Swydd Wag -- Penodi Aelod Annibynnol (Cyllid)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ym mis Hydref 2009 ac fe gafodd statws ‘Prifysgol’ ym mis Gorffennaf 2013. Rydym yn gwasanaethu poblogaeth amcangyfrifedig o dros 639,000, sef tua 21% o gyfanswm poblogaeth Cymru.
Gyda chyllideb o £1.5 biliwn rydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen ac i eraill y tu allan i'n ffin ddaearyddol.
Disgrifiad o'r swydd
- Sgiliau a gwybodaeth am systemau ariannol a Rheolaeth Ariannol mewn sefydliadau mawr.
- Dealltwriaeth gadarn o rôl archwilio, llywodraethiant a sicrwydd.
- Y gallu i ddadansoddi ac adolygu achosion busnes a chynigion a chynlluniau ariannol yn feirniadol.
- Profiad o wella perfformiad i sicrhau gwerth am arian.
- Y gallu i gymhwyso eich gwybodaeth arbenigol a'ch sgiliau cyllid ar lefel bwrdd strategol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
- Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd.
- Y gallu i ddwyn cydweithwyr gweithredo a’r sefydliad yn ehangach i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
- Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;
- Dealltwriaeth eang o'r gofynion o ran llywodraethu gwybodaeth sydd eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth ee y Ddeddf Diogelu Data;
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Cysylltiadau:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus / yr Uned Penodiadau Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
Am ragor o wybodaeth am rôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a rôl yr Aelod Annibynnol cysylltwch ag:
Ann Lloyd, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar 01633 435957 neu drwy e-bost yn ann.lloyd@wales.nhs.uk
Neu
Richard Howells, Ysgrifennydd Dros Dro y Bwrdd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar 01633435959 neu drwy e-bost yn abb.boardsecretary@wales.nhs.uk
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.