Swydd Wag -- Aelod

Manylion y swydd

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Cynhelir y cyfarfodydd yng Nghaerdydd a ledled Cymru
Aelod - £198 y dydd. Caniateir i Aelodau hefyd hawlio costau teithio ac unrhyw gostau rhesymol eraill o fewn terfynau rhesymol
1
mis

Rôl y corff

Penodwyd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ym mis Ionawr 2008 gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru ar y pryd, yn dilyn ymarfer recriwtio cyhoeddus.

Mae'r Panel yn annibynnol o lywodraeth ganolog a lleol ac fe’i sefydlwyd ar sail barhaol i ddechrau i bennu ystod a lefelau'r lwfansau sy'n daladwy gan gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol i'w cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig â hawliau pleidleisio.

Roedd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn darparu y bydd panel o bobl o'r enw Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn parhau, ac ymestynnwyd ei gylch gwaith i gynnwys cynghorau cymuned, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub hefyd. Estynnwyd cylch gwaith y Panel ymhellach yn 2014, a gall y Panel wneud argymhellion ynghylch unrhyw gynnig i newid cyflog y Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig a'r Prif Swyddogion Tân pan fo angen. 

Disgrifiad o'r swydd

Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru wrth osod ystod ac uchafswm lefel y lwfansau sy'n daladwy i: 

  • Aelodau etholedig prif gynghorau
  • Aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
  • Aelodau Awdurdodau Tân ac Achub Cymru
  • Y rhai a etholwyd i gynghorau tref a chymuned 

Mae'r Panel yn chwarae rhan bwysig wrth benderfynu ystod ac uchafswm y lwfansau sy'n daladwy gan awdurdodau lleol i'w cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig yng Nghymru.  


Rôl a chyfrifoldebau

Mae'n ofynnol i'r Panel lunio adroddiad blynyddol, a fydd yn pennu lefel y lwfansau a delir i gynghorwyr ac aelodau'r sefydliadau uchod. Gall y Panel gynhyrchu Adroddiadau Atodol ar unrhyw amser os yw'n credu bod hynny'n angenrheidiol. Wrth baratoi ei adroddiadau, mae angen i'r Panel ystyried effaith ariannol debygol ei benderfyniadau ar yr awdurdod dan sylw. Bydd aelodau'r Panel hefyd yn ystyried unrhyw newidiadau a awgrymwyd i gyflog y Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig a Phrif Swyddogion cynghorau yn ôl y gofyn. 


Disgrifiad o rôl yr Aelod

  • Presenoldeb yng nghyfarfodydd y Panel
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol
  • Y gallu i herio yn adeiladol o fewn y Panel
  • Dadansoddi a defnyddio tystiolaeth
  • Cyfrannu at ddatblygu polisi drwy brofiad / gwybodaeth o lywodraeth leol neu ganghennau eraill o wasanaeth cyhoeddus – gan gynnwys paratoi papurau trafod / ysgrifennu adroddiadau
  • Deall materion cydraddoldeb ac ymrwymo iddynt, a herio arferion sy’n gwahaniaethu

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol y rôl 

Meini Prawf Hanfodol 

Dylai pob ymgeisydd ddangos tystiolaeth o'r canlynol: 

  • Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig gydag unigolion ar bob lefel, o'r cyhoedd i uwch arweinwyr
  • Yn gallu ystyried a dadansoddi tystiolaeth o ystod eang o ffynonellau, gan wneud penderfyniadau teg a rhesymol yn seiliedig ar y dystiolaeth honno
  • Yn gallu gweithio'n hyderus fel aelod o'r tîm ac yn annibynnol yn ôl yr angen. 
  • Yn deall materion cydraddoldeb ac wedi ymrwymo iddynt, gan herio arferion sy’n gwahaniaethu 
  • Yn deall egwyddorion bywyd cyhoeddus ac wedi ymrwymo iddynt (Egwyddorion Nolan)
  • Yn gallu gweithio mewn modd diduedd yn wleidyddol. 

 

Meini prawf dymunol ar gyfer Aelod 

  • Yn gallu deall a siarad Cymraeg
  • Yn ymwybodol o rôl Cynghorwyr a/neu waith awdurdodau lleol, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol neu Awdurdodau Tân ac Achub Cymru.

Dyddiadau cyfweliadau

3 Medi 2019
6 Medi 2019

Dyddiad cau

17/07/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.