Swydd Wag -- Comisiynydd y Gymraeg
Manylion y swydd
gwladol eu tynnu o'r gyflog a chyfrennir at bensiwn.
Rôl y corff
Roedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ("y Mesur") yn cadarnhau statws swyddogol
y Gymraeg yng Nghymru, yn creu system newydd i reoleiddio safonau'r Gymraeg, ac
yn creu rôl Comisiynydd y Gymraeg ("y Comisiynydd"). Mae’r Comisiynydd yn cael ei
benodi gan Brif Weinidog Cymru.
Saith mlynedd yw hyd swydd y Comisiynydd ac nid oes modd ymestyn y cyfnod.
Disgrifiad o'r swydd
eraill i ddefnyddio’r Gymraeg
(ii) Gweithio tuag at sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r
Saesneg a bod unigolion yng Nghymru yn gallu byw eu bywydau drwy'r
Gymraeg os ydynt yn dymuno
(iii) Hyrwyddo arfer gorau a chynnig cymorth i gyrff i brif-ffrydio'r Gymraeg wrth
ddatblygu polisi, gyda'r nod o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, cynyddu
cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, a pheidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r
Saesneg.
(iv) Bod yn gyfrifol am reoleiddio system safonau'r Gymraeg. Mae'n ofynnol i tua
120 o gyrff gydymffurfio â'r safonau ar hyn o bryd.
Mae’r gwaith hwn yn cynnwys:
rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gyrff sy’n dod o dan safonau, gan ymgynghori
ar fersiwn drafft o’r hysbysiad
monitro perfformiad cyrff yn unol â'r dyletswyddau a osodwyd arnynt ac
adolygu hysbysiadau cydymffurfio yn rheolaidd, gan eu hamrywio a'u dirymu
fel y bo'n briodol
cyhoeddi codau ymarfer er mwyn rhoi arweiniad ymarferol i'r cyrff ynghylch
gofynion y safonau
dyfarnu ar geisiadau i'r Comisiynydd benderfynu p'un a yw'r gofyniad i
gydymffurfio â'r safonau perthnasol yn afresymol neu'n anghymesur
cyhoeddi hysbysiadau penderfynu yn dilyn ymchwiliadau i gwynion am
achosion lle na chydymffurfiwyd â'r safonau perthnasol, yn unol â’r polisi
gorfodi
delio ag achwynwyr, darparwyr gwasanaethau, Tribiwnlys y Gymraeg ac
unrhyw bartïon eraill sy'n rhan o weithdrefn apelio
creu a chynnal cofrestr o gamau gorfodi yn nodi manylion pob ymchwiliad,
canlyniadau’r ymchwiliadau ac unrhyw apeliadau i Dribiwnlys y Gymraeg
(v) Yn dilyn cais gan unigolyn, ystyried ymchwilio i achosion honedig o geisio
ymyrryd â rhyddid siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith gyda'i gilydd a
dyfarnu ar achosion yr ymchwilir iddynt
(vi) Adolygu'n rheolaidd ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith o ran y
Gymraeg a chynghori Gweinidogion Cymru ynghylch unrhyw newidiadau a
allai fod yn ofynnol
(vii) Cydweithio ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac
ombwdsmyn a chomisiynwyr eraill fel y bo'n briodol
(viii) Cyfrannu at y broses o benodi Panel Cynghori ac ymgynghori â'r Panel wrth
gyflawni ei ddyletswyddau
(ix) Llunio adroddiad 5-mlynedd yn canolbwyntio ar sefyllfa'r Gymraeg yn ystod y
cyfnod hwnnw. Rhaid gosod copi o'r adroddiad gerbron Senedd Cymru
(x) Llunio adroddiad blynyddol yn cynnwys, ymhlith elfennau eraill, grynodeb o'r
camau a gymerwyd wrth gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd a'i gynigion
ar gyfer rhaglen waith y flwyddyn ganlynol. Rhaid gosod copi o'r adroddiad
blynyddol gerbron Senedd Cymru
(xi) Comisiynu a gwneud gwaith ymchwil i sefyllfa'r Gymraeg
(xii) Chwarae rôl weithredol o fewn y rhwydwaith rhyngwladol o gomisiynwyr iaith,
a rhannu a gweithredu arferion gorau gwledydd eraill lle bo'n briodol
(xiii) Gwneud argymhellion neu sylwadau, neu roi cyngor, i unrhyw berson gan
gynnwys Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw un o'i
swyddogaethau
(xiv) Arwain a rheoli Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a phenodi Dirprwy
Gomisiynydd y Gymraeg
(xv) Gweithredu fel Swyddog Cyfrifyddu a bod yn gyfrifol am sicrhau bod Swyddfa'r
Comisiynydd yn cael ei rheoli'n effeithlon yn ariannol, a pharatoi cyfrifon
gwariant ac amcangyfrifon o incwm a chostau yn ôl y gofyn. Bydd y
Comisiynydd yn gyfrifol am gyllideb flynyddol o tua £3miliwn
(xvi) Creu a chynnal cofrestr o fuddiannau ar gyfer pob deiliad swydd perthnasol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Profiad o gynllunio a datblygu sefydliadau
Gwybodaeth am faterion polisi yn ymwneud â'r Gymraeg; dealltwriaeth o'r
materion sy'n wynebu siaradwyr Cymraeg a'r rheini sy'n dysgu Cymraeg; ac
ymrwymiad i gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg
Sgiliau rhyngbersonol gwych yn y Gymraeg a'r Saesneg a'r gallu i weithio'n
effeithiol drwy'r Gymraeg mewn bob math o sefyllfaoedd, gan gynnwys
gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl, ee Gweinidogion, uwch
gynrychiolwyr o gyrff preifat a chyhoeddus, ac ymgysylltu gydag aelodau o'r
cyhoedd
Profiad o ddelio a siarad gyda’r wasg a’r cyfryngau
Hygrededd ar lefel a fydd yn ennyn hyder a pharch Llywodraeth Cymru,
Aelodau'r Senedd, llywodraeth leol, sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector
preifat, y trydydd sector a'r cyhoedd
Gallu profedig i weithio'n effeithiol mewn partneriaeth â rhanddeiliaid a chyrff
allanol i ddatrys materion anodd yn foddhaol
Profiad helaeth o reoli cyllid a phobl ac o lywodraethiant
Dealltwriaeth glir o faterion yn ymwneud â chydraddoldeb ac o Saith
Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymiad iddynt.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.