Swydd Wag -- Cadeirydd - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Tŷ Glasbury, Bronllys, Aberhonddu
£44,820 y flwyddyn ynghyd â chostau teithio a chostau eraill, o fewn terfynau rhesymol
15
mis

Rôl y corff

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Powys yw un o siroedd mwyaf gwledig y DU. Er bod y sir yn ffurfio rhyw 25% o ardal ddaearyddol Cymru, dim ond 5% yn unig o'r boblogaeth sydd ganddi.  Mae'r boblogaeth ym Mhowys yn hŷn o'i chymharu â gweddill Cymru ac mae cyfran y bobl hŷn yn cynyddu.  Mae'r boblogaeth oedolion o oedran gweithio yn llai o'i chymharu â Chymru a rhagwelir y bydd nifer y bobl ifanc ac oedolion o oedran gweithio yn gostwng, tra bydd nifer y bobl hŷn yn cynyddu. Rhagwelir y bydd gostyngiad o 8% ym mhoblogaeth Powys erbyn 2039. 

Y Bwrdd
Diben Byrddau'r GIG yw llywodraethu'n effeithiol a thrwy wneud hynny feithrin hyder y cyhoedd a rhanddeiliaid bod eu hiechyd a'u gofal iechyd mewn dwylo diogel. Mae'r atebolrwydd sylfaenol hwn i'r cyhoedd a rhanddeiliaid yn cael ei gyflawni drwy feithrin hyder: 
• Yn ansawdd a diogelwch gwasanaethau iechyd. 
• Bod adnoddau'n cael eu buddsoddi mewn ffordd sy'n sicrhau'r canlyniadau iechyd gorau posibl.
• Bod y gwasanaethau iechyd yn hygyrch ac yn ymatebol. 
• Y gall y cyhoedd lunio gwasanaethau iechyd yn briodol i ddiwallu eu hanghenion.
• Y caiff yr arian cyhoeddus hwnnw ei wario mewn ffordd sy'n effeithlon ac sy'n rhoi gwerth am arian. 

Y tair rôl allweddol y mae’r Bwrdd yn dangos arweinyddiaeth trwyddynt yn ei sefydliad yw: 
• Llunio strategaeth 
• Sicrhau atebolrwydd trwy ddwyn y sefydliad i gyfrif am gyflawni'r strategaeth a thrwy geisio sicrwydd bod systemau rheoli yn gadarn ac yn ddibynadwy. 
• Siapio diwylliant cadarnhaol ar gyfer y Bwrdd a'r sefydliad 

Disgrifiad o'r swydd

Rôl a chyfrifoldebau
Bydd y Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a’i lywodraethiant effeithiol, am gynnal gwerthoedd y GIG, ac am ennyn hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled ardal y Bwrdd Iechyd.    
 
Bydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:- 
• Yn arwain y Bwrdd wrth iddo ddatblygu Gweledigaeth Strategol ar gyfer gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd yn y dyfodol, gan wireddu ac adeiladu ar botensial a sgiliau cynhenid y sefydliad i ddatblygu gwasanaeth arloesol sy’n dangos esiampl, gyda'r nod o wella lles y boblogaeth a gwella’r canlyniadau iddynt;
• Yn cynnig arweiniad effeithiol a gweladwy ar draws cyfrifoldebau'r Bwrdd, yn fewnol drwy'r Bwrdd, ac yn allanol drwy ei gysylltiadau ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd ac yn genedlaethol; 
• Yn sicrhau bod y Bwrdd yn darparu'n effeithiol nodau strategol a gweithredol y Bwrdd Iechyd drwy gyflawni nodau strategol a pholisïau a sicrhau llywodraethiant da;  
• Yn gyfrifol am gynnal yr ansawdd uchaf o ran safonau ac arferion iechyd y cyhoedd, gan wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd; 
• Yn atebol am berfformiad y Bwrdd ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd ac yn genedlaethol, drwy gytuno ar Gynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd a chynllun cyflawni blynyddol, a'r gwerthusiad blynyddol o’r cyraeddiadau yn erbyn y cynllun yn gyhoeddus gan y Gweinidog  Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; 
• Yn sicrhau bod y Prif Weithredwr yn atebol am bob un o'i gyfrifoldebau; 
• Yn gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid, yn arbennig contractwyr gofal sylfaenol a chyrff eraill y GIG, prifysgolion, awdurdodau lleol, y Trydydd Sector a phartneriaid cymdeithasol, i sicrhau bod gwasanaethau diogel ac effeithiol yn cael eu cynllunio a'u darparu; 
• Yn rhoi sicrwydd a threfn lywodraethu ar gyfer gofalu'n briodol am arian cyhoeddus ac adnoddau eraill y mae'r Bwrdd yn atebol amdanynt; 
• Yn rhoi sicrwydd bod y Bwrdd yn cael ei lywodraethu'n effeithiol o fewn y fframwaith a'r safonau sydd ar waith ar gyfer y GIG yng Nghymru, gyda phwyslais arbennig ar sicrhau ei fod yn agored ac yn dryloyw; 
• Yn ymgymryd â rôl fel llysgennad allanol, gan gynrychioli'r Bwrdd yn gyhoeddus ac ennyn hyder y cyhoedd;
• Yn gweithredu fel Ymddiriedolwr Corfforaethol Elusen Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.

Meini Prawf Hanfodol
Gwybodaeth a Phrofiad
• Y gallu i feithrin gweledigaeth ac i arwain y gwaith o ddatblygu strategaethau diffiniedig wrth geisio cyflawni nodau hirdymor a byrdymor;  
• Y gallu i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth, gan ddangos parch at farn pobl eraill; 
• Y gallu i sicrhau bod aelodau'r Bwrdd yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd drwy gymryd rhan mewn proses gadarn a thryloyw o wneud penderfyniadau; 
• Y gallu i ysgogi a datblygu'r Bwrdd i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau er mwyn sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd; 
• Ymrwymiad clir i ddeall a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant;
• Y gallu i ddangos gwerthfawrogiad o ddwyieithrwydd a diwylliant, ac ymrwymiad i hyrwyddo a phrif-ffrydio'r Gymraeg.

Priodoleddau Personol 
• Sgiliau rhyngbersonol a dylanwadu cryf a'r gallu i weithredu fel eiriolwr a llysgennad effeithiol;  
• Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol; 
• Y gallu i fod yn annibynnol ac yn wydn.

Dymunol 
• Y gallu i siarad Cymraeg

Y Gymraeg 
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol, ond bydd disgwyl i bob ymgeisydd ddangos ymrwymiad i’r iaith a'r diwylliant, a dangos arweiniad i gryfhau a hyrwyddo’r ddarpariaeth gwasanaethau dwyieithog o fewn y GIG yng Nghymru.  Dyma lefel y sgil sy'n cael ei hystyried yn ddymunol:
Dymunol 
Deall =     2 - Gall ddeall sgyrsiau sylfaenol am bynciau bob dydd
Darllen =     2 - Gall ddarllen a deall deunydd syml am bynciau pob dydd
Siarad =        3 - Gall gynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Ysgrifennu = 1 - Gall ysgrifennu negeseuon sylfaenol am bynciau pob dydd

Dyddiadau cyfweliadau

18 Gorffennaf 2022
19 Gorffennaf 2022

Dyddiad cau

24/06/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Am fwy o wybodaeth am rôl Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a rôl y Cadeirydd, cysylltwch â: 

Ysgrifennydd Dyddiadur y Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

E-bost: DStoDGforHealthandSocialServicesChiefExecutiveNHSWales@gov.cymru 

James Quance, Ysgrifennydd Dros Dro’r Bwrdd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

E-bost: james.quance2@wales.nhs.uk

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Gatenbysanderson Ltd i gefnogi'r ymgyrch recriwtio hon.  Os hoffech gael trafodaeth gyfrinachol i sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o'ch cais, cysylltwch â Melanie Shearer - melanie.shearer@gatenbysanderson.com (07785 616548) neu Carmel Bell yn carmel.bell@gatenbysanderson.com (07917 826639). 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadau.cyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus. 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.