Swydd Wag -- Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi / Dirprwy Gadeirydd Bwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Dyddiad

Manylion y swydd

Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
TBC

Bydd swydd Cadeirydd y Pwyllgor yn derbyn £366 y diwrnod. Bydd cynllun i ad-dalu treuliau cynhaliaeth, a threuliau eraill a ysgwyddir fel rhan o’r gwaith. Bydd y cynllun hwn yn cael ei gymeradwyo gan Weinidogion. Cewch hawlio treuliau teithio a threuliau rhesymol eraill a ysgwyddir wrth wneud eich gwaith yn unol â'r cynllun hwn. Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau gofal plant/gofal henoed/gofal cynorthwyol wrth wneud gwaith ar ran y corff.

Nid yw'r swydd hon yn bensiynadwy.

4
mis

Rôl y corff

  • Fel aelod o Fwrdd Rhaglen y Comisiwn, goruchwylio cynnydd yr holl brosiectau yn erbyn cynllun rhaglen lefel uchel
  • Gweithio ar y cynllun pontio gyda'r Prif Swyddog Gweithredol ac UwchSwyddog Cyfrifol Llywodraeth Cymru ar Fwrdd y Rhaglen i sicrhau bod y Comisiwn yn weithredol mewn pryd ac yn addas i’w ddiben erbyn ei ddiwrnod
    gweithredu cyntaf
  • Monitro risgiau, problemau, ac elfennau rhyngddibynnol ar lefel y rhaglen
  • Rhoi adborth i dîm y rhaglen ar y cynigion a’r cynnydd
  • Rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a yw’n hapus gyda phob cam o’r rhaglen ar gerrig milltir allweddol, a phan gwblheir y prosiectau dan sylw
  • Ystyried buddiannau rhanddeiliaid allanol
  • Nodi cyfleoedd a manteision posibl.


Unwaith bydd y Comisiwn wedi'i sefydlu

  • Cefnogi'r Cadeirydd i gyflawni cylch gwaith y Bwrdd
  • Arwain gwaith unrhyw is-grŵp (yn ôl y gofyn) i gefnogi cynllun gwaith y Bwrdd a chyflawni targedau gweithredu
  • Cyfrannu at sicrhau bod addysg drydyddol ac ymchwil yn ganolog i waith y Bwrdd
  • Cydweithio â rhanddeiliaid wrth ddatblygu blaenoriaethau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan sicrhau arferion gorau, gwerth am arian ac y cydymffurfir â blaenoriaethau eraill y llywodraeth.
  • Hyrwyddo addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan dynnu sylw at y cyfleoedd a'r manteision
  • Sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni nodau a gweledigaeth strategol y Comisiwn yn effeithiol
  • Cyflawni ei swyddogaethau yn unol â'r cylch gorchwyl y cytunwyd arno
  • Hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus; cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb, a gwerth am arian; sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol yn cael eu sefydlu a'u gweithredu i gyflawni'r cyfrifoldebau, y swyddogaethau a'r dyletswyddau cyfreithiol a roddir ar y corff drwy Statud.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cadeirio’r Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi ac yn dirprwyo ar ran cadeirydd Bwrdd y Comisiwn. Fel Cadeirydd y Pwyllgor, bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o gynghori’r Comisiwn ynghylch sut i arfer ei swyddogaethau ymchwil ac arloesi. Bydd Dirprwy Gadeirydd Bwrdd y Comisiwn yn cyfrannu at y trefniadau pontio sydd eu hangen er mwyn sefydlu'r corff newydd erbyn Ebrill 2024 fan bellaf. Bydd yn atebol i’r Cadeirydd, ac yn gyfrifol am lywio penderfyniadau a’r hyn a gyflawnir mewn perthynas â sefydlu’r Comisiwn. Bydd y Dirprwy Gadeirydd yn sicrhau bod cyngor awdurdodol ac amserol yn cael ei roi i Weinidogion Llywodraeth Cymru drwy swyddogion, a bydd yn rhoi adborth i'r sectorau.

Bydd deiliad y swydd:

  • Yn arwain y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi o ran pennu cyfeiriad strategol swyddogaethau ymchwil ac arloesi’r Comisiwn
  • Yn cadeirio a hwyluso cyfarfodydd y Pwyllgor, penderfynu ar yr agenda a chymeradwyo'r cofnodion cyn iddynt gael eu rhannu â’r aelodau
  • Yn sicrhau bod busnes y Pwyllgor yn cael ei gyflawni’n effeithlon ac yn effeithiol
  • Yn annog pob aelod o’r Pwyllgor i gydweithio, a cheisio dod i gonsensws
  • Yn gweithredu’n deg ac yn ddiduedd bob amser ac er budd y Comisiwn, gan barchu cyfrinachedd fel y bo’n briodol Yn sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol ar gyfer y Pwyllgor yn cael eu sefydlu a'u gweithredu i gyflawni'r cyfrifoldebau, y swyddogaethau a'r dyletswyddau cyfreithiol a roddir ar y Comisiwn drwy Statud
  • Yn sicrhau bod y Pwyllgor yn gweithredu o fewn y cylch gorchwyl y cytunwyd arno
  • Yn sicrhau bod unrhyw wrthdaro buddiannau yn cael ei nodi a’i reoli’n briodol er mwyn sicrhau uniondeb y Pwyllgor bob amser
  • Yn hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus; cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian; sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol yn cael eu sefydlu a'u gweithredu i gyflawni'r cyfrifoldebau, y swyddogaethau a'r dyletswyddau cyfreithiol a roddir ar y corff drwy Statud
  • Yn dirprwyo ar ran y Cadeirydd i hwyluso cyfarfodydd Bwrdd y Comisiwn, penderfynu ar yr agenda a chymeradwyo’r cofnodion
  • Yn cefnogi’r Cadeirydd i arwain Bwrdd y Comisiwn o ran pennu cyfeiriad strategol y Comisiwn ac asesu a gwerthuso’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth fusnes, cynlluniau ac amcanion perfformiad y sefydliad, yn ôl yr
    angen
  • Yn cyflawni’r rôl allweddol o sicrhau bod gan holl aelodau’r Bwrdd rolau a chyfrifoldebau clir o ran y broses bontio i sefydlu’r Comisiwn
  • Yn cyfrannu at asesu gweledigaeth, cenhadaeth a nodau’r Comisiwn
  • Yn meithrin perthynas gydag arweinwyr y sector
  • Yn darparu cynrychiolaeth ar gyfer prosiectau ar lefel uwch, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

  • Arweinydd a rheolwr ar lefel uwch sy’n uchel ei barch ac yn ysbrydoli eraill, ac sydd â phrofiad o hyrwyddo ymchwil ac arloesi
  • Dealltwriaeth o amgylchedd ymchwil y sector addysg uwch, y trydydd sector neu’r sector preifat yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth aeddfed o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol
  • Record gwych o ysbrydoli ac ysgogi rhanddeiliaid sy'n dangos eich bod yn gweithio mewn ffordd gynhwysol a chydweithredol, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr staff
  • Record o reoli cydberthnasau cymhleth a heriol yn llwyddiannus, gan gynnig cymorth priodol yn ôl yr angen a rheoli perfformiad yn effeithiol
  • Y gallu i ddeall ymrwymiadau rôl gyhoeddus, fel y'u diffinnir yn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan
  • Dealltwriaeth glir o gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymrwymiad iddynt, a pharodrwydd i herio arferion sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl
  • Y gallu i herio meddylfryd a phrofi barn, gyda pharodrwydd i gael eich herio, ac annog trafodaeth agored er mwyn dod i benderfyniadau gwell.


Dymunol

  • Profiad o weithio ar gyllid a swyddogaethau cyfnewid gwybodaeth a pholisi ymchwil mewn prifysgol
  • Profiad o gyllid datblygu ymchwil ac arloesi, ac o rannu darpariaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
  • Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad oes gennych sgiliau o'r fath, dylech fod yn barod i wneud ymrwymiad i ddysgu ar ôl cael eich penodi. Darperir hyfforddiant, gan gynnwys cefnogaeth a hyfforddiant unigol.

Dyddiadau cyfweliadau

8 Tachwedd 2022
17 Tachwedd 2022

Dyddiad cau

30/09/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.