Swydd Wag -- Comisynydd Traffig Cymru

Manylion y swydd

Adran Drafnidiaeth
Caerdydd neu Gaernarfon
£101,287 y flwyddyn (Mae cyflogau Comisiynwyr Traffig ynghlwm wrth bolisi cyflogau’r sector cyhoeddus ar gyfer y farnwriaeth).
5
wythnos

Rôl y corff

Y Comisiynwyr Traffig sy’n gyfrifol am drwyddedu a rheoleiddio’r rheiny sy’n gyrru cerbydau nwyddau trwm, bysiau a choetsis, a chofrestru gwasanaethau bysiau lleol. Gall Comisiynwyr Traffig Prydain Fawr wrando ar achosion yn enwedig apeliadau a chwynion o feysydd traffig eraill sy'n cael eu dirprwyo gan yr Uwch-gomisiynydd Traffig, ac felly gall gynnal y dyletswyddau mewn unrhyw fan ym Mhrydain. Fe’u cynorthwyir yn y gwaith hwn gan ddirprwy Gomisiynwyr Traffig, sy’n llywyddu dros nifer o ymchwiliadau cyhoeddus ac sy’n delio ag achosion ysgrifenedig. Mae gwaith fel Comisiynydd neu Ddirprwy yn cael ei gydnabod gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol fel gwaith sy'n cyfateb i brofiad mewn tribiwnlys.

Disgrifiad o'r swydd

Meini Prawf Hanfodol ar gyfer y swydd yng Nghymru yn unig: Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ond byddwn yn ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt eisoes yn meddu ar y sgiliau hyn ond sy’n barod i ymrwymo i ddysgu’r Gymraeg. Dylai’r ymgeiswyr fod yn gyfreithwyr neu’n fargyfreithwyr.  

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Dylai’r ymgeiswyr fod yn gyfreithwyr neu’n fargyfreithwyr.  

Dyddiadau cyfweliadau

21 Hydref 2019
21 Hydref 2019

Dyddiad cau

27/08/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.