Swydd Wag -- Penodi Aelod - Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Disgrifiad o'r swydd
Rôl a chyfrifoldebau
Fel aelod bydd disgwyl ichi:
- fynd i gyfarfodydd y Bwrdd pan ofynnir i chi
- parhau i gadw'ch bys ar byls datblygiadau ac anghenion y sector bwyd
- fod yn wybodus iawn ynghylch cyd-ddibyniaeth a chyfleoedd y diwydiant bwyd, ei is-sectorau a'r gadwyn gyflenwi yn y DU, yr Undeb Ewropeaidd a gweddill y byd.
- deall yn glir Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymo iddynt.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol y swydd.
Meini Prawf Hanfodol
- gwybodus iawn am ddiwydiant bwyd Cymru, y DU, yr UE neu'r byd
- profiad ariannol, masnachol neu lywodraethu ar lefel uwch
- profiad helaeth iawn o rai is-sectorau megis llaeth, cig, pobi, organig, garddwriaeth, pysgodfeydd neu ddyframaethu
- gweithgynhyrchu bwyd a/neu ddatblygu marchnadoedd
- dealltwriaeth dda o'r gadwyn fwyd a'r gyd-ddibyniaeth ynddi
- eithriadol o wybodus ym meysydd: rheoli busnes neu ymchwil neu farchnata neu arloesi neu ddatblygu sgiliau
- ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac atebolrwydd
Byddai'n ddymunol pe bai aelodau'r bwrdd yn meddu ar y rhinweddau canlynol:
hunan ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r sefydliad
- yn gallu dod i gasgliadau doeth
- yn gwrando'n weithredol gyda meddwl agored
- yn cymryd rhan mewn trafodaethau, gan roi sylwadau perthnasol
- yn mynegi barn heb flewyn ar dafod ond gyda pharch
- yn dangos mentergarwch a chraffter
- yn meddwl yn rhesymegol, ac yn greadigol hefyd
- yn gwneud penderfyniadau drosto'i hun
- yn rhoi cyngor ar sail profiad
- yn ffurfio perthynas gydweithredol ag aelodau eraill y bwrdd a lle bo gofyn, yn rhoi arweiniad a chyngor i'r tîm gweithredol
- yn ymddwyn yn driw i gefnogi penderfyniadau'r bwrdd yn ei gyfanrwydd
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Penodiadau Cyhoeddus
Uned Cyrff Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru a rôl ei aelodau, cysylltwch â David Morris:
Ffôn: 0300 025 7944
E-bost: Chair.FDWIB@gov.wales
Os oes angen rhagor o help arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch
penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.