Swydd Wag -- Aelodau Anweithredol (3) - Awdurdod Cyllid Cymru

Manylion y swydd

Awdurdod Cyllid Cymru
Caiff cyfarfodydd Bwrdd a sesiynau briffio eu cynnal, at ei gilydd, ym mhrif swyddfa'r Awdurdod yn Ne-ddwyrain Cymru, a bydd angen teithio i leoliadau cyfagos eraill ar brydiau. Gallwn gynnig cymorth i fynychu cyfarfodydd yn rhithiol, a chymhwyso ymrwymiadau presennol lle y bo'n bosibl. Fodd bynnag, dylech fod yn barod i deithio i bencadlys yr Awdurdod ar gyfer y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd.
Cyfradd ddyddiol o £300, pro rata. 

Gellir hawlio costau teithio o'ch cartref (yn y DU), yn ogystal â threuliau rhesymol eraill yr eir iddynt wrth weithio i'r Awdurdod, fel y nodir ym Mholisi Ffioedd a Delir yr Awdurdod.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i hawlio costau wrth wneud gwaith i'r Awdurdod, er enghraifft costau sy'n ymwneud â gofalu am ddibynyddion. 

Ystyrir bod pob Aelod Anweithredol yn 'ddeiliad swydd' at ddibenion treth ac yswiriant gwladol. Oherwydd hynny, codir treth ar ffioedd sy'n daladwy o dan Atodlen E i'r Ddeddf Trethi a byddant yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1. Caiff 
y rhwymedigaethau hyn eu didynnu drwy gyflogres Llywodraeth Cymru a thelir ffi net. Ni chodir TAW ar ffioedd
2
mis

Rôl y corff

Mae ein Bwrdd yn atebol am gyflawni'r swyddogaethau treth a ddirprwyir i'r Awdurod yn briodol. Mae'n rhoi sicrwydd bod gan yr Awdurdod drefniadau llywodraethu priodol ar waith a'i fod yn cael ei reoli'n addas ac yn defnyddio'i adnoddau er mwyn cyflawni'r 
dyletswyddau sy'n deillio o'r swyddogaethau treth. 

Mae ein Bwrdd yn rhoi cyfeiriad strategol i'r sefydliad ac yn cefnogi'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu i gyflawni ei rôl. 

Mae'r aelodau'n atebol i'r Senedd a Gweinidogion Cymru ac er bod y Bwrdd yn dirprwyo swyddogaethau i staff yr Awdurdod, fel y pennir yn y rhestr o ddirprwyaethau mewnol, erys yn atebol am gyflawni'r swyddogaethau hynny. 


Ein ffyrdd o weithio

Mae ein Bwrdd yn cynnwys Aelodau Gweithredol, Aelodau Anweithredol ac Aelod a gaiff ei Ethol gan y Staff. Gyda'i gilydd, maent yn goruchwylio gwaith y sefydliad, gan daro cydbwysedd iach rhwng herio'r sefydliad a'i gefnogi. Fel grŵp arwain, mae hefyd 
yn ddylanwadol wrth lywio'r diwylliant a'r ffyrdd o weithio rydym am eu gweld yn ein sefydliad, fel arloesi, cydweithredu a charedigrwydd.

Disgrifiad o'r swydd

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn Adran anweinidogol LlC. Ei swyddogaeth a'i gyfrifoldeb cyffredinol yw casglu a rheoli trethi datganoledig Trafodiadau Tir a'r Gwarediadau Tirlenwi. Yn y cyd-destun hwn, pwrpas cyffredinol ACC yw:

  • dylunio a darparu gwasanaethau refeniw cenedlaethol Cymru; ac
  • arwain ar y gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru.

Fel aelod o Fwrdd yr Awdurdod, bydd eich rôl yn cynnwys y canlynol: 

  • darparu arweiniad strategol, gweledigaeth a chyfeiriad 
  • cefnogi'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu i graffu'n drylwyr a cheisio sicrwydd bod yr amcanion sefydliadol yn cael eu bodloni
    cefnogi a herio'r uwch dîm
  • darparu cymorth yn ystod cyfnodau anodd o newid sefydliadol
  • bod yn onest ac yn agored am risgiau a phroblemau
  • hybu diwylliant cadarnhaol yn Ystafell y Bwrdd a'r tu allan iddi
  • gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill
  • gwerthfawrogi statws y sefydliad fel adran anweinidogol o'r llywodraeth

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Dim sgiliau
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Rydym am benodi hyd at dri Aelod Bwrdd newydd, a all ddod o ystod eang o gefndiroedd gwaith a/neu wirfoddoli o ran profiad. 

Er ei bod yn ofynnol bod gan o leiaf un o'r Aelodau Bwrdd newydd gefndir ym maes cyllid neu gyfrifyddu, byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad neu gefndir yn y meysydd canlynol:

- cyllid ac archwilio 
- data 
- gweithio mewn sefydliad digidol neu gyda sefydliad o'r fath 
- strategaeth a meddwl yn strategol 
- amrywiaeth a chynhwysiant
- dylunio a/neu ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
- corfforaethol neu reoli busnes 

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan unigolion â chefndiroedd a phrofiadau perthnasol eraill a fydd yn ein helpu i ddysgu a thyfu. 

Meini prawf hanfodol

Ni fydd angen profiad blaenorol o eistedd ar Fwrdd er mwyn gwneud cais am y rolau hyn. Mae'r meini prawf isod yn cwmpasu'r gwerthoedd, sgiliau ac ymddygiadau a'r profiad sydd eu hangen arnom er mwyn gweithredu orau fel Bwrdd. 

Gwerthoedd personol

- uniondeb personol o'r safon uchaf 
- ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Sgiliau ac ymddygiadau 
- gallu i gymhwyso eich profiad a'ch safbwyntiau personol er mwyn helpu i gefnogi datblygiad yr Awdurdod
- gallu i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth reoli a gwybodaeth ariannol er mwyn nodi'r materion allweddol a chanolbwyntio arnynt
- gallu i herio'n adeiladol, gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cadarn
- gallu i ddatblygu a meithrin cydberthnasau gwaith cadarnhaol 
- awydd i helpu i ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus y gall Cymru fod yn falch ohonynt ac ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar Gymru 

Profiad

Un o'r canlynol:

- profiad o lywodraethu da mewn llywodraeth neu sefydliadau tebyg, gan gynnwys prosesau rheoli risg neu archwilio a sicrwydd, neu 
- gallu i feithrin y ddealltwriaeth hon yn gyflym, gyda'n cymorth.

Dyddiadau cyfweliadau

20 Medi 2021
27 Medi 2021

Dyddiad cau

01/08/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cyfweliad ac asesu
Bydd yr ymgeiswyr sy'n pasio'r sifft yn cael eu gwahodd am gyfweliad ac asesiad. 

Bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer y rôl a bydd yn efelychu trafodaeth ag aelodau Bwrdd yr Awdurdod neu'r staff. 

Rhoddir gwybodaeth lawn ymlaen llaw i'r rhai a gaiff eu gwahodd am gyfweliad. 

Ym mhob cyfweliad, bydd y panel yn gofyn cwestiynau am eich sgiliau a'ch profiad, a all fod mewn cyflogaeth flaenorol neu bresennol neu mewn gwaith gwirfoddol, yn ogystal â'ch cryfderau a'ch dewis ffyrdd o weithio. Bydd y cwestiynau yn asesu a 
ydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol a gyhoeddwyd ar gyfer y rôl hon.


Cwestiynau
Byddem yn falch o gael trafodaeth anffurfiol â chi am rôl yr Awdurdod a'r Bwrdd i'ch helpu i benderfynu a yw hwn yn addas i chi. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl, anfonwch e-bost at ceoffice@wra.gov.wales a bydd rhywun yn trefnu i chi 
siarad ag aelod gweithredol o'r Bwrdd. 

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, neu ragor o gymorth i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â:

Penodiadau Cyhoeddus, Yr Uned Cyrff Cyhoeddus 
E-bost: Penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru 
 
Am ragor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i: 



I gael rhagor o wybodaeth am waith ACC, ewch i: 

Awdurdod Cyllid Cymru | LLYW.CYMRU.


Os nad ydych yn hollol fodlon
Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio prosesu pob cais mor gyflym â phosibl a thrin pob ymgeisydd â chwrteisi. Os bydd gennych unrhyw gwynion am y ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus drwy Penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.