â'r "pum ffordd o weithio" (fel y’u nodir yn Neddf 
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015); a
 monitro perfformiad i sicrhau bod CLlD yn cyflawni'i amcanion, ei nodau a'i 
dargedau perfformiad yn llawn.
I wneud hynny, rhaid i'r Bwrdd a'i aelodau:
 sicrhau bod trefniadau rheoli effeithiol yn eu lle er mwyn rhoi sicrwydd 
mewn perthynas â rheoli risg, llywodraethu a rheolaeth fewnol; 
 sefydlu Pwyllgor Archwilio o dan gadeiryddiaeth Aelod Anweithredol (ond 
nid y Cadeirydd) i roi cyngor annibynnol iddo; a 
 ei sicrhau ei hun bod y systemau rheolaeth fewnol a rheoli risg yn 
effeithiol. 

Nid yw’r cyfrifoldeb personol sydd ar y Prif Weithredwr, fel Swyddog Cyfrifyddu, i 
sicrhau rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian yn lleihau dim ar gyfrifoldeb 
aelodau'r Bwrdd. Mae dyletswydd ar bob un ohonynt i weithredu mewn ffordd sy'n 
hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus ac i sicrhau bod gweithgareddau CLlD
yn cael eu cynnal mewn modd effeithlon ac effeithiol. Rhaid iddynt beidio â rhoi 
cyfarwyddiadau i'r Prif Weithredwr sy'n gwrthdaro â chyfrifoldebau'r Prif Weithredwr 
fel Swyddog Cyfrifyddu CLlD.

Yn benodol, mae'r Bwrdd yn gyfrifol am:

 sefydlu a bwrw ymlaen â nodau ac amcanion strategol CLlD mewn ffordd 
sy’n cyd-fynd â’i ddiben cyffredinol ac sydd o fewn y fframwaith polisi ac 
adnoddau a bennwyd gan Weinidogion Cymru; 

 sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael gwybod am unrhyw newidiadau
sy’n debygol o effeithio ar gyfeiriad strategol CLlD, neu ar ei allu i gyrraedd 
ei dargedau, a’u bod hefyd yn cael gwybod am y camau sydd angen eu 
cymryd er mwyn mynd i’r afael â newidiadau o'r fath; 

 sicrhau bod CLlD yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol neu 
weinyddol mewn perthynas â defnyddio arian cyhoeddus; ei fod yn
gweithredu o fewn terfynau ei awdurdod statudol ac unrhyw awdurdod 
dirprwyedig y cytunir arno gyda’r adran sy’n ei noddi, ac yn unol ag unrhyw 
amodau eraill sy'n gysylltiedig â defnyddio arian cyhoeddus; a'i fod, wrth 
wneud penderfyniadau, yn ystyried canllawiau a gyhoeddir gan 
Lywodraeth Cymru;

 sicrhau ei fod yn cael ac yn mynd ati’n rheolaidd i fwrw golwg dros 
wybodaeth ariannol sy’n gysylltiedig â rheoli CLlD; ei fod yn cael gwybod 
mewn da bryd am unrhyw bryderon am weithgareddau CLlD; a'i fod, os yw 
hynny’n berthnasol, yn rhoi sicrwydd cadarnhaol i’r Gweinidog drwy’r tîm 
noddi fod camau unioni priodol wedi'u cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw 
bryderon o'r fath; 

 dangos safonau uchel o lywodraethu corfforaethol bob amser, gan 
gynnwys defnyddio’r pwyllgor archwilio i helpu'r Bwrdd i fynd i'r afael â 
risgiau ariannol a risgiau eraill

 ar ôl cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, penodi Prif 
Weithredwr. 

Caiff y Bwrdd, i'r graddau a ganiateir gan Ddeddf Iechyd a Gofal (Ansawdd ac 
Ymgysylltu) (Cymru) 2020, ddirprwyo i staff y cyfrifoldeb dros weinyddu materion 
rheoli o ddydd i ddydd ond ef sy’n dal yn gyfrifol ac yn atebol am yr holl faterion 
hynny yn y pen draw. Rhaid i CLlD gadw rhestr o faterion sydd wedi'u cadw’n ôl i’r 
Bwrdd benderfynu arnynt, yn ogystal â chynllun dirprwyo a gymeradwywyd gan y 
Bwrdd.

Mae'r Cadeirydd yn atebol i Weinidogion Cymru. Bydd cyfathrebu rhwng Bwrdd 
CLlD a'r Gweinidogion, yng nghwrs arferol busnes, yn digwydd drwy'r Cadeirydd. Y 
Cadeirydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod polisïau a chamau gweithredu'r Bwrdd yn 
cefnogi polisïau strategol ehangach y Gweinidog, gan sicrhau hefyd fod CLlD yn 
parhau'n annibynnol, ac nad oes unrhyw lyffethair ar ei allu i gyflwyno sylwadau a 
chodi pryderon ar sail tystiolaeth am weithgareddau. Bydd y Cadeirydd hefyd yn: 

 sicrhau bod Aelodau'r Bwrdd yn cael gwybod am unrhyw gyfathrebu o'r 
fath; 

 dangos bod ganddo angerdd ac ymrwymiad cryf, gweladwy i rôl CLlD a'i 
strategaeth; 

 sicrhau uniondeb o ran y ffordd yr ymgymerir â materion CLlD; a 

 lle y bo'n briodol, sicrhau bod polisïau a chamau gweithredu yn cael eu 
cyfleu a'u lledaenu ar draws CLlD. 


O ran arweinyddiaeth, mae gan y Cadeirydd gyfrifoldeb penodol dros: 

 lunio strategaethau'r Bwrdd;

 sicrhau bod y Bwrdd, wrth wneud penderfyniadau, yn rhoi’r ystyriaeth 
briodol i ofynion statudol ac i ofynion o ran rheolaeth ariannol a'r holl 
ganllawiau perthnasol, gan gynnwys canllawiau a ddarperir gan 
Weinidogion Cymru;

 hyrwyddo defnydd economaidd, effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau 
eraill;

 hyrwyddo diwylliant yn y sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd ac 
ymddygiad cadarnhaol; 

 sicrhau safonau uchel o reoleidd-dra a phriodoldeb; 

 cyfleu barn y Bwrdd i’r cyhoedd.

Rhaid i’r Cadeirydd hefyd:

 sicrhau bod holl Aelodau'r Bwrdd yn cael eu briffio'n llawn am delerau eu 
penodiad ac am eu dyletswyddau, eu hawliau a'u cyfrifoldebau;

 sicrhau ei fod ef/ei bod hi, ynghyd ag Aelodau eraill o'r Bwrdd, yn cael 
hyfforddiant priodol, gan gynnwys hyfforddiant am y gofynion ar gyrff y 
sector cyhoeddus o ran rheolaeth ariannol ac adrodd, ac ar y 
gwahaniaethau a allai fodoli rhwng arferion y sector preifat a'r sector 
cyhoeddus;

 sicrhau bod gan y Bwrdd y cydbwysedd sgiliau sy'n briodol ar gyfer 
cyfarwyddo busnes CLlD a, phan fydd swyddi gwag ar y Bwrdd a’r 
Gweinidogion yn gyfrifol am benodi i’r swyddi hynny, eu cynghori am 
anghenion CLlD;

 asesu perfformiad aelodau unigol o'r Bwrdd yn unol â'r trefniadau y cytunir
arnynt gyda'r tîm noddi; a

 sicrhau bod Cod Ymddygiad sy'n gyson â Chod Enghreifftiol Llywodraeth 
Cymru yn ei le ar gyfer Aelodau'r Bwrdd.

Bydd y Dirprwy Gadeirydd, yn ogystal ag ysgwyddo cyfrifoldebau Aelodau 
Anweithredol o’r Bwrdd, yn:

 cynnig arweiniad cryf, effeithiol a gweladwy fel y cytunir arno gyda’r 
Cadeirydd, gan wneud hynny’n fewnol drwy'r Bwrdd a'i bwyllgorau ac yn 
allanol drwy ei gysylltiadau ag amrywiaeth eang o randdeiliaid a
phartneriaid yn y gymuned ehangach; 

 dirprwyo ar ran y Cadeirydd ac arwain y Bwrdd yn absenoldeb y 
Cadeirydd, gan gyflawni swyddogaethau ychwanegol fel y cytunir arnynt
gyda'r Cadeirydd.

Wrth ymgymryd â'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, bydd holl Aelodau'r Bwrdd yn:

 cydymffurfio bob amser â Chod Ymddygiad CLlD ar gyfer Aelodau'r Bwrdd, 
a chyda'r rheolau sy'n ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus a gwrthdaro 
buddiannau; 

 dangos eu hymrwymiad i ddeall ac i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a 
chynhwysiant;

 dangos bod ganddynt werthfawrogiad o ddwyieithrwydd a diwylliant, ac 
ymrwymo i brif ffrydio'r Gymraeg;

 peidio â chamddefnyddio gwybodaeth a geir yn ystod eu gwasanaeth 
cyhoeddus er budd personol neu elw gwleidyddol, nac yn ceisio 
defnyddio’r cyfle i wasanaethu’n gyhoeddus i hyrwyddo eu buddiannau 
preifat na buddiannau pobl neu sefydliadau y mae ganddynt berthynas â 
nhw; 

 cydymffurfio â rheolau CLlD ar dderbyn rhoddion a lletygarwch, a 
phenodiadau busnes; a 

 gweithredu bob amser yn ddidwyll ac er budd pennaf CLlD

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

I gael eich ystyried ar gyfer rôl Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd neu Aelod 
Anweithredol, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau a'r profiad a ganlyn:

Meini Prawf Hanfodol

Mae angen sicrhau bod gan y Bwrdd y profiad a'r sgiliau cywir i sicrhau llwyddiant 
CLlD. Dylai aelodau'r Bwrdd, gyda'i gilydd, feddu ar yr ystod isod o brofiad. Cewch 
ddangos bod gennych brofiad mewn mwy nag un maes:

 gweithio mewn amgylchedd lle mae’n amlwg bod barn y cyhoedd/defnyddwyr 
gwasanaethau yn cael ei chasglu a lle y gweithredir ar y farn honno wedyn;
 darparu gwasanaethau eirioli;
 arweinyddiaeth strategol;
 rheoli newid/gwella gwasanaethau;
 datblygu’r gweithlu/sefydliad;
 gweithio mewn partneriaeth; 
 rheoleiddiol/cyfreithiol;
 busnes/llywodraethu/ rheolaeth fewnol;
 cyllid/cyfrifyddu;
 iechyd; 
 gofal cymdeithasol;
 cyfathrebu/marchnata. 

Bydd gan y Cadeirydd yr wybodaeth a’r profiad a ganlyn:

 profiad o weithredu ar lefel arweinyddiaeth strategol uwch, ynghyd â 
gwybodaeth a dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen er mwyn eirioli dros bobl a 
chymunedau a'u cynrychioli yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol; 

 angerdd dros, ac ymrwymiad i, wrando ar flaenoriaethau'r Dinesydd o ran 
iechyd a gofal cymdeithasol, a deall y blaenoriaethau hynny;

 y gallu i feithrin gweledigaeth, ac arwain y gwaith o ddatblygu CLlD wrth iddo 
fynd ati i gyflawni ei nodau hirdymor a thymor byr; 

 y gallu i ddeall materion cymhleth, gan barchu barn pobl eraill;

 dealltwriaeth ardderchog o lywodraethu a’r gallu i sicrhau bod aelodau'r Bwrdd 
yn gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol wrth iddynt ymroi i broses gadarn a 
thryloyw o wneud penderfyniadau; 

 y gallu i ysgogi a datblygu'r Bwrdd i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau er mwyn 
sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd; 

 ymrwymiad clir i ddeall a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant; 

 y gallu i ddangos gwerthfawrogiad o ddwyieithrwydd a diwylliant, ac 
ymrwymiad i hyrwyddo a phrif ffrydio'r Gymraeg.

Meini Prawf Dymunol: · Y gallu i siarad Cymraeg.


Bydd y Priodoleddau Personol yn cynnwys:
 sgiliau rhyngbersonol a sgiliau dylanwadu cryf, a'r gallu i fod yn eiriolwr ac yn
llysgennad effeithiol; 
 doethineb barn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;
 y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn.

Y Meini Prawf sy'n Ddymunol:
 Y gallu i siarad Cymraeg.


Bydd gan yr Aelodau Anweithredol yr wybodaeth a'r profiad a ganlyn:

 dealltwriaeth o’r materion a’r blaenoriaethau sy’n debygol o fod yn bwysig i 
CLlD, a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;
 y gallu i ddwyn y Prif Weithredwr i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas 
adeiladol ar yr un pryd;
 y gallu i feddwl yn strategol ac i arfer doethineb barn ar amrywiaeth o faterion 
cymhleth a sensitif;
 y gallu i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth gymhleth; 
 dealltwriaeth o sut mae grwpiau amrywiol yn dod â'u profiadau byw i waith y 
sefydliad ar ffurf sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy

 Yn ogystal, bydd gan y Dirprwy Gadeirydd brofiad o rôl arwain yn y sector 
preifat, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector, a'r gallu i edrych i'r dyfodol a 
chynnig arweiniad strategol

Bydd y Priodoleddau Personol yn cynnwys:
 sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i ymgysylltu â'r cyhoedd, cyflogeion, 
cynrychiolwyr cyflogeion a rhanddeiliaid er mwyn helpu i lywio, datblygu a 
gwella gwasanaethau; 
 ymrwymiad clir i ddeall a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant; 
 y gallu i ddangos gwerthfawrogiad o ddwyieithrwydd a diwylliant, ac 
ymrwymiad i hyrwyddo a phrif ffrydio'r Gymraeg.

Yn ogystal, bydd gan y Dirprwy Gadeirydd:

 y gallu i fod yn eiriolwr ac yn llysgennad effeithiol, gan feithrin gweledigaeth, 
ynghyd â'r gallu i ddylanwadu ar eraill;
 y gallu i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth, gan barchu barn pobl eraill; 
 doethineb barn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol
 dealltwriaeth gref o wasanaethau ymgysylltu ac eiriolaeth.

Dyddiadau cyfweliadau

4 Ebrill 2022
8 Ebrill 2022

Dyddiad cau

01/02/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal tair sesiwn wybodaeth sy'n rhoi cyflwyniad i Gorff Llais y Dinesydd a rolau, cyfrifoldebau a rhinweddau aelodau ei Bwrdd. Bydd cyfle i gael cwestiynau ynglŷn â'r corff newydd neu wneud cais.

Bydd crynodeb o'r cwestiynau a'r atebion ar gael yma wythnos yn dechrau 24 Ionawr

 

Cynhelir y sesiwn olaf, drwy MS Teams, ddydd Mawrth 25 Ionawr (11.30am – 12.30pm). Os hoffech fod yn bresennol, cofrestrwch eich diddordeb yn CVBinfo@gov.cymru 

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.