Swydd Wag -- Aelod - Cymhwyster Cymru (Cymraeg yn Hanfodol)

Manylion y swydd

Cymhwyster Cymru
Cymwysterau Cymru, Adeilad Q2, Lôn Pencarn, Parc Imperial, Coedcernyw, Casnewydd, NP10 8AR
£282 y diwrnod yn seiliedig ar ymrwymiad amser ar y mwyaf o 36 diwrnod y flwyddyn ynghyd â threuliau teithio a threuliau rhesymol eraill o fewn terfynau rhesymol.
1
mis

Rôl y corff

Trosolwg

O dan Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, daeth Cymwysterau Cymru yn gyfrifol am reoleiddio cyrff dyfarnu a sicrhau ansawdd cymwysterau nad ydynt yn gymwysterau gradd a ddarperir yng Nghymru. Mae Cymwysterau Cymru, fel corff statudol annibynnol, mewn sefyllfa dda i sicrhau bod cymwysterau a gynigir yng Nghymru yn diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a'r economi.

Cymwysterau Cymru yw'r prif awdurdod ar gymwysterau yng Nghymru ac mae'n rhoi cyngor proffesiynol i Weinidogion Cymru ar faterion perthnasol yn ogystal â gwybodaeth, cyngor a chymorth i ystod eang o randdeiliaid. Mae'n cyfleu gwerth y cymwysterau a gynigir yng Nghymru i randdeiliaid y tu mewn a'r tu allan i Gymru.

 

Mae Cymwysterau Cymru yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae'n gwneud penderfyniadau proffesiynol ac annibynnol ar gymwysterau. Mae'n arwain ar agweddau ar ddatblygu polisi cymwysterau. Mae'n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar sut y mae wedi cyflawni a sut y mae'n bwriadu cyflawni ei swyddogaethau.          


Llywodraethiant 

Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw'r corff ac felly mae'n atebol am lywodraethiant arian cyhoeddus. Fodd bynnag, Cymwysterau Cymru yw'r rheoleiddiwr annibynnol sy'n atebol am gyflawni ei swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gan Fwrdd Cymwysterau Cymru Gadeirydd annibynnol a rhwng 8 a 10 aelod anweithredol.


Bydd y broses o benodi aelodau anweithredol yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus. 

 

Rôl y Bwrdd

Rôl y Bwrdd yw llywodraethu'n gryf ac arwain yn effeithiol, datblygu’r cynllun strategol ar gyfer Cymwysterau Cymru a phennu amcanion heriol. Mae’r Bwrdd yn hyrwyddo safonau uchel o atebolrwydd cyhoeddus ac yn cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae’n sicrhau bod gweithgareddau Cymwysterau Cymru yn cael eu cyflawni yn effeithlon ac yn effeithiol, ac mae’n monitro perfformiad i sicrhau bod y corff yn cyflawni'n llawn ei nodau, ei amcanion a'i dargedau perfformiad.

Mae'r Bwrdd wedi sefydlu trefniadau llywodraethiant trosfwaol ac mae’n dirprwyo ei swyddogaethau i swyddogion drwy gynllun dirprwyo sy'n cwmpasu materion ariannol ac anariannol.

 

Disgrifiad o'r swydd

 Rôl a chyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd                 
                                               

  • Darparu cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth, ysgogi perfformiad a dwyn y Corff i gyfrif yn erbyn ei gynlluniau strategol a chorfforaethol

  • Sicrhau priodoldeb, rheoleidd-dra, darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth weithredu'r corff

  • Rhoi sylw i saith egwyddor bywyd cyhoeddus (egwyddorion Nolan)

  • Ynghyd ag aelodau eraill o'r Bwrdd, sicrhau bod y Corff yn cyflawni ei nodau a'i amcanion statudol

  • Bod yn eiriolwr dros y sefydliad a'i nodau a'i amcanion. Bod yn fodel rôl i staff a rhanddeiliaid

  • Cydweithio i feithrin perthynas â'r holl randdeiliaid gan gynnwys Adrannau allweddol Llywodraeth Cymru, yn enwedig yr Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

  • Deall egwyddorion bywyd cyhoeddus ac ymrwymo iddynt

  • Deall yn glir gydraddoldeb ac amrywiaeth ac ymrwymo iddynt, a bod yn barod i herio arferion gwahaniaethol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Rhugl

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i gyflawni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer penodi;

  • y gallu i ddod â syniadau newydd i drafodaethau ar faterion strategol ac ymarferol y tu allan i'ch meysydd arbenigedd; 
  • y gallu i oruchwylio, cyfarwyddo a/neu wneud penderfyniadau yn wyneb ansicrwydd gwleidyddol neu ariannol; 
  • y gallu a'r profiad i graffu ar ein gwaith er mwyn sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau i gymwysterau yn ymarferol, yn gywir ac wedi'u cynllunio i gyflawni'r weledigaeth a fwriedir; 
  • dealltwriaeth eang o faterion addysg yng Nghymru. Gallai’r wybodaeth hon fod wedi'i hennill mewn unrhyw faes, gan gynnwys gwaith cymunedol, gwaith gwirfoddol neu gefndir proffesiynol;  
  • gwerthfawrogiad o waith Cymwysterau Cymru a'i waith gyda rhanddeiliaid.  

 

Arbenigedd yn y meysydd canlynol – o unrhyw sector diwydiant:

 

  • Rheoleiddio - arbenigedd mewn rheoleiddio yn hytrach na chael eich rheoleiddio (o leiaf un swydd)
  • Asesu – arbenigedd yn theori a chymhwyso asesu a sicrhau ansawdd (o leiaf ddwy swydd)
  • Rheoli busnes – arbenigedd yn y sector preifat (o leiaf un swydd)

 

Dyddiadau cyfweliadau

23 Tachwedd 2020
27 Tachwedd 2020

Dyddiad cau

16/10/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.