Swydd Wag -- Penodi Aelod - Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Manylion y swydd

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Caiff cyfarfodydd yr Awdurdod eu cynnal fel arfer ym mhrif swyddfa Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Aberhonddu.

Bydd aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn derbyn cyflog sylfaenol o £3,625 y flwyddyn (caiff lefel y tâl cydnabyddiaeth ei adolygu gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac mae'n seiliedig ar ragdybiaeth o 42 diwrnod o waith y flwyddyn, gyda diwrnodau ychwanegol yn cael eu hystyried fel yr elfen gwasanaeth cyhoeddus). Mae Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod a'r ddau gadeirydd pwyllgor yn derbyn cyflog uwch ychwanegol. Caiff aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog eu hystyried fel deiliaid swyddi at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol. O ganlyniad, codir treth ar y ffioedd sy'n daladwy, o dan Atodlen E y Ddeddf Trethi a byddant yn ddarostyngedig i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1. Caiff y dyledion hyn eu didynnu drwy system gyflogres Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a thelir y ffi net i ddeiliad y swydd. Ni chodir TAW ar y ffioedd.

 

Gellir hawlio costau teithio a threuliau rhesymol eraill a allai godi wrth wneud gwaith ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oddi wrth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o fewn y terfynau cydnabyddedig. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau mewn perthynas â gofal plant/gofal yr henoed/gofalwr cynorthwyol wrth i chi wneud gwaith ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Os hoffech wybodaeth bellach ynglŷn ag a fyddech yn gymwys ar gyfer lwfansau gofal, cysylltwch ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

Julia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ffôn:  01874 620400 neu julia.gruffydd@beacons-npa.gov.uk

 

4
mis

Rôl y corff

Beth yw'r Parciau Cenedlaethol?

Mae'r Parciau Cenedlaethol yn dirweddau o bwysigrwydd rhyngwladol.  Er eu bod yn wledig yn bennaf o ran eu natur maent yn agos at gymunedau trefol ac mae ganddynt botensial sylweddol i gyfoethogi bywydau pobl Cymru, ac ymwelwyr i Gymru, a chyfrannu'n gadarnhaol at economi Cymru.  Un o dasgau allweddol Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yw helpu i sicrhau y bydd yr ardaloedd arbennig hyn, yn y dyfodol, yn lleoedd sydd â thirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth gyfoethocach a mwy amrywiol na heddiw, sy'n cael eu mwynhau a’u gwerthfawrogi gan drawstoriad llawn o'r gymdeithas.

 

Beth yw eu swyddogaeth?

Mae gan Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddau ddiben statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995:

 

  • cadw a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol; 
  • hybu cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig [y Parc]

 

Yn ogystal â cheisio cyflawni eu dau ddiben statudol mae gan Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddyletswydd i feithrin llesiant economaidd a chymdeithasol eu cymunedau lleol.

Os yw'n ymddangos bod gwrthdaro rhwng y dibenion hyn, rhoddir y pwyslais mwyaf ar ddiben cadw a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal o fewn y Parc Cenedlaethol.

 

Ffyrdd o weithio

Mae'n ofynnol i bob Awdurdod baratoi Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol.  Mae'r Cynllun yn amlinellu'r polisïau ar gyfer rheoli'r Parc a threfnu a darparu gwasanaethau a chyfleusterau gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol.  Mae'n cynnwys polisïau ar gyfer rheoli tir yn y Parc Cenedlaethol ac mae'n ffurfio'r sail ar gyfer cydweithredu nid yn unig gyda sefydliadau cadwraeth statudol a gwirfoddol, ond hefyd gyda thirfeddianwyr cyhoeddus a phreifat eraill.  Mae ymgynghori yn ystod y gwaith o baratoi'r Cynllun yn caniatáu i bobl gyfrannu at gyflawni polisïau ymarferol ac mae'n hanfodol ar gyfer cydweithredu sympathetig gyda phreswylwyr ac eraill sydd â diddordeb yn y Parc.

 

Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol  Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned wrth baratoi Cynlluniau Rheoli'r Parc Cenedlaethol a byddant yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol hefyd yn awdurdod cynllunio ar gyfer eu hardaloedd ac maent yn gyfrifol am lunio cynlluniau datblygu a rheoli datblygu. 

 

Beth yw eu Strwythur a'u Haelodaeth?

O dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 mae’r tri  Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru yn Awdurdodau Lleol â diben arbennig.  Maent yn gyrff corfforaethol gyda phwerau gweithredol.  Mae dibenion y Parciau yr un peth yng Nghymru a Lloegr ond mae aelodaeth Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn wahanol yn y ddwy wlad.

 

Yng Nghymru caiff dau draean o’r seddi eu llenwi gan gynghorwyr yr Awdurdodau Lleol cyfansoddol er mwyn adlewyrchu buddiannau lleol a chaiff un traean eu llenwi gan benodiadau a wnaed gan Weinidogion Cymru i gynrychioli'r buddiannau cenedlaethol.  Wrth benodi aelodau i fod ar Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol, caiff Awdurdodau Lleol eu hannog i ddefnyddio cynghorwyr sy'n cynrychioli wardiau sydd naill ai’n gyfangwbl neu'n rhannol o fewn ffin y Parc.

 

O ble y daw arian Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol?

Mae Gweinidogion Cymru yn darparu'r rhan fwyaf o’r cyllid i Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ar ffurf Grant y Parciau Cenedlaethol. Daw dau draean o Grant y Parciau Cenedlaethol yn uniongyrchol wrth Weinidogion Cymru ac mae Awdurdodau’r Parciau yn codi lefi ar eu Hawdurdodau Lleol cyfansoddol ar gyfer y traean sy’n weddill.  Mae grant ychwanegol ar gael oddi wrth Weinidogion Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf a ragnodwyd.  Mae Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol hefyd yn derbyn incwm, er enghraifft, oddi wrth weithgareddau masnachol, ffioedd parcio ceir a ffioedd ceisiadau cynllunio.  Mae'r Gweinidog dros yr Amgylchedd yn anfon llythyr grant strategol blynyddol sy'n amlinellu blaenoriaethau ac amcanion cytunedig Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Rôl yr Aelodau

Mae'n ofynnol i aelodau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddeall a dangos ymrwymiad i ddibenion y Parc Cenedlaethol a bod yn barod i roi o’u hamser i fynychu cyfarfodydd pwyllgor ac Awdurdod llawn yn rheolaidd, yn ogystal â digwyddiadau datblygu aelodau, gweithgorau, digwyddiadau a chynrychioli'r Awdurdod ar gyrff allanol.

 

 

Disgrifiad o'r swydd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Rôl a chyfrifoldebau

Mae aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gyfrifol, yn unigol, ac ar y cyd, i Lywodraeth Cymru am ddarparu arweinyddiaeth effeithiol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ar gyfer gosod ei bolisïau a sicrhau ei fod yn diwallu ei amcanion o fewn y fframwaith statudol, polisi ac ariannol a osodwyd iddo. Mae gan yr aelodau ddyletswydd i weithredu’n unol â’r gyfraith ar bob adeg, yn ddidwyll ac er budd pennaf y Parc Cenedlaethol, a bod yn ofalus i sicrhau nad yw eu safle cyhoeddus yn cael ei beryglu er budd buddiannau preifat ar unrhyw adeg, na chodi amheuaeth bod hyn wedi digwydd.

 

Tasgau allweddol

  • Arwain Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn arbennig er mwyn diffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol a gosod amcanon heriol.

 

  • Sicrhau bod gweithgareddau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cael eu cynnal a'u hyrwyddo mewn modd mor effeithlon ac effeithiol ag y bo modd.

 

  • Sicrhau bod strategaethau'n cael eu datblygu ar gyfer cyflawni dibenion a dyletswyddau cyffredinol y Parc Cenedlaethol, yn unol â'r polisïau a’r blaenoriaethau a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.  

 

  • Monitro perfformiad Awdurdod y Parc Cenedlaethol er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ei nodau, amcanion a thargedau perfformiad yn llawn.

 

  • Sicrhau bod dull Awdurdod y Parc Cenedlaethol o reoli, rheoleiddio a monitro ei weithgareddau, yn ogystal â gweithgareddau’r cyrff eraill y gallai fod yn eu hariannu neu eu cefnogi, yn darparu gwerth am arian o fewn fframwaith o arfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb a chymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol.

 

  • Hyrwyddo amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol. 

Dyddiadau cyfweliadau

24 Ebrill 2018
25 Ebrill 2018

Dyddiad cau

01/03/18 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

Ymrwymiad Amser

Bydd disgwyl i aelodau fod ar gael i weithio o leiaf pedwar diwrnod y mis fel aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu'r hyfforddiant sefydlu angenrheidiol a mynychu sesiynau datblygu yn ôl y galw drwy gydol tymor eu penodiad. Bydd yr aelodau yn cael y cyfle i eistedd ar weithgorau anffurfiol gyda swyddogion, a gallent ddod yn aelod eiriolwr ar gyfer meysydd penodol o waith. 

 

Hyd y Penodiad

Bydd y penodiad yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2018 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2022, ac ar ôl hynny gallai'r Gweinidog ystyried ailbenodi heb gystadleuaeth am dymor pellach.


Cymhwysedd

Mae unigion sydd eisoes wedi gwasanaethu ar Awdurdod Parc Cenedlaethol yn gymwys i wneud cais. Mae hyn yn cynnwys cyn-aelodau neu aelodau cyfredol sydd wedi gwasanaethu, neu y byddant wedi gwasanaethu, am dymor o 10 mlynedd.

Dylai ymgeiswyr fod yn bobl sy'n ymddwyn mewn modd a fydd yn cynnal hyder y cyhoedd ar bob adeg.

Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 (Atodlen 7, paragraffau 7 a 19) yn amlinellu'r amgylchiadau sy’n anghymhwyso rhywun rhag bod yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol. Mae hyn yn berthnasol i aelodau presennol a'r rheini sy'n ystyried bod yn aelod.

Yn ei hanfod, os ydych wedi'ch cyflogi'n uniongyrchol gan Awdurdod Lleol cyfansoddol sy'n enwebu aelodau i Awdurdod Parc Cenedlaethol, neu os oes gennych swydd sydd â chyfyngiadau gwleidyddol mewn unrhyw awdurdod lleol ym Mhrydain rydych yn anghymwys i wneud cais. Dylai ymgeiswyr nodi hefyd fod bod yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn swydd sy’n eu hanghymhwyso rhag bod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015. http://www.legislation.gov.uk/uksi/2015/1536/contents/made.


Gwrthdaro Buddiannau 

Bydd gofyn ichi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat a allai fod, neu y gellid dehongli eu bod, yn gwrthdaro â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau fel aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys unrhyw fuddiannau busnes neu swyddi o awdurdod y tu allan i’ch rôl o fewn Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Bydd unrhyw wrthdaro buddiannau yn cael ei drafod yn y cyfweliad. Os byddwch yn cael eich penodi, bydd disgwyl ichi hefyd ddatgan y buddiannau hyn ar gofrestr sydd ar gael i'r cyhoedd ac ar wefan yr Awdurdod.


Safonau Mewn Bywyd cyhoeddus

Bydd disgwyl ichi ddangos safonau uchel o ran ymddygiad corfforaethol a phersonol. Bydd gofyn i'r holl ymgeiswyr llwyddiannus gydymffurfio â Chod Ymddygiad Aelodau Byrddau Cyrff Cyhoeddus. Gallwch weld y ddogfen yma:  

http://www.bl.uk/aboutus/governance/blboard/Board%20Code%20of%20Practice%202011.pdf

 

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 03000 255454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.