Swydd Wag -- Ymddiriedolwyr-Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Manylion y swydd

Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Mae’n bosibl y bydd angen teithio i’r gyfarfodydd Bwrdd, Pwyllgorau, digwyddiadau a chyfarfodydd eraill ledled Cymru er y gallai fod hyblygrwydd i ganiatáu presenoldeb rhithwir yn ogystal â phersonol.

Nid yw ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru’n cael eu talu, ond gallant hawlio costau teithio a chynhaliaeth.

Y Gymraeg
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer un o'r ddwy swydd wag. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau o bobl sydd wedi’u lleoli yn neu sydd ag 
pherthynas â Gogledd Cymru ag/neu sy’n siarad Cymraeg. 

12
blwyddyn

Rôl y corff

Amgueddfa Cymru yw un o brif sefydliadau diwylliannol a chenedlaethol Cymru. Mae 1.9 miliwn o bobl yn ymweld ag Amgueddfa Cymru bob blwyddyn.


Wedi'i sefydlu gan Siarter Frenhinol yn 1907, Amgueddfa Cymru yw un o'r amgueddfeydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig, a'r sefydliad diwylliannol pwysicaf yng Nghymru. Mae'r Amgueddfa yn geidwad casgliadau amrywiol a rhyngwladol bwysig,ac yn arwain ar addysg a chyfranogi diwylliannol. 

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Amgueddfa Werin Cymru: Sain Ffagan; Y Pwll Mawr: Yr Amgueddfa Lo Genedlaethol ym Mlaenafon; Yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nhre-fach, Felindre; Amgueddfa'r Lleng Brydeinig yng Nghaerllion; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae gan Amgueddfa Cymru Ganolfan Casgliadau Cenedlaethol hefyd ger Caerdydd. Mae dros 5 miliwn o eitemau unigol yn ein casgliadau, yn cynnwys gwaith celf a dylunio, hanes ac archaeoleg, a'r gwyddorau naturiol.

Caiff Amgueddfa Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, fel Corff a Noddir, ac mae ganddi Fwrdd o Ymddiriedolwyr sydd â'r swyddogaeth o bennu cyfeiriad strategol y sefydliad, ac o sicrhau bod yr adnoddau yn cael eu rheoli yn iawn.

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i ni i gyd

Ein gweledigaeth yw ysbrydoli pobl drwy amgueddfeydd a chasgliadau cenedlaethol Cymru i ddod o hyd i ymdeimlad o les a hunaniaeth, i ddarganfod, mwynhau a dysgu’n ddwyieithog, ac i ddeall lle Cymru yn y byd ehangach.

Credwn fod gan bawb yr hawl i gymryd rhan ym mywyd diwylliannol eu cymunedau a’u cenedl. Rydym wedi bod yn datblygu strategaeth ddeng mlynedd newydd ar gyfer yr Amgueddfa – Amgueddfa Cymru 2030 – sy’n cynnwys chwe ymrwymiad clir. Byddwn yn gweithio gyda phobl a chymunedau ledled Cymru, drwy gasgliadau, rhaglenni cyhoeddus a phartneriaethau, i:

• Sicrhau fod pawb yn cael eu cynrychioli
• Ysbrydoli creadigrwydd a dysgu am oes
• Helpu i warchod ac adfer byd natur a'n hamgylchedd
• Cefnogi lles trwy fannau a phrofiadau ysbrydoledig
• Darganfod ac archwilio'r amgueddfa yn ddigidol
• Adeiladu cysylltiadau byd-eang.

Disgrifiad o'r swydd

Swyddogaeth Ymddiriedolwr 

Mae’r Ymddiriedolwyr yn cefnogi’r Cyfarwyddwr Cyffredinol i roi gweledigaeth strategol yr Amgueddfa ar waith a chyflawni’r amcanion a nodir gan Lywodraeth Cymru yn Llythyr Cylch Gwaith Amgueddfa Cymru.

Mae'n rhaid i Ymddiriedolwyr hefyd:

• fynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a pharatoi'n drylwyr ar eu cyfer;
• gwasanaethu ar is-bwyllgorau;
• cefnogi rheolwyr a staff yr Amgueddfa yn eu gwaith;
• cynrychioli'r Amgueddfa mewn digwyddiadau cyhoeddus;
• hyrwyddo proffil yr Amgueddfa;
• rhoi eu profiad a'u harbenigedd i'r Amgueddfa;
• hwyluso'r cysylltiadau gyda rhanddeiliaid yr Amgueddfa; a
• chyfrannu at y gwaith o lunio polisïau a strategaethau a phennu blaenoriaethau i fodloni amcanion cyffredinol yr Amgueddfa.

Mae gofyn i Ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol hefyd o’r rhwymedigaethau sydd arnynt yn sgil y ffaith bod yr Amgueddfa yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Caiff y rhain eu nodi yn y Ddogfen Fframwaith, sy'n nodi'r Telerau a'r Amodau sy'n gysylltiedig â'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r Amgueddfa.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Dylech fedru defnyddio eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad byw neu broffesiynol i ddarparu tystiolaeth o’ch gallu yn y meysydd canlynol:

• ymrwymiad a brwdfrydedd yng ngwaith yr Amgueddfa i gefnogi newid a datblygiad yng Nghymru drwy gyfraniadau diwylliannol;
• dealltwriaeth a diddordeb yn y sector diwylliannol yn ei gyfanrwydd a sensitifrwydd ynghylch materion diwylliannol;
• ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol lle bo hynny’n briodol. 

YMDDIRIEDOLWR - MEINI PRAWF HANFODOL

Dylai ymgeiswyr fedru dangos bod ganddynt:

• bod â phrofiad byw a/neu brofiad proffesiynol o amrywiaeth ac anghydraddoldeb;
• yn gallu gweithio gydag Amgueddfa Cymru i sicrhau bod ei gwaith yn cefnogi llesiant cymunedau amrywiol ledled Cymru yn gadarnhaol;
• yn gallu cryfhau cynrychiolaeth ranbarthol ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru;
• wedi ymrwymo i ffyrdd strategol, sensitif a chydweithredol o weithio;
• ymrwymiad i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan
• Dylai fod gan ymddiriedolwyr ddiddordeb byw yng ngweithgareddau’r Amgueddfa, ei rôl fel sefydliad dysg, ei datblygiad a’i chynaliadwyedd yn y 
dyfodol, a dylent ddeall y cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth fod yn rhan o Fwrdd.

Dyddiadau cyfweliadau

23 Awst 2022
26 Awst 2022

Dyddiad cau

01/08/22 12:00

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd y panel cyfweld yn asesu CV a datganiad personol pob ymgeisydd i benderfynu pwy sy'n bodloni meini prawf y rôl orau, a phwy fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Bydd y panel yn dibynnu ar yr wybodaeth yn eich CV a'r datganiad i asesu a ydych yn meddu ar y sgiliau a'r profiad gofynnol. Cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn darparu tystiolaeth i ddangos sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.