Swydd Wag -- 3 x Aelodau Anweithredol - S4C (Sianel Pedwar Cymru)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae Bwrdd S4C yn cynnwys y Cadeirydd a hyd at wyth aelod arall, bob un ohonynt wedi’u penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Daw aelodau â sgiliau a phrofiad amrywiol i’r Bwrdd, er bod disgwyl i bob un ohonynt sicrhau bod S4C yn cyflawni ei gorchwyl o ran gwasanaeth cyhoeddus a bod arian cyhoeddus ac arian o ffi’r drwydded a ddyrennir i S4C yn cael eu defnyddio’n briodol.
Bydd hefyd yn ofynnol i Aelodau’r Bwrdd sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus S4C yn cael eu darparu yn unol â gorchwyl statudol S4C a darpariaethau’r Cytundeb Partneriaeth presennol y cytunwyd arno rhwng S4C a’r BBC.
Disgrifiad o'r swydd
Mae disgwyl i Aelodau’r Bwrdd wneud y canlynol:
- Gweithredu ar y cyd fel bwrdd unedol S4C a rhoi cymorth a chyngor, a hefyd sicrhau bod y Prif Weithredwr a’i dîm gweithredol yn cael eu herio’n briodol a’u dal i gyfrif.
- Rhoi cymorth i’r Cadeirydd, ar y cyd â’r Prif Weithredwr, wrth oruchwylio’r berthynas â’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), y BBC, Ofcom a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a’r sector cynhyrchu annibynnol.
- Cyflawni dyletswyddau ymgysylltu â’r cyhoedd fel y bo angen ar ran S4C, gan gynnwys cyfarfodydd ac achlysuron cyhoeddus ledled Cymru.
- Mynychu cyfarfodydd y Bwrdd ac unrhyw gyfarfodydd/diwrnodau arbennig, a mynychu is-bwyllgorau’r Bwrdd fel y bo angen.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Mae’r Bwrdd yn ceisio sicrhau bod ei aelodau, rhyngddynt, yn gallu tynnu ar ystod eang o arbenigedd a gwybodaeth mewn meysydd arbennig sy’n berthnasol i waith S4C. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:
- Darlledu, cyfryngau digidol a’r diwydiannau creadigol ehangach
- Yr iaith Gymraeg
- Cyfathrebu a marchnata
- Busnes a masnach
- Cyllid, archwilio a sicrwydd
Yn dilyn yr adolygiad annibynnol o S4C a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018, mae llywodraethu S4C bellach yn seiliedig ar fodel Bwrdd Unedol (yn lle’r Bwrdd Awdurdod Anweithredol blaenorol). Hyd nes y cyflwynir deddfwriaeth sylfaenol i hwyluso nifer o elfennau’r strwythur arfaethedig, bydd y Bwrdd yn gweithredu fel Bwrdd Unedol Cysgodol yn unol â Rheolau Sefydlog newydd y Bwrdd. Disgwylir i’r Aelodau a benodir barhau yn eu swyddi pan gaiff y bwrdd statudol ei ffurfio.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais, i wneud cais, anfonwch y canlynol at philip.hodges@dcms.gov.uk
● CV, heb fod yn fwy na dwy ochr A4;
● Datganiad ategol, heb fod yn fwy na thair ochr A4, gan roi enghreifftiau a nodi sut rydych yn bodloni’r meini prawf; a
Nodwch ‘Aelod S4C’ yn y llinell Pwnc. Os hoffech siarad â rhywun am y broses ymgeisio a phenodi, cysylltwch â Phil Hodges yn yr Adran DCMS ar 020 7211 2898 (cyfeiriad e-bost: philip.hodges@dcms.gov.uk).
I siarad â rhywun am S4C a’i Bwrdd, cysylltwch ag Owain Lloyd, Ysgrifennydd Bwrdd S4C (Owain.Lloyd@s4c.cymru).
Ceir gwybodaeth bellach ar wefan S4C yn http://www.s4c.cymru/cy/
Hyderus Ynghylch Anabledd Rydym yn eich sicrhau y byddwn yn rhoi cyfweliad i unrhyw un ag anabledd y mae ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. O ddefnyddio’r term ‘meini prawf sylfaenol’, rydym yn golygu bod yn rhaid i chi roi tystiolaeth yn eich cais sy’n dangos eich bod yn bodloni lefel y cymhwysedd sy’n ofynnol o dan bob un o’r meini prawf hanfodol. Os hoffech wneud cais drwy’r cynllun hwn, nodwch hyn yn yr e-bost neu’r llythyr eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.