Swydd Wag -- Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd pob deufis mewn lleoliadau gwahanol yn ardal y Bwrdd Iechyd. Mae gan y Bwrdd Iechyd sawl pwyllgor ac fe gynhelir y cyfarfodydd hynny naill ai pob deufis neu yn chwarterol.
£15,936 y flwyddyn
4
mis

Rôl y corff

Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at wasanaethau iechyd lleol, sy'n dilyn trywydd strategol GIG Cymru.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn sefydliad sy'n seiliedig ar werthoedd. Drwy weithio gyda chleifion a staff, mae'r Bwrdd Iechyd wedi llunio fframwaith o werthoedd ac ymddygiadau sy'n seiliedig ar dri phrif gwerth: 'Gofalu am ein gilydd', 'Cydweithio' a 'Gwella bob amser'. Bydd y gwerthoedd hyn yn ysgogiad i waith y Bwrdd, gan gynnwys wrth recriwtio a llunio arfarniadau staff.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yw un o'r sefydliadau iechyd integredig mwyaf yn y DU, ac mae’n un sy'n hyrwyddo rhagoriaeth ac ymchwil glinigol. Mae'n gwasanaethu poblogaeth o tua 500,000, mae ei gyllideb flynyddol dros £1 biliwn ac mae'n cyflogi tua 16,500 o staff. O'r rheini, mae 70% yn rhan o ofal uniongyrchol i gleifion. Mae'n cynnig gofal integredig i gleifion, ac yn darparu gwasanaethau gofal trydyddol, acíwt, canolraddol, iechyd meddwl, cymunedol a sylfaenol i bobl Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a'r tu hwnt.

Yn ychwanegol, mae'r Bwrdd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau rhanbarthol ac is-ranbarthol, gan gynnwys llawdriniaethau ar y galon, llawdriniaethau plastig a llawdriniaethau ar gyfer llosgiadau i boblogaeth De Orllewin Lloegr, gwasanaethau iechyd meddwl fforensig i Dde Cymru a gwasanaethau anabledd dysgu o Abertawe i Gaerdydd, yn ogystal ag ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Darperir Gwasanaethau Gofal Sylfaenol gan feddygon teulu, optegwyr, fferyllwyr cymunedol a deintyddion sydd i gyd yn gweithredu fel contractwyr annibynnol. Mae'r Bwrdd yn rheoli Gwasanaethau Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau a Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer Carchar Abertawe.

Mae gan y Bwrdd bedwar ysbyty acíwt sy'n darparu amrywiaeth o wasanaethau:

 Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr;
 Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, Port Talbot;
 Ysbyty Singleton, Abertawe;
 Ysbyty Treforys, Abertawe.

Mae hefyd nifer o ganolfannau adnoddau gofal sylfaenol mewn ysbytai cymunedol sy'n darparu gwasanaethau clinigol pwysig i'n preswylwyr y tu allan i'r pedwar prif ysbyty acíwt. Ym mis Mawrth 2016, roedd gan y Bwrdd Iechyd 2,264 o welyau.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi meithrin cysylltiadau cryf gyda'r byrddau iechyd, awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector a sefydliadau eraill sy'n gyfagos. Mae hyn yn cynnwys Prifysgol Abertawe ac rydym yn ceisio datblygu diwylliant sy'n canolbwyntio ar ymchwil ac addysg drwy gydweithio â'r Brifysgol a'i Goleg Meddygaeth a Gwyddorau Dynol ac Iechyd a'r Sefydliad Gwyddor Bywyd.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn rhan o brosiect cyffrous ar hyn o bryd gyda Phrifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sef Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd. Dyma enghraifft o gydweithio ym meysydd iechyd a gwyddoniaeth er mwyn gwella iechyd a lles pobl y De Orllewin.

Rôl y bwrdd

Y tair rôl allweddol sy'n rhan o waith Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i gynnig arweinyddiaeth i'r sefydliad yw:-

• Llunio strategaeth

• Sicrhau atebolrwydd trwy ddwyn y sefydliad i gyfrif am gyflawni'r strategaeth a thrwy geisio sicrwydd bod systemau rheoli yn gadarn ac yn ddibynadwy

• Siapio diwylliant cadarnhaol ar gyfer y Bwrdd a'r sefydliad

Mae rôl aelod y Bwrdd yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:-

• Strategaeth – cyfrannu at ddatblygiad strategol a gwneud penderfyniadau

• Perfformiad – sicrhau bod trefniadau rheoli effeithiol yn ogystal â thîm effeithiol yn gweithredu ar lefel uchaf y sefydliad Helpu i egluro pa benderfyniadau sydd i'w gwneud gan y Bwrdd ac yna sicrhau bod y gweddill yn cael eu dirprwyo'n glir a dwyn y rheolwyr i gyfrif am eu perfformiad o ran bodloni nodau ac amcanion y cytunwyd arnynt trwy herio a chraffu'n bwrpasol, a monitro'r gwaith o adrodd am berfformiad

• Risg – sicrhau bod gwybodaeth ariannol yn gywir, a bod rheolaethau ariannol a systemau rheoli risg a sicrwydd yn gadarn a bod modd eu hamddiffyn

• Ymddygiad – cynnal y safonau moesegol uchaf o ran uniondeb a chywirdeb a chydymffurfio'n llawn â'r Cod Ymddygiad. Dylai aelodau'r bwrdd ddangos trwy eu hymddygiad eu bod yn canolbwyntio ar eu cyfrifoldebau tuag at ddinasyddion, y sefydliad a'i randdeiliaid

Disgrifiad o'r swydd

Bydd Aelodau Annibynnol, ymysg pethau eraill, yn:-

• Chwarae rhan lawn yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei reoli, mewn modd clinigol a chorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithgar mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd o ran materion allweddol;

• Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli beunyddiol;

• Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw;

• Bydd disgwyl i chi, ymhen amser, ddeall y busnes yn llawn drwy gymryd rhan weithgar, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol;

• Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau;

• Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;

• Gallu cyfrannu at brosesau 'llywodraethu ac ariannu' y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Manyleb y person

Bydd pob Aelod Annibynnol yn arddangos y rhinweddau canlynol:-

Gwybodaeth a Phrofiad

• Deall problemau a blaenoriaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a'r gallu i ddeall ei rôl a'i waith;

• Y gallu i wneud yr aelodau gweithredol yn atebol am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;

• Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;

• Dealltwriaeth eang o'r gofynion o ran llywodraethu gwybodaeth sydd eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth ee Deddf Diogelu Data.

Priodoleddau Personol a Sgiliau

Mae gan y Bwrdd Iechyd set o werthoedd ac ymddygiadau craidd – sef yr hyn y mae'r sefydliad yn ei gynrychioli. Bydd angen i chi allu dangos y canlynol:

• Sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i ymgysylltu â chyflogeion a chynrychiolwyr cyflogeion ar bob lefel yn y Bwrdd Iechyd;

• Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill;

• Y gallu i gynnwys rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw i helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau;

• Y gallu i ddadansoddi ac adolygu'n feirniadol gwybodaeth gymhleth.

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi.

Meini Prawf Hanfodol ar gyfer y Rôl

Bydd angen ichi ddangos:-

 Y gallu i gymhwyso eich gwybodaeth arbenigol a'ch sgiliau cyfreithiol ar lefel bwrdd strategol
 Dealltwriaeth gadarn o lywodraethu corfforaethol
 Y gallu i gymhwyso arbenigedd cyfreithiol i gasglu a dehongli gwybodaeth gymhleth ac anghyfarwydd.

Dyddiadau cyfweliadau

11 Mai 2017
11 Mai 2017

Dyddiad cau

31/03/17 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Ffôn: 029 2082 5454
E-bost: DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol, cysylltwch ag Andrew Davies, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Ffôn: 01639 683302. E-bost: Andrew.davies25@wales.nhs.uk

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ewch i'w gwefan: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/863/hafan

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i
DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Wedi ichi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. Bydd rhaid ichi gyflwyno dwy ddogfen i gefnogi eich cais. Dogfen yn ateb y cwestiynau ar dudalen 3 & 4 y ddogfen gwybodaeth i ymgeiswyr yw'r gyntaf. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosibl y bydd eich cais yn cael ei wrthod os byddwch chi’n mynd dros y terfyn hwn, neu'n methu ag ateb y cwestiynau yn eich dogfen ategol. Bydd hefyd o fantais i'r panel dewis os byddwch yn dangos yn glir pa dystiolaeth benodol sy'n berthnasol i ba gwestiwn. Yr arfer cyffredin yw darparu paragraffau unigol mewn perthynas â phob cwestiwn. Bydd y panel dewis yn asesu'r ceisiadau yn erbyn y meini prawf hyn wrth benderfynu pa ymgeiswyr fydd yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y cam nesaf.

Yr ail ddogfen fydd angen ichi ei chyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.