Swydd Wag -- Cyngor y Gweithlu Addysg Penodi aelodau (6)

Manylion y swydd

Cyngor y Gweithlu Addysg
Bydd angen cyfuniad o fod yn bresennol yn bersonol ac yn rhithiol. Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd a chynhelir cyfarfodydd rhithiol drwy Microsoft Teams.

Ni fydd aelodau'n cael eu talu am eu gwasanaethau ond bydd costau teithio a chynhaliaeth yr eir iddynt yn cael eu had-dalu. Gall aelodau'r cyngor sy'n hunangyflogedig neu mewn cyflogaeth dan gontract lle mae cyflenwi ychwanegol yn cael ei drefnu gan y cyflogwr (am gost ychwanegol iddynt) hawlio cyfradd ddyddiol sefydlog i hwyluso rhyddhau'r aelod.

12
blwyddyn

Rôl y corff

Beth yw’r Cyngor?

Cyngor y Gweithlu Addysg yw rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru. Gyda dros 80,000 o gofrestriadau, dyma gorff rheoleiddio mwyaf Cymru ac mae ganddo'r gofrestr ehangaf o ymarferwyr addysg yn y byd.

Prif amcanion Cyngor y Gweithlu Addysg yw:
• cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru;
• cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymhlith athrawon a phersonau sy'n cefnogi a ddysgu a dysgu yng Nghymru; a
• diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni a'r cyhoedd a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.

Beth mae’r Cyngor yn ei wneud?

Prif swyddogaethau'r Cyngor yw:
• sefydlu a chynnal Cofrestr Ymarferwyr Addysg;
• cadw Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg;
• ymchwilio i, a gwrando ar, honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu droseddau perthnasol a allai fwrw amheuaeth ar briodoldeb ymarferydd i ymarfer;
• achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon a monitro eu cydymffurfiaeth â meini prawf cenedlaethol;
• darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ac eraill ynghylch materion sy'n gysylltiedig â'r gweithlu addysg ac addysgu a dysgu;
• monitro sefydlu a gwrando ar apeliadau sefydlu (lle y bo’n berthnasol) ar gyfer athrawon;
• hybu gyrfaoedd yn y gweithlu addysg;
• ymgymryd â gwaith penodol mewn perthynas ag addysgu a dysgu ar gais Llywodraeth Cymru.

Beth yw rôl y Cyngor?

Yn unigol, a gyda’i gilydd, disgwylir i aelodau'r Cyngor:
• sicrhau y caiff safonau uchel eu cadw bob amser o ran gweinyddu a gwneud penderfyniadau;
• rhoi trywydd strategol cyffredinol i’r Cyngor drwy oruchwylio'r gwaith o lunio’r Cynllun Strategol;
• sicrhau'r canlyniadau disgwyliedig drwy fonitro perfformiad yn erbyn amcanion a thargedau strategol y cytunwyd arnynt;

sicrhau nad yw'r Cyngor yn gweithredu tu hwnt i'w bwerau a’i swyddogaethau, boed wedi’u diffinio’n statudol neu fel arall, neu unrhyw gyfyngiadau ar wariant a nodir yn nhelerau ac amodau ariannol Llywodraeth Cymru;
• gweithredu'n annibynnol fel unigolion a bod yn ymwybodol o beidio â chyfleu barn eu cyflogwyr/sefydliadau y mae ganddynt gysylltiad â hwy.
• parchu penderfyniadau a pholisïau’r Cyngor yn gyhoeddus. Rhaid i'r aelodau weithio'n gyfrifol gydag aelodau eraill a rhaid iddynt drin ei gilydd gyda chwrteisi a pharch i hybu perthynas weithio adeiladol.Mae gan Gyngor y Gweithlu Addysg y pwyllgorau sefydlog canlynol, sy'n cynnwys aelodau'r Cyngor:
• Pwyllgor Gweithredol;
• Pwyllgor Cofrestru a Rheoleiddio
• Pwyllgor Archwilio a Chraffu

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith y Cyngor drwy anfon e-bost at gwybodaeth@cga.cymru neu drwy fynd i http://www.cga.cymru

Disgrifiad o'r swydd

Mae gan y Cyngor 14 aelod gan gynnwys y Cadeirydd. Etholir y Cadeirydd o blith ei aelodaeth yn unol â Deddf Addysg (Cymru) 2014 a Rheolau Sefydlog y Cyngor. Mae aelodau'n cynrychioli amrywiaeth o fuddiannau’r gweithlu addysg yng Nghymru. Mae'r Cyngor yn gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg ac yn gyfrifol am ei lywodraethu. Mae disgwyl i aelodau'r Cyngor gyflwyno barn annibynnol i ysgwyddo strategaeth, perfformiad ac atebolrwydd y Cyngor. Rhaid i aelodau weithredu'n gorfforaethol er budd y Cyngor sydd yn ei dro yn gweithredu er budd ehangach ymarferwyr cofrestredig, dysgwyr a'r cyhoedd yn hytrach nag er budd etholaeth benodol. Dylai aelodau wneud penderfyniadau er budd y Cyngor heb ffafrio unrhyw fudiad neu gymdeithas, boed yn addysgol neu fel arall. Rhaid i'r aelodau gofio bob amser yr angen am onestrwydd ym mhob peth y maent yn ei wneud. Mae gan aelodau gyfrifoldeb corfforaethol dros sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol ar gyfer defnyddio arian cyhoeddus a'i incwm o'r ffioedd cofrestru. Mae disgwyl i bob aelod gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Gorau ar gyfer Aelodau'r Cyngor. At hynny, fel y pennir ym mharagraff 3(5) o Atodlen 1 Deddf Addysg (Cymru) 2014, mae aelodau'r Cyngor yn gweithredu fel unigolyn ac nid fel cynrychiolydd unrhyw sefydliad neu gorff y maent yn perthyn iddo, nac unrhyw berson, sefydliad neu gorff a'u henwebodd.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi.

Y meini prawf hanfodol bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos i'r panel dethol yw:
1. dealltwriaeth o swyddogaethau ac amcanion strategol Cyngor y Gweithlu Addysg, a blaenoriaethau ei randdeiliaid.
2. y gallu i ddarllen a dadansoddi dogfennau a chyfrannu at drafodaethau ar lefel strategol.
3. cyfathrebu effeithiol, gan arddangos y gallu i wrando, dylanwadu a herio'n adeiladol.
4. y gallu i feithrin perthynas a gweithio effeithiol fel rhan o dîm, gan feithrin ymddiriedaeth a hyder mewn cydweithwyr.
5. ymrwymiad i faterion cydraddoldeb, ac adnabod a herio arferion gwahaniaethu.
6. dealltwriaeth o ac empathi tuag at y Gymraeg ac ymrwymiad i gydymffurfiaeth y Cyngor â Safonau'r Gymraeg.
7. ymrwymiad i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan a'r egwyddorion ychwanegol a amlinellir yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001.

Mae'r EWC wedi ymrwymo i hybu'r Gymraeg ac yn cadw at Safonau'r Gymraeg. Felly, mae'n ddymunol i ymgeiswyr feddu ar sgiliau iaith Gymraeg i ymgymryd â dyletswyddau aelod o'r Cyngor.

Dyddiadau cyfweliadau

30 Ionawr 2023
3 Chwefror 2023

Dyddiad cau

09/11/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.