Swydd Wag -- Aelod Annibynnol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Manylion y swydd
Rôl y corff
Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (a elwid gynt yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg) ei greu ar 1 Ebrill 2019, ar ôl i’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei drosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i’r bwrdd newydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gwasanaethu poblogaeth o tua 390,000 o bobl ac mae ganddo gyllideb flynyddol o dros £1 biliwn. Mae'n cyflogi tua 12,500 o staff - 70% ohonynt yn ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion. Mae'n cynnig gofal integredig i gleifion, ac yn darparu gwasanaethau gofal trydyddol, acíwt, canolraddol, iechyd meddwl, cymunedol a sylfaenol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
At hynny, mae’r Bwrdd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau rhanbarthol ac is-ranbarthol, gan gynnwys llawdriniaeth ar y galon, a llawdriniaeth blastig ac ar gyfer llosgiadau i gleifion yn Ne-orllewin Lloegr, gwasanaethau iechyd meddwl fforensig i Dde Cymru a gwasanaethau anableddau dysgu o Abertawe i Gaerdydd, yn ogystal ag ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Disgrifiad o'r swydd
Fel aelod o'r Bwrdd, byddwch yn:
- Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Disgwylir i chi allu cynnig barn annibynnol i'r Bwrdd ar faterion perfformiad, penodiadau allweddol, edrych tua’r dyfodol, ac atebolrwydd;
- Cyfrannu at ddod â gweledigaeth strategol y Bwrdd yn fyw, yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad a'ch gwybodaeth yn y gorffennol, a'ch gallu i sefyll gam yn ôl oddi wrth y rheolaeth weithredol o ddydd i ddydd;
- Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau sy’n gydgysylltiedig, yn gadarn ac yn dryloyw;
- Dod, ymhen amser, i ddeall gwaith y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r Bwrdd Iechyd i weithredu'n effeithiol
- Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat, a gwirfoddol eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau;
- Cefnogi'r Cadeirydd i ddatblygu bwrdd unedol effeithiol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Mae'n hanfodol bod Aelod Annibynnol yn dangos y priodoleddau canlynol:-
Cwestiynau i'w hateb fel rhan o'ch cais yn eich datganiad personol, gan ddefnyddio dim mwy na 2 dudalen A4.
Rhowch fanylion eich profiad o arwain a datblygu sefydliad ar lefel uwch-fwrdd neu rôl gyfatebol, a'r meysydd perthnasol o arbenigedd penodol y byddech yn eu cynnig i’r rôl hon.
Drwy enghraifft benodol, dangoswch eich profiad blaenorol ym maes cyllid neu reolaeth fewnol ac o ddwyn eraill i gyfrif tra'n cynnal perthynas dda.
Disgrifiwch y ffyrdd yr ydych wedi cyfrannu at ddatblygu a chyflawni strategaeth, naill ai mewn rôl weithredol â chyfrifoldeb neu mewn rôl anweithredol sy'n goruchwylio.
Dangoswch eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o faterion iechyd yng nghyd-destun Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar lefel cymuned, awdurdod lleol a chenedlaethol.
Rhowch dystiolaeth o'ch sgiliau rhyngbersonol i ddangos eich effaith bersonol a'ch gallu i weithio mewn tîm.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Yr Uned Cyrff Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl aelod annibynnol, cysylltwch ag Emma Woollett, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rhif ffôn: (01639) 683379 E-bost: Emma.Woollett@wales.nhs.uk
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, efallai yr hoffech droi at wefan y Bwrdd Iechyd:
Hafan - Bwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe (gig.cymru)
Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.