Swydd Wag -- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Penodi Aelod Annibynnol (Cyllid) Y Gymraeg yn ddymunol

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Mae pencadlys y Bwrdd Iechyd yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf, ond mae'n darparu gwasanaethau ar draws ardal y Rhondda, Taf Elái, Merthyr Cynon a Phen-y-bont ar Ogwr. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio, felly.
Mae cyfraddau tâl yn destun adolygiad
4
mis

Rôl y corff

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu ac yn comisiynu ystod lawn o wasanaethau iechyd poblogaeth, mewn ysbytai ac yn y gymuned, ar gyfer trigolion y Rhondda, Taf Elái, Merthyr Cynon a Phen-y-bont ar Ogwr.  Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau gofal sylfaenol lleol; Practisau Meddygon Teulu, Practisau Deintyddol, Practisau Optometreg a Fferylliaeth Gymunedol a rhedeg ysbytai, canolfannau iechyd a thimau iechyd cymunedol.  Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn gyfrifol am wneud trefniadau i breswylwyr gael mynediad at wasanaethau iechyd mwy arbenigol lle na ddarperir y rhain o fewn ffin y Bwrdd Iechyd

Disgrifiad o'r swydd

  • Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ei reoli, yn glinigol ac yn gorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol;
  • Gweithredu fel Ymddiriedolwr Corfforaethol Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg;
  • Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd;
  • Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw;
  • Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol;
  • Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau;
  • Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;
  • Gallu cyfrannu at brosesau llywodraethiant ac ariannu’r Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei bod yn agored ac yn onest yn ei gwaith, drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

  • An understanding of health issues and priorities in the Heath Board’s area and the ability to understand the role and work of the Board.
  • Ability to hold the executives to account for performance whilst maintaining a constructive relationship.
  • Ability to provide a knowledgeable, impartial and balanced perspective on a range of sensitive and complex issues;
  • A broad understanding of the information governance requirements required to comply with legislation e.g. Data Protection Act (DPA).
  • An awareness and understanding of equality and diversity issues, particularly as they relate to the health sector.
  •  

 

 


Dyddiadau cyfweliadau

7 Rhagfyr 2020
11 Rhagfyr 2020

Dyddiad cau

06/11/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.