Swydd Wag -- Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol (y Trydydd Sector) Iechyd Cyhoeddus Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Ei weledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru ac, wrth gyflawni'r weledigaeth hon, mae'n chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu’r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.
Mae'r sefydliad yn gweithio'n agos gyda chymunedau, sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol, gweinidogion a swyddogion ac ystod eang o bartneriaid gan gynnwys y sector gwirfoddol, tai, addysg a'r heddlu a’r system cyfiawnder troseddol. Mae ganddo rôl gynyddol hefyd o ran cefnogi iechyd y cyhoedd yn rhyngwladol fel Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd a thrwy ei holl gysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol gan gynnwys Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd Cyfarwyddwyr Anweithredol, ymysg pethau eraill, yn:
- Cyflawni dyletswyddau llywodraethu’r sefydliad yn effeithiol, yn ei holl ffurfiau integredig. Bwrdd Unedol yw'r Bwrdd, ac mae Cyfarwyddwyr Gweithredol ac Anweithredol yn gyfrifol ar y cyd am wneud penderfyniadau ar lefel y Bwrdd. Rôl y Cyfarwyddwyr Anweithredol yw craffu a goruchwylio ac i roi o’u profiad a'u harbenigedd i gefnogi trafodaethau a phenderfyniadau'r Bwrdd.
- Pennu naws a diwylliant y sefydliad, gan sicrhau y gall yr holl staff ddod i'r gwaith a ffynnu drwy fod yn nhw eu hunain, heb ofni gwahaniaethu nac anfantais o unrhyw fath.
- Cynnal ‘llwybr clir' o'r Bwrdd i'r rheng flaen ac yn ôl i’r Bwrdd.
- Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a’ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o’r gwaith rheoli beunyddiol.
- Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a’u derbyn, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’r Bwrdd yn gydgysylltiedig, yn gadarn ac yn dryloyw.
- Mae disgwyl y bydd gennych wybodaeth ymarferol ddigonol o wasanaethau a swyddogaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau trefniadau llywodraethu da, ac i asesu risg yn effeithiol a rheoli a chyflawni yn erbyn cynlluniau cymeradwy.
- Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill i sicrhau bod yr holl safbwyntiau perthnasol yn cael eu hystyried yn ystod y broses benderfynu. Dylai buddiannau defnyddwyr gwasanaeth fod o'r pwys mwyaf yn hyn o beth.
- Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol er mwyn sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau mor wybodus â phosibl.
- Goruchwylio’r broses o stiwardio adnoddau’n effeithiol, gan sicrhau bod y broses o ddyrannu a defnyddio’r adnoddau’n agored a bod atebolrwydd ynghylch hynny
- Lle mae gan Gyfarwyddwyr Anweithredol bortffolio penodol, adlewyrchu barn rhanddeiliaid y portffolio hwnnw ar lefel y Bwrdd.
- Cyflawni’r rôl yn unol ag Egwyddorion Nolan a Chod Ymddygiad Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Yn eich cais bydd angen i chi ddangos:
Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y Trydydd Sector yng Nghymru;
Y gallu i gymhwyso'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â’r Trydydd Sector, mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd a phenderfynyddion ehangach iechyd, mewn amgylchedd Bwrdd strategol;
Dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio ar y Trydydd Sector yn genedlaethol a'r gallu i weithio mewn partneriaeth i gyflawni'r canlyniadau ar y cyd/a ddymunir;
Profiad o weithio ar lefel uwch swyddog neu lefel Bwrdd.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael mwy o wybodaeth am weithio i PHW, gweler y ddolen
Recriwtio cyfarwyddwyr anweithredol i Iechyd Cyhoeddus Cymru - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r:
Tîm Penodiadau Cyhoeddus PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Cyfarwyddwyr Anweithredol, cysylltwch â:
Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ffôn: 07711 819665
E-bost: helen.bushell@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru, ewch i wefan y sefydliad: https://icc.gig.cymru/
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus
Sut i wneud cais
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r:
Tîm Penodiadau Cyhoeddus PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Cyfarwyddwyr Anweithredol, cysylltwch â:
Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ffôn: 07711 819665
E-bost: helen.bushell@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru, ewch i wefan y sefydliad: https://icc.gig.cymru/
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.