Swydd Wag -- Tri Aelod - Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru
Manylion y swydd
eraill o fewn rheswm].
Rôl y corff
Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn dal i fod yn gorff
cymharol ifanc ac, o dan arweinyddiaeth y Prif Swyddog Gweithredol, Mrs Tegwen
Ellis, mae wedi wynebu heriau argyfwng Covid-19 yn ddewr drwy weledigaeth, ysbryd
ac ymrwymiad deinamig a hyblyg. Sefydliad bach ydym sy’n ymfalchïo yn y ffaith ein
bod yn cydweithio â rhanddeiliaid, ochr yn ochr â chyrff eraill ar draws yr haen ganol,
ac ag arweinwyr yn y system. Mae ein model cyswllt yn sicrhau ein bod yn cadw llygad
parhaus a manwl ar anghenion arweinwyr y system addysg ledled Cymru, ac yn ein
galluogi i nodi unrhyw fylchau posibl o ran gwybodaeth a darpariaeth ar gyfer yr
arweinwyr hynny.
Er gwaethaf y pandemig byd-eang, mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod cyffrous i
addysg yng Nghymru. Mae trawsnewid y cwricwlwm yn dod â'i heriau ei hun i
arweinwyr, ac rydym wedi ymrwymo i gynnal ffocws uchelgeisiol iawn i gefnogi'n llawn
y newidiadau a ddaw yn sgil y newid hwn. Fel corff sy'n galluogi, un o nodweddion
allweddol ein rôl yw sicrhau mynediad cyfartal i gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth o
ansawdd uchel. Rydym yn parhau â'n hymrwymiad i wneud hyn, boed hynny drwy
gymeradwyo darpariaeth sy'n bodloni safonau uchel o ran sicrhau ansawdd neu drwy
ledaenu arfer gorau, nid dim ond o Gymru, ond a nodwyd yn fyd-eang.
Un o'r prif elfennau rydym wedi canolbwyntio arni drwy gydol y 18 mis diwethaf yw lles
pob arweinydd, ac rwy'n teimlo balchder yn y ffaith bod gwaith caled y tîm bach wedi
cael ei gydnabod gan Fuddsoddwyr mewn Pobl drwy'r Achrediad Aur ar gyfer gwobr
Rydym yn Buddsoddi mewn Lles. Rydym yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i
gydraddoldeb, amrywiaeth a thryloywder yn ein gwaith, a byddem yn croesawu ac yn
annog ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar lefel Bwrdd - rydym
hefyd yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt efallai wedi gweithredu fel aelod o
Fwrdd o'r blaen
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i fod ym maes addysg, a hoffem eich croesawu i'n tîm i
helpu i feithrin ac ysbrydoli arweinwyr addysgol nawr ac yn y dyfodol.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd disgwyl i'r Bwrdd herio, cefnogi a darparu persbectif a phrofiad allanol. Y nod yw
cael Bwrdd sydd, ar y cyfan, ag ystod amrywiol o sgiliau a phrofiadau bywyd perthnasol
a fydd yn ei alluogi i ddatblygu barn gyfunol ar faterion, gan ddarparu'r ysgogiad ar
gyfer gwelliant parhaus o fewn y sefydliad er budd ei gwsmeriaid a’r gymdeithas
ehangach.
Felly, rydym yn chwilio am fwrdd sy'n seiliedig ar sgiliau, a rhoddir rhestr o’r arbenigedd
gofynnol penodol isod. Bydd angen i Aelodau'r Bwrdd ddarparu cefnogaeth ac
arbenigedd i sefydliad cymharol newydd, gan roi ymdeimlad clir o gyfeiriad a phwrpas.
Bydd angen iddynt ddatblygu dealltwriaeth gref o rôl, cylch gwaith a chyrhaeddiad
posibl yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, a'i rôl bwysig wrth
ddiwygio addysg yng Nghymru.
Bydd disgwyl i holl aelodau'r Bwrdd:
Ddarparu cyfeiriad ac arweinyddiaeth strategol, gyrru perfformiad a dwyn yr
Academi i gyfrif yn erbyn ei gynlluniau strategol a chorfforaethol.
Sicrhau priodoldeb, rheoleidd-dra, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth
weithredu'r corff a glynu wrth 7 egwyddor bywyd cyhoeddus (egwyddorion
Nolan).
Ynghyd ag aelodau eraill y Bwrdd, sicrhau a chefnogi'r Academi i gyflawni ei
nodau a'i amcanion.
Hyrwyddo’r sefydliad, a'i nodau a'i amcanion. Bod yn esiampl i staff a
rhanddeiliaid.
Gweithio ar y cyd i feithrin perthynas â'r holl randdeiliaid a sicrhau bod llais
rhanddeiliaid yn cael ei glywed yn glir wrth redeg yr Academi
Bydd hyn yn cynnwys y canlynol:
Craffu ar berfformiad a’i fonitro yn erbyn cynlluniau busnes strategol a
chorfforaethol
Craffu a llywodraethu’n effeithiol yn unol ag arfer gorau
Cynrychioli’r Academi yn allanol a meithrin perthynas waith agos â rhanddeiliaid
allweddol, gan gynnwys y grŵp sy’n cynrychioli rhanddeiliaid.
Ceisio gwneud cysylltiadau â meysydd eraill o fewn y system addysg, gan
sicrhau bod yr Academi yn datblygu ar y cyd â diwygiadau addysg.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Mae'r sgiliau a'r profiadau rydym yn chwilio amdanynt wedi'u nodi isod. Er mwyn cael
eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i
fodloni pob un o feini prawf hanfodol y rôl.
Meini Prawf Hanfodol
Bydd angen i bob ymgeisydd ddangos y canlynol:
Sgiliau dadansoddi rhagorol a gallu deallusol, a'r gallu hefyd i wneud
penderfyniadau a chyfrannu'n effeithiol at drafodaeth am faterion strategol ac
ymarferol;
Sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i gynrychioli'r Academi Genedlaethol ar gyfer
Arweinyddiaeth Addysgol yn gyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol;
Y gallu i ddod â syniadau newydd i drafodaethau gan sicrhau ar yr un pryd bod
yr Academi yn cadw at y nodau y mae wedi’u datgan a bod ganddi drefniadau
llywodraethiant effeithiol;
Ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth.
Byddai gwybodaeth a/neu brofiad mewn un neu fwy o'r meysydd canlynol yn ddymunol:
Profiad o redeg busnes, gweinyddiaeth gyhoeddus ar lefel uwch, gweithio i elusen
neu fod yn ymddiriedolwr
Diddordeb mewn addysg yng Nghymru a gwybodaeth amdani – gall hyn gynnwys
Gwaith Ieuenctid a/neu Addysg Bellach
Gwybodaeth am TG a Thechnoleg a'i rôl mewn dysgu proffesiynol
Dealltwriaeth o Adnoddau Dynol (a all gynnwys profiad o hyrwyddo cydraddoldeb
ac amrywiaeth neu gefnogi lles staff)
Y gallu i siarad Cymraeg
Ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg.
Dylai ymgeiswyr sy'n gallu cynnig arbenigedd mewn un neu fwy o'r meysydd hyn
ddangos hyn yn glir ar eu cais. Byddai croeso hefyd i geisiadau gan unigolion sydd â
chefndiroedd a phrofiadau perthnasol eraill a fydd yn helpu'r Bwrdd i ddysgu a thyfu
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.