Swydd Wag -- Aelod Annibynnol (Technoleg Gwybodaeth) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn un o sefydliadau mwyaf y GIG yn Ewrop. Rydym yn cyflogi rhyw 14,500 o staff, ac yn gwario rhyw £1.4 biliwn y flwyddyn ar ddarparu gwasanaethau iechyd a llesiant i boblogaeth o ryw 472,400 o bobl sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg Rydym hefyd yn gwasanaethu poblogaeth ehangach ar draws y De a'r Canolbarth ar gyfer ystod o feysydd arbenigol.
Ein gweledigaeth yw creu cymuned lle nad yw'ch cyfle i fyw bywyd yn iach yn dibynnu ar bwy ydych chi na ble rydych yn byw.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd angen i chi ddangos:
- Dealltwriaeth o sut y gall rheoli gwybodaeth a thechnoleg ddigidol helpu i wella iechyd a gofal cymdeithasol;
- Sut y gellir defnyddio gwybodaeth a data i gefnogi darparu gofal iechyd a chymdeithasol diogel o ansawdd uchel; a
- Dealltwriaeth o lywodraethu gwybodaeth mewn perthynas ag ansawdd, diogelwch, diogeledd a chywirdeb a defnydd effeithiol o wybodaeth;
- Profiad o ddefnyddio technolegau digidol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
- Dealltwriaeth o bolisi a chyd-destun cyfreithiol rheoli gwybodaeth a thechnoleg ddigidol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Bydd angen i chi allu dangos y canlynol hefyd:
Y gallu i “Roi Cleifion yn Gyntaf”.
Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill.
Y gallu i werthfawrogi a pharchu eraill.
Y gallu i gyfathrebu'n agored ac yn onest.
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y priodoleddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer cael eich penodi.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
E-bost y Tîm Penodiadau Cyhoeddus: Penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol, cysylltwch â Charles Janczewski, Caerdydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Ffôn: 029 2183 6011 E-bost: Charles.Janczewski@wales.nhs.uk
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ewch i'w gwefan: http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/home
Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar Penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.